Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai yfwyr niweidiol a pheryglus fydd yn profi effaith fwyaf gosod isafbris uned ar gyfer alcohol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil newydd a fydd, os caiff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu alcohol. Bwriad y Bil yw mynd i'r afael ag effeithiau iechyd goryfed alcohol. 

Cafodd Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2017 i ddiweddaru'r gwerthusiad yn seiliedig ar fodel a wnaed yn 2014  ar yr effaith debygol o osod ystod o bolisïau isafbris uned yng Nghymru. 

Cafodd adroddiad interim ei gyhoeddi heddiw sy’n diweddaru'r gwaith modelu a wnaed gan Brifysgol Sheffield yn 2014. Mae hefyd yn darparu dadansoddiad o'r effeithiau iechyd y byddai gosod isafbris uned o 50 ceiniog, er enghraifft, yn eu cael er mwyn gallu cymharu â'r hyn a ddefnyddiwyd yn adroddiad 2014. 

Mae'r ymchwil yn dangos bod yfwyr niweidiol yn prynu bron hanner (46%) eu halcohol am bris sy'n llai na 50c yr uned. Yfwyr niweidiol yw 4% o'r boblogaeth sy'n yfed, ac maen nhw'n yfed 27% o'r holl alcohol sy’n cael ei yfed yng Nghymru, ac yn gyfrifol am 20% o'r gwariant arno. 

Mewn cyferbyniad â hynny, mae yfwyr cymedrol yn prynu llai na chwarter (22%) o'u halcohol am bris sy'n llai na 50c yr uned, gan olygu y byddai yfwyr cymedrol ond yn gwario £8.30 yn ychwanegol y flwyddyn pe byddai'r isafbris uned yn 50c, er enghraifft. 

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos y canlynol:

  • Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 50c yn osgoi 66 o farwolaethau a 1,281 o dderbyniadau i ysbytai bob blwyddyn
  • Mae yfwyr niweidiol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cyfrif am 0.6% o’r boblogaeth sy’n yfed, ac mae'r model yn amcangyfrif y bydd yr yfwyr niweidiol hyn yn profi gostyngiad o 45% yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a gostyngiad o 24% yn nifer y derbyniadau i ysbyty y gellir eu hosgoi
  • Mae bron tri chwarter o yfwyr yn yfed o fewn canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU sef 14 uned yr wythnos, ond mae 24% o yfwyr yn yfed ar lefelau a allai fod yn beryglus (14-50 uned yr wythnos i ddynion a 14-35 i fenywod), ac mae dros 4% yn yfwyr niweidiol (dros 50 uned yr wythnos i ddynion a 35 i fenywod)
  • Ychydig iawn o alcohol sy'n cael ei werthu yn y sector mewnfasnach (tafarndai a bwytai) am bris islaw'r enghraifft o 50c yr uned (llai nag 1% o'r holl werthiant), ond mae cyfran sylweddol o'r alcohol yn y sector allfasnach (siopau trwyddedig) (46%) a 37% o'r holl unedau a yfir yn gyffredinol yn cael eu prynu am lai na 50c yr uned. 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae'r ymchwil hon yn dystiolaeth bellach bod cysylltiad clir iawn ac uniongyrchol rhwng lefelau goryfed ac argaeledd alcohol rhad. 

"Bydd cyflwyno isafbris uned yn cael effaith glir ar y rheini sy'n yfed lefelau niweidiol a pheryglus o alcohol rhad a chryf. Mae hefyd disgwyl i'r isafbris uned wneud cyfraniad pwysig at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy wella canlyniadau iechyd yfwyr niweidiol a pheryglus sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. 

"Mae modd osgoi pob marwolaeth sy'n gysylltiedig ag alcohol – felly drwy gyflwyno'r mesur hwn, byddwn yn achub bywydau."