Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cysylltiad rhwng yfed a gyrru a damweiniau, canlyniadau profion anadl gyrwyr mewn damweiniau a chamau gorfodi sy'n ymwneud ag yfed a gyrru for 2017.

Prif bwyntiau

  • Yn 2016, roedd 12% o bob gyrrwr cerbyd modur a 18% o feicwyr/gyrwyr beiciau modur a laddwyd mewn damwain traffig yn uwch na'r terfyn yfed a gyrru.
  • Mae’r Adran Drafnidiaeth yn adrodd bod 7% o ddamweiniau sy'n achosi marwolaeth neu anafiad difrifol (KSI) a ddigwyddodd yng Nghymru yn 2016 yn ymwneud â gyrwyr uwchlaw’r terfyn alcohol yn y gwaed.
  • O safbwynt damweiniau ffordd, mae barn swyddogion yr heddlu am ffactorau cyfrannol a arweiniodd at ddamweiniau yn awgrymu ffigur o 7% o ddamweiniau KSI yn ystod 2017 yn ymwneud â gyrwyr a oedd ‘dan ddylanwad alcohol’.
  • Yn 2017, roedd 70 o ddamweiniau lle y gwnaeth swyddog yr heddlu adrodd bod cerddwyr dan ddylanwad alcohol yn ffactor cyfrannol.

Dengys profion anadl a wnaed ar yrwyr ar ôl damwain:

  • roedd 4.6% o yrwyr (134) a oedd mewn damweiniau uwchlaw'r terfyn cyfreithiol ar gyfer gyrru
  • digwyddodd dros ddwy ran o dair o'r profion positif rhwng 6yp a 4yb.
  • roedd gyrwyr yn fwy tebygol o gael prawf positif ar benwythnosau yn hytrach nag yn ystod yr wythnos.

Adroddiadau

Yfed a gyrru, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.