Dyma’r neges gan Weinidogion Cymru heddiw, wrth iddynt gyhoeddi cyngor pwysig i fusnesau.
Mae'r Deyrnas Unedig i fod i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref – gyda chytundeb neu heb un – ac mae angen i fusnesau Cymru fod yn barod.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Jeremy Miles:
"Rydym yn parhau i wynebu bygythiad gwirioneddol o gael Brexit anhrefnus. Fel Llywodraeth gyfrifol, diogelu buddiannau pobl Cymru yw ein blaenoriaeth.
"Rydym wedi nodi pum cam gweithredu syml, ac isel eu cost, i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb - gallwch ddod o hyd i'r rhain ar wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru.
"Does dim modd i ni liniaru holl effeithiau cael ein taflu'n ddisymwth i fasnachu dan reolau Sefydliad Masnach y Byd mewn sefyllfa Brexit heb gytundeb. Mae tariffau llym, ac oedi a rhwystrau mewn porthladdoedd yn anorfod os byddwn yn ymadael â'r UE heb gytundeb, ond rydym yn gweithredu i baratoi ar gyfer y dyfodol a cheisio lleihau effeithiau canlyniadau trychinebus, lle bo hynny o fewn ein pŵer.
"Mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer pob canlyniad posibl, a dyna rydyn ni’n ei wneud. Ond gyda'r cyfyngder presennol yn senedd y DU, y diffyg consensws ynghylch ffordd ymlaen, a'r posibilrwydd y bydd cefnogwr Brexit caled yn arwain y Blaid Geidwadol a'r wlad, mae bygythiad ymadael heb gytundeb yn un real iawn.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates:
"Does dim amheuaeth y bydd ymadael â'r UE heb gytundeb yn arwain at oblygiadau enfawr ar gyfer busnes a masnach yng Nghymru a gweddill y DU.
“Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn dangos y bydd economi'r DU rhwng 6.3% a 9% yn llai yn y tymor hir mewn sefyllfa heb gytundeb. Yn frawychus, bydd yr economi yng Nghymru 8.1% yn llai.
"Yn wyneb hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl – gan weithio gyda busnesau a sefydliadau ledled Cymru – i baratoi ar gyfer y canlyniad gwaethaf posibl hwn, a diogelu swyddi a thwf cynaliadwy.
“Rwy'n annog pob busnes a sefydliad yng Nghymru i baratoi ar frys – mae 31 Hydref yn nesáu yn gyflym."
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir os yw’n ddewis rhwng Brexit heb gytundeb ac aros yn yr UE, y bydd yn ymgyrchu yn frwd i aros. Oherwydd y bygythiad cynyddol o gael Brexit heb gytundeb, mae’n galw am refferendwm gyda'r opsiwn i aros yn yr UE yn cael ei gynnwys ar y papur pleidleisio i gyflawni’r nod hwnnw a diogelu buddiannau Cymru.
Ydy’ch busnes chi’n barod ar gyfer Brexit heb gytundeb?
Dyma bum cam syml y gallwch eu cymryd i baratoi eich busnes:
- 1Os ydych yn mewnforio neu'n allforio cynnyrch, bydd angen i chi gael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI). Gallwch gael rhif EORI ar GOV.UK
- Ydych chi'n defnyddio neu'n trosglwyddo data personol i'r DU? Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal yn cydymffurfio â rheoliadau GDPR. Gallwch gael rhagor o wybodaeth o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Ymadael â'r UE: 6 cam i'w cymryd ar ico.org.uk
- Ydych chi'n cyflogi dinasyddion yr UE? Bydd angen iddynt wneud cais i aros yng Nghymru drwy Gynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE. Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: pecyn i gyflogwyr ar GOV.UK
- Os ydych yn wneuthurwr, edrychwch ar y gofynion rheoleiddiol ar gyfer marchnadoedd y DU a'r UE ynghylch labeli, trefniadau cymeradwyo a phrofion. Rheoliadau a safonau ar ôl Brexit ar GOV.UK
- Gallwch fynd i Borth Brexit Busnes Cymru i asesu pa mor barod yw eich busnes a chael cyngor arbenigol manwl.