Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ychwanegu rhai cyrff at Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a diwygio rhai o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (y 'Rheoliadau') presennol i bennu safonau o ran y Gymraeg ar gyfer cyrff ychwanegol. Byddai hyn yn golygu diwygio pedair set o Reoliadau presennol fel y gall 6 corff cyhoeddus ychwanegol ac 1 categori o bersonau fod yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg ar y cyrff hyn. 

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y cynnig hwn.

Rhagair y Gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu'r defnydd o'n hiaith, y Gymraeg. Mae safonau'r Gymraeg (‘Safonau’) yn gwneud cyfraniad pwysig at ein strategaeth Cymraeg 2050 drwy gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau yn y Gymraeg a'i gwneud yn bosibl i bobl gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae Safonau hefyd yn cyflwyno dyletswyddau ar gyrff i ddarparu mwy o wasanaethau Cymraeg i’w gweithwyr ac yn helpu cyrff i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn eu gweinyddiaeth mewnol. 

Roedd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gwneud ymrwymiad clir i ddatblygu Safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff cyn diwedd tymor y Senedd bresennol. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i dros 120 o gyrff gydymffurfio â Safonau. Yn ystod tymor y Senedd hon, mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg ('Rheoliadau') eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd ac ar gyfer ymgymerwyr gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth sy'n darparu gwasanaethau i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru. Yn ogystal, mae deddfwriaeth sy’n sefydlu'r Cydbwyllgorau Corfforaethol a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil hefyd wedi cynnwys y cyrff hyn mewn Rheoliadau presennol. Mae hyn yn golygu y gellir ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â Safonau.

Rwy'n bwriadu troi fy sylw yn awr at ddod â chyrff cyhoeddus ychwanegol o dan system safonau'r Gymraeg. Rwy'n bwriadu cyflawni hyn drwy ychwanegu cyrff ychwanegol at Reoliadau presennol, ar ôl ystyried pa set o Reoliadau presennol sydd fwyaf priodol ar gyfer pob corff unigol. Erbyn diwedd y Senedd hon, rydym wedi ymrwymo i wneud Rheoliadau ar gyfer cymdeithasau tai a'r sector trafnidiaeth, ac edrychaf ymlaen at weld rheiny’n cael eu gwireddu nesaf.

Ers dod yn gyfrifol am y Gymraeg, rwyf wedi pwysleisio mai fy mlaenoriaeth yw gweld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg. Mae arnaf eisiau i system safonau'r Gymraeg ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Mae arnaf eisiau i'r Safonau roi'r hyder i'r cyhoedd ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg, sut bynnag y maent yn dewis cyfathrebu â'r cyrff cyhoeddus hyn, ac rwy'n disgwyl i'r Safonau ffurfioli a gwella'r cynnig Cymraeg a ddarperir eisoes gan lawer o'r cyrff hyn i helpu i hwyluso a chynyddu defnydd o'r Gymraeg. 

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich barn ar y cynigion hyn a byddaf yn rhoi ystyriaeth lawn iddynt.

Jeremy Miles AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. 

1. Rhagymadrodd

1.1 Ers 2015, mae Gweinidogion Cymru wedi bod yn paratoi ac wedi gwneud cyfres o Reoliadau Safonau'r Gymraeg ('Rheoliadau') o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur'). Mae Safonau'r Gymraeg ('Safonau') yn rhoi hawliau gorfodadwy i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith wrth ymdrin â chyrff. Hyd yma mae wyth set o Reoliadau wedi'u gwneud ac mae dros 120 o gyrff yn gweithredu Safonau o fewn y Rheoliadau hynny.

1.2 Y cynnig cyntaf yn yr ymgynghoriad hwn yw bod 3 corff yn cael eu hychwanegu at Atodlen 6 i’r Mesur, a bod y cyrff hynny, a 3 chorff arall, yn ogystal â chategori o bersonau yn cael eu hychwanegu at Reoliadau presennol, fel a ganlyn:

Awdurdod Cyllid Cymru

  • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015

Y Comisiwn Ffiniau i Gymru

  • Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

  • Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (a adnabyddir yn fwy cyffredin fel 'Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol')

  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

Cymwysterau Cymru

  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

Panel Dyfarnu Cymru

  • Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016

Awdurdodau Iechyd Arbennig

1.3 Yr ail gynnig yw diwygio Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 i gynnwys Awdurdodau Iechyd Arbennig fel categori o bersonau a allai fod yn ddarostyngedig i Safonau o fewn y Rheoliadau hynny. Ar hyn o bryd mae’r Awdurdodau Iechyd Arbennig canlynol yn darparu gwasanaethu i’r cyhoedd yng Nghymru, ond nid ydynt yn dod o dan Safonau: Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, ac Awdurdod Busnes y GIG.

1.4 Ni fydd ychwanegu'r cyrff a'r categori o bersonau at y Rheoliadau ynddo'i hun yn gosod dyletswyddau arnynt. Mae'r Mesur yn darparu, er mwyn bod yn agored i gydymffurfio â Safonau, rhaid i gorff neu gategori o bersonau ddod o fewn y rhai a restrir yn Atodlenni 5 a 6 neu Atodlenni 7 ac 8 i'r Mesur, a dangosir y categori o safonau a allai fod yn berthnasol iddynt yn erbyn eu cofnod yn Atodlen 6 neu 8. Mae Safonau'n cael eu cymhwyso'n benodol i gorff neu gategori o bersonau gan y Rheoliadau. Unwaith y pennir corff neu gategori o bersonau yn y Rheoliadau, gall Comisiynydd y Gymraeg (‘y Comisiynydd’) wedyn gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r Safonau a bennir yn yr hysbysiad.

