Bydd Procurex Cymru yn cael ei gynnal yn y Motorpoint Arena, Caerdydd ar 18 Mawrth 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Unwaith eto, bydd y gynhadledd a’r arddangosfa drwy’r dydd yn dod â sefydliadau allweddol o bob rhan o’r dirwedd caffael yng Nghymru ynghyd.

Mae'r Gweinidog Cyllid a Threfn, Rebecca Evans eisoes wedi'i chadarnhau fel prif siaradwr, gyda llawer mwy o siaradwyr cyffrous i'w cyhoeddi dros y misoedd nesaf. Gydag amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio hefyd ar gael, mae’n ymddangos y bydd y digwyddiad yn ddiwrnod amhrisiadwy i bawb sy’n gysylltiedig â chaffael yn y sector cyhoeddus.

Mae’r digwyddiad yn agored i brynwyr a chyflenwyr, ac mae modd cofrestru nawr.

Bydd Gwobrau Rhagoriaeth Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) ym maes Caffael Cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn cael eu cynnal gyda'r nos ar 18 Mawrth 2020, yng Ngwesty'r Mercure, Caerdydd.