Heddiw, lansiodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, gam nesaf ymgyrch ymwybyddiaeth sydd wedi’i chynllunio i helpu pawb yng Nghymru i ddeall a ydynt yn gymwys i gael cymorth ar gyfer talu eu bil treth gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ers iddynt gael eu lansio yn 2018, mae ein tudalennau Cymorth y Dreth Gyngor ar y we a’n hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol wedi helpu mwy na 60,000 o bobl i gael eu dwylo ar yr wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnynt am y gwahanol fathau o gymorth a gynigir.

Bydd cam nesaf yr ymgyrch yn targedu aelwydydd incwm isel yn benodol, a’r rheini sydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, neu a fydd yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun, drwy godi ymwybyddiaeth o Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

Rydyn ni’n gwybod bod yr aelwydydd sy’n fwyaf agored i niwed ym mhob cwr o Gymru yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn sgil agwedd Llywodraeth y DU at ddiwygio lles. Ond, er gwaethaf hynny, mae’r nifer sy’n ymuno â’n cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor wedi syrthio’n raddol.

Felly, heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn ymestyn ein hymdrechion i sicrhau bod y bobl hynny sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ymwybodol o’r cymorth y gallent fod yn gymwys i’w gael.

Mae hwn yn un o gyfres o fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i wella trethi lleol a’r fframwaith cyllid llywodraeth leol ehangach er mwyn inni allu ymateb i anghenion gwasanaethau lleol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae ein rhaglen o ddiwygiadau tymor byr, tymor canolig a hirdymor, a gyflwynir fesul cam, yn eang ei chwmpas ac mae wedi bod ar waith ers 2017. Cyhoeddir adroddiad heddiw sy’n tynnu sylw at rywfaint o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud hyd yma eleni. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dileu’r bygythiad o garchar i unigolion nad ydynt yn talu’r dreth gyngor yng Nghymru o 1 Ebrill 2019 a pharhau i weithio gydag awdurdodau lleol i wella’r modd y bydd y dreth gyngor yn cael ei chasglu yn ogystal â dulliau rheoli dyled
  • Safoni, am y tro cyntaf, sut y mae pob awdurdod lleol yn trin aelwydydd sy’n agored i niwed a’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd drwy Brotocol y Dreth Gyngor newydd
  • Darparu esemptiad newydd i’r rheini sy’n gadael gofal a safoni’r broses ymgeisio ar gyfer unigolion â nam meddyliol difrifol y mae angen iddynt wneud cais am ostyngiad neu esemptiad
  • Darparu cyfanswm o £230m o ryddhad i gefnogi busnesau gyda’u biliau ardrethi
  • Ymchwilio i ddiwygio mwy sylfaenol ar gyfer y tymor nesaf a thu hwnt, gan weithio gyda sefydliadau arbenigol i ystyried syniadau fel trethi lleol sy’n seiliedig ar werth tir, sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy blaengar neu drethi lleol sy’n seiliedig ar incwm.