1.5 Drwy'r ymgynghoriad hwn, rydym yn dymuno clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynigion, yn y defnydd o'r Gymraeg gan y cyrff unigol a enwir uchod, a chan Awdurdodau Iechyd Arbennig. Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am gyfnod o 15 wythnos a bydd yn cau ar 7 Hydref 2024. Mae hyn yn sicrhau y bydd aelodau'r cyhoedd, y cyrff y cynigir iddynt ddod yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau presennol hyn, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

1.6 Mae croeso i ymatebwyr wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y cynigion. 

2. Cefndir

2.1 Roedd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, y cytunwyd arno ym mis Tachwedd 2021, yn ymrwymo i ddatblygu Safonau ar gyfer rhagor o sectorau a chyrff. Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, cafodd Safonau eu gwneud ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd ym mis Gorffennaf 2022, ac ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth ym mis Medi 2023. Ymrwymiad arall o fewn y Cytundeb Cydweithio oedd i ddod â chyrff cyhoeddus sydd newydd eu sefydlu o dan y Safonau. Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cyfrannu at gyflawni'r nodau hyn, a hefyd yn ceisio cynnwys o fewn y Rheoliadau rhai cyrff a oedd eisoes wedi'u sefydlu ar yr adeg y cawsant eu gwneud ond na chawsant eu cynnwys ynddynt bryd hynny.

2.2 Mae paragraff 1.2 o'r ddogfen ymgynghori hon yn rhestru 6 chorff yr ydym yn cynnig eu hychwanegu at y Reoliadau presennol, ac yn nodi pa setiau penodol o reoliadau yr ydym yn cynnig eu hychwanegu atynt.

2.3 Mae paragraff 1.3 o'r ddogfen ymgynghori hon yn rhestru'r categori o bersonau yr ydym yn cynnig eu cynnwys yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018.

2.4 Mae rhai o'r cyrff hyn eisoes yn darparu gwasanaethau yn unol â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg. Bydd cael eu cynnwys o fewn y system Safonau yn galluogi cyrff i adeiladu ar y Cynlluniau hynny a bydd yn rhoi hawliau mwy gorfodadwy i ddefnyddwyr wrth ymwneud â'r cyrff. Bydd dyletswydd ar gyrff y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r Safonau i fabwysiadu dull mwy rhagweithiol, strategol o ran prif ffrydio'r Gymraeg. Rydym yn hyderus bod y Rheoliadau'n darparu sylfaen gadarn, sy'n galluogi'r Comisiynydd i osod Safonau mewn ffordd bragmatig a fydd yn gwella gwasanaethau Cymraeg i siaradwyr yn barhaus.

Y broses: sut mae'r Safonau'n gweithio

2.5 Paratowyd pob set o safonau yn y Rheoliadau i adlewyrchu'r ffordd y mae'r cyrff sy'n ddarostyngedig i bob un ohonynt yn darparu gwasanaethau ac yn ymgymryd â gweithgareddau. Mae hyn wedi cael ei gadw mewn cof wrth ystyried pa set o'r Rheoliadau sydd fwyaf priodol ar gyfer pob un o'r 6 corff unigol a'r Awdurdodau Iechyd Arbennig.

2.6 Cyn i gorff gydymffurfio â safon, rhaid bodloni'r amodau hyn:

  • rhaid i'r corff ddod o fewn categori, a/neu fod wedi'i restru, yn Atodlen 5 a 6 (neu Atodlen 7 ac 8) i'r Mesur, a bod yn atebol o bosibl i gydymffurfio â safon (sy'n golygu ei fod yn cael ei ddangos yn erbyn eu henw neu gategori yn Atodlen 6 neu 8)
  • rhaid i'r safon fod wedi cael ei wneud yn benodol gymwys i'r corff. Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r corff sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon
  • bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r corff sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon, a bod yr hysbysiad cydymffurfio hwnnw mewn grym

2.7 Mae pob set o'r Rheoliadau yn nodi'r safonau y gall fod yn benodol gymwys i gyrff. Daw'r safonau o dan 5 pennawd ('categorïau o safonau'). Mae'r categorïau canlynol o safonau wedi'u cynnwys ym mhob un o'r pedair set o’r Rheoliadau yr ydym yn cynnig eu diwygio:

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Mae safonau cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â darparu gwasanaethau er mwyn hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, neu i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae pob un o'r pedair set o'r Rheoliadau yn cynnwys safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â'r gweithgareddau canlynol:

  • Gohebiaeth 
  • Galwadau ffôn 
  • Dogfennau a ffurflenni
  • Cyfarfodydd 
  • Digwyddiadau cyhoeddus 
  • Cyhoeddusrwydd a hysbysebu 
  • Arddangos deunydd yn gyhoeddus
  • Gwefannau a gwasanaethau ar-lein
  • Arwyddion a hysbysiadau
  • Derbyn ymwelwyr
  • Dyfarnu grantiau
  • Dyfarnu contractau
  • Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg
  • Hunaniaeth gorfforaethol
  • Cyrsiau

Mae gan rai setiau o'r Rheoliadau safonau cyflenwi gwasanaethau ychwanegol hefyd. Er enghraifft, mae gan Reoliadau Rhif 4 safonau ynghylch achosion cyfreithiol (safonau 48 i 51), mae gan Reoliadau Rhif 7 safonau cyflenwi gwasanaethau mewn perthynas â chleifion mewnol a chynadleddau achos (safonau 23 i 25), a safonau'n ynghylch gofal sylfaenol (safonau 65 i 68).

Safonau llunio polisi

Mae safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae gan Reoliