Neidio i'r prif gynnwy

O ddydd Mawrth 1 Medi ymlaen, bydd sefydliadau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn gallu gweld a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n werth cyfanswm o £53 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd lleoliadau cerddoriaeth; stiwdios recordio ac ymarfer; sefydliadau ac atyniadau treftadaeth; amgueddfeydd a gwasanaethau archifau achrededig; llyfrgelloedd; digwyddiadau a’r rheini sy’n darparu cymorth technegol ar eu cyfer; sinemâu annibynnol, a’r sector cyhoeddi yn gallu gwneud cais am gyfran o £18.5 miliwn a fydd ar gael o dan y gronfa newydd.

Mae’r cyllid diweddaraf hwn yn rhan o becyn gwerth £53 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector diwylliannol a’r sector celfyddydau wrth iddynt ddygymod â gostyngiad dramatig yn eu refeniw o ganlyniad i’r pandemig.

Mae elfen arall, wahanol o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, sy’n werth £27.5 miliwn, yn cael ei darparu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi theatrau ac orielau. Lansiwyd y gronfa honno ar 17 Awst ac mae’r manylion i’w gweld ar wefan Cyngor y Celfyddydau.

Bydd y gwiriwr cymhwystra ar gael ar-lein o heddiw (dydd Mawrth, 1 Medi) o 10am. Bydd modd cyflwyno ceisiadau am gymorth o’r gronfa o’r wythnos yn dechrau 14 Medi. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 2il Hydref.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rydyn ni wedi gwrando ar ein partneriaid ar draws y sectorau diwylliannol a chreadigol, ac wedi gweithio gyda nhw ar yr ail becyn cymorth hwn. Rydyn ni’n cydnabod yr heriau aruthrol a digynsail sy’n wynebu holl sylfaen ein ffordd o fyw yma yng Nghymru yn sgil y pandemig, ac rydyn ni am ganmol sefydliadau am eu cryfder a’r creadigrwydd.

“Bydd ein gwiriwr cymhwystra ar gael o heddiw ’mlaen. Bydd yn caniatáu i gwmnïau weld a ydyn nhw’n gymwys i wneud cais, a bydd yn rhoi amser iddyn nhw baratoi eu ceisiadau, cyn i’r gronfa agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach yn y mis.

Bydd grant o hyd at £150,000 (hyd at 100% o’r costau cymwys), na fydd gofyn ei ad-dalu, ar gael i bob sefydliad drwy ddwy broses wahanol:

  • O dan £10,000: proses gyflym ar gyfer sefydliadau llai a fydd yn seiliedig ar y costau cymwys
  • Rhwng £10,000 i £150,000: proses fanylach a fydd yn seiliedig ar y costau cymwys.

Bydd y system brysbennu yn dangos pa broses y dylai sefydliadau ei dilyn.

Cliciwch yma o 10am ar 1 Medi i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth o dan y Gronfa Adferiad Diwylliannol a sefydlwyd mewn ymateb i COVID-19.

Bydd cronfa gwerth £7 miliwn ar gael hefyd i gynorthwyo gweithwyr llawrydd yn y sector sydd wedi dioddef oherwydd y pandemig. Dylech droi at y gwiriwr cymhwystra i gael rhagor o fanylion am y gronfa honno.