Mae dwy filiwn o lythyrau a thaflenni yn cael eu hanfon i gartrefi ar hyd a lled Cymru i ddweud wrth drethdalwyr am gyfraddau treth incwm newydd Cymru.
Mae’r llythyr gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r daflen gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrth drethdalwyr sy’n byw yng Nghymru y bydd eu cod treth yn dechrau â’r llythyren C o 6 Ebrill ymlaen.
Ni fydd trethdalwyr Cymru yn gweld unrhyw wahaniaeth yn y dreth incwm y byddant yn ei thalu yn 2019-20 ar ôl i gyfraddau treth incwm Cymru gael eu cyflwyno. Ond, o 6 Ebrill 2019, bydd rhywfaint o’r dreth incwm a godir yng Nghymru yn cael ei thalu i Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf, i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn wahanol i’r system bresennol lle mae’r holl dreth incwm a delir gan drethdalwyr sy’n byw yng Nghymru yn cael ei thalu i Lywodraeth y DU i ariannu gwariant yn y Deyrnas Unedig.
Llywodraeth Cymru fydd yn cynnig y cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru a bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arnynt.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig gosod y cyfraddau treth incwm cyntaf i Gymru ar 10c. Mae hynny’n golygu, pan gyflwynir y trefniadau newydd ym mis Ebrill, y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau dalu’r un cyfraddau treth incwm cyffredinol â threthdalwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon.
“Bydd yr holll dreth incwm a delir gan bobl sy’n byw yng Nghymru yn dal i gael ei chasglu fel un taliad yn ôl yr arfer, ond bydd yr arian a godir yng Nghymru yn aros yma i gael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, ysbytai a ffyrdd.”
Mae cyfraddau treth incwm Cymru yn cael eu cyflwyno ar ôl i ddwy dreth arall, y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, gael eu cyflwyno’n llwyddiannus ym mis Ebrill 2018. Y rhain oedd y trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 mlynedd ac roeddent yn disodli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfraddau treth incwm Cymru ar gael yn llyw.cymru
Gallwch hefyd ddilyn yr ymgyrch ar Twitter: