Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cysylltiad rhwng yfed a gyrru a damweiniau, canlyniadau profion anadl gyrwyr mewn damweiniau a chamau gorfodi sy'n ymwneud ag yfed a gyrru ar gyfer 2016.

Prif bwyntiau

  • Yn 2015, 6% o'r holl yrwyr cerbydau modur a 8% o yrwyr beic modur/beicwyr a laddwyd mewn gwrthdrawiadau traffig dros y terfyn yfed a gyrru.
  • Mae’r Adran Drafnidiaeth yn adrodd bod 8% o ddamweiniau marwolaeth ac anafiad difrifol (KSI) a ddigwyddodd yng Nghymru yn 2015 yn ymwneud â gyrwyr uwchlaw’r terfyn alcohol yn y gwaed.
  • O safbwynt damweiniau ffordd, mae barn swyddogion yr heddlu am ffactorau cyfrannol a arweiniodd at ddamweiniau yn awgrymu ffigur o 9% o ddamweiniau KSI yn ystod 2016 yn ymwneud â gyrwyr a oedd ‘dan ddylanwad alcohol’.
  • Yn 2016, roedd 66 o ddamweiniau lle wnaeth y swyddog heddlu adrodd bod cerddwyr dan ddylanwad alcohol yn ffactor cyfrannol yn y ddamwain.
  • Yn 2016, roedd tua 3.5 o ddamweiniau lle mae'r gyrrwr yn dan ddylanwad alcohol, ar gyfer pob 1 damwain lle mae gyrrwr yn amharu ar gyffuriau.

Dengys profion anadl a wnaed ar yrwyr ar ôl damwain:

  • amrywiad sylweddol rhwng misoedd y flwyddyn a'r un misoedd mewn blynyddoedd gwahanol gyda gostyngiad o 10.3% mewn profion cadarnhaol a welir o’i gymharu â data 2015(r)
  • roedd gyrwyr yn fwy tebygol o brofi yn gadarnhaol ar y penwythnos nag yn ystod yr wythnos, (4.6 v 2.8 (r))
  • 64.5% o yrwyr yn profi yn gadarnhaol rhwng 18:00 a 03:59.

(r) Diwygiedig ar 15 Rhagfyr 2017.

Adroddiadau

Yfed a gyrru, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.