Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’r neges gan Weinidogion Cymru heddiw, wrth iddynt gyhoeddi cyngor pwysig i fusnesau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Deyrnas Unedig i fod i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref – gyda chytundeb neu heb un – ac mae angen i fusnesau Cymru fod yn barod.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Jeremy Miles:

"Rydym yn parhau i wynebu bygythiad gwirioneddol o gael Brexit anhrefnus. Fel Llywodraeth gyfrifol, diogelu buddiannau pobl Cymru yw ein blaenoriaeth.

"Rydym wedi nodi pum cam gweithredu syml, ac isel eu cost, i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb - gallwch ddod o hyd i'r rhain ar wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru.

"Does dim modd i ni liniaru holl effeithiau cael ein taflu'n ddisymwth i fasnachu dan reolau Sefydliad Masnach y Byd mewn sefyllfa Brexit heb gytundeb. Mae tariffau llym, ac oedi a rhwystrau mewn porthladdoedd yn anorfod os byddwn yn ymadael â'r UE heb gytundeb, ond rydym yn gweithredu i baratoi ar gyfer y dyfodol a cheisio lleihau effeithiau canlyniadau trychinebus, lle bo hynny o fewn ein pŵer.

"Mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer pob canlyniad posibl, a dyna rydyn ni’n ei wneud. Ond gyda'r cyfyngder presennol yn senedd y DU, y diffyg consensws ynghylch ffordd ymlaen, a'r posibilrwydd y bydd cefnogwr Brexit caled yn arwain y Blaid Geidwadol a'r wlad, mae bygythiad ymadael heb gytundeb yn un real iawn.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates:

"Does dim amheuaeth y bydd ymadael â'r UE heb gytundeb yn arwain at oblygiadau enfawr ar gyfer busnes a masnach yng Nghymru a gweddill y DU.

“Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn dangos y bydd economi'r DU rhwng 6.3% a 9% yn llai yn y tymor hir mewn sefyllfa heb gytundeb. Yn frawychus, bydd yr economi yng Nghymru 8.1% yn llai.

"Yn wyneb hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl – gan weithio gyda busnesau a sefydliadau ledled Cymru – i baratoi ar gyfer y canlyniad gwaethaf posibl hwn, a diogelu swyddi a thwf cynaliadwy.

“Rwy'n annog pob busnes a sefydliad yng Nghymru i baratoi ar frys – mae 31 Hydref yn nesáu yn gyflym."

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir os yw’n ddewis rhwng Brexit heb gytundeb ac aros yn yr UE, y bydd yn ymgyrchu yn frwd i aros. Oherwydd y bygythiad cynyddol o gael Brexit heb gytundeb, mae’n galw am refferendwm gyda'r opsiwn i aros yn yr UE yn cael ei gynnwys ar y papur pleidleisio i gyflawni’r nod hwnnw a diogelu buddiannau Cymru.

Ydy’ch busnes chi’n barod ar gyfer Brexit heb gytundeb?

Dyma bum cam syml y gallwch eu cymryd i baratoi eich busnes:

  1. 1Os ydych yn mewnforio neu'n allforio cynnyrch, bydd angen i chi gael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI). Gallwch gael rhif EORI ar GOV.UK
  2. Ydych chi'n defnyddio neu'n trosglwyddo data personol i'r DU? Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal yn cydymffurfio â rheoliadau GDPR. Gallwch gael rhagor o wybodaeth o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Ymadael â'r UE: 6 cam i'w cymryd ar ico.org.uk
  3. Ydych chi'n cyflogi dinasyddion yr UE? Bydd angen iddynt wneud cais i aros yng Nghymru drwy Gynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE. Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: pecyn i gyflogwyr ar GOV.UK
  4. Os ydych yn wneuthurwr, edrychwch ar y gofynion rheoleiddiol ar gyfer marchnadoedd y DU a'r UE ynghylch labeli, trefniadau cymeradwyo a phrofion. Rheoliadau a safonau ar ôl Brexit ar GOV.UK
  5. Gallwch fynd i Borth Brexit Busnes Cymru i asesu pa mor barod yw eich busnes a chael cyngor arbenigol manwl.