Wrth ymateb i eitem Newsnight neithiwr ar y Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Wrth ymateb i eitem Newsnight neithiwr ar y Gymraeg, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies:

“Roedd diffyg crebwyll i’w weld yn y ddadl, ynghyd ag anwybodaeth lwyr am y Gymraeg. Allech chi ddychmygu’r rhaglen yn gofyn a yw priod iaith unrhyw grŵp neu genedl arall yn rhyw fath o rwystr?

“Roedd hi fel petai fod yn rhaid i’r Gymraeg gyfiawnhau ei bodolaeth. Ymddengys nad oedd Newsnight yn ymwybodol mai’r Gymraeg yw iaith gyntaf llawer o bobl yng Nghymru. Ymddengys nad oedden nhw’n deall, chwaith, fod pawb sy’n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg.

“Does bosib na allai rhaglen fel  Newsnight ddod o hyd i un siaradwr Cymraeg i siarad am yr iaith; rhywun â dealltwriaeth ohoni a’r ffaith ei bod yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd.

“Roedd y cwestiynau am ddwyieithrwydd yn atal buddsoddi, a’r honiad nad yw cwmnïau am ddod yma oherwydd dwyieithrwydd, yn arddangos anwybodaeth am economi fodern Cymru, ynghyd ag anwybodaeth am y safonau Cymraeg cyfredol a’r cynlluniau a gyhoeddwyd gennym ddoe a thros yr wythnosau diwethaf gyda’r nod o hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.

“Pam na wnaethon nhw ymgynghori â’u cydweithwyr yn BBC Cymru; cydweithwyr sy’n ymdrin â’r mater hwn yn fynych? Ymddengys bod Cymru, er nad yw’n bell ofnadwy o Lundain, yn cael ei thrin fel rhyw wlad bellennig nad yw Newsnight yn gwybod fawr ddim amdani. Dylai’r rhaglen ymddiheuro a rhoi i’r gwylwyr ddadansoddiad craff a gwybodus o sefyllfa’r Gymraeg – maent yn haeddu hynny.”