Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu ar 30 Medi 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithlu practis cyffredinol
Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn nata ffynhonnell y datganiad hwn. Ceir manylion llawn yn y datganiad ystadegol. Cynghorir trin y niferoedd a gyflwynir yn y datganiad hwn â gofal.
Gostyngodd nifer y meddygon teulu yng Nghymru rhwng 2016 a 2017, ond ar y llaw arall bu cynnydd yn nifer y meddygon teulu locwm. Fodd bynnag, mae problemau ansawdd data yn golygu bod y cwymp yn nifer y meddygon teulu yn debygol o gael ei orbwysleisio. Yn gyffredinol, roedd cyfanswm nifer y meddygon teulu (gan gynnwys ymarferwyr locwm, cofrestryddion ac ymarferwyr wrth gefn) yn debyg iawn i'r nifer yn 2016.
Prif bwyntiau
- Roedd 1,926 meddyg teulu yn 2017, 83 (neu 4.1%) yn llai nag yn 2016, fodd bynnag, mae ffynhonnell arall yn awgrymu y gallai'r gostyngiad hwn fod cyn lleied â 26.
- Roedd 754 meddyg teulu locwm yn 2017, 70 (neu 10.2%) yn fwy nag yn 2016, sy'n parhau â’r duedd bod nifer y meddygon teulu locwm yn cynyddu.
- Roedd 239 o gofrestryddion ymarferwyr cyffredinol(hyfforddeion) yn 2017, 7 yn fwy nag yn 2016.
- I fesur meddygon teulu yn fwy cyflawn, dylid cynnwys pob meddyg teulu, staff locwm, ymarferydd wrth gefn a chofrestrydd. Y cyfanswm yn 2017 oedd 2,936, 8 yn llai nag yn 2016 (0.3%).
- Mae dadansoddiad ychwanegol yn dangos bod ychydig dros hanner o'r 212 o feddygon teulu a adawodd y gweithlu rhwng 2016 a 2017 wedi ail-ymuno fel meddygon teulu locwm. Felly, ni ddylid defnyddio ffigurau’r rheiny sydd wedi gadael fel y rhai nad ydynt yn gweithio fel meddyg teulu bellach.
- Mae llai o bractisau meddygon teulu nag yr oedd, ond y duedd yw bod mwy o feddygon teulu ym mhob practis.
- Mae'r duedd o weld cynnydd yn nifer y meddygon teulu benywaidd wedi parhau.
Adroddiadau
Ymarferwyr meddygol cyffredinol, ar 30 Medi 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cleifion cofrestredig a nifer ymarferwyr meddygon teulu yn ôl practis, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 94 KB
Poblogaethau practisau meddygon teulu yn ôl rhyw a grŵp oedran, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 223 KB
Ymarferwyr meddygon teulu yn ôl oedran a chlwstwr, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 61 KB
Gweithlu meddygon teulu fesul clwstwr, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 146 KB
Cleifion cofrestredig yn ôl practis, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 146 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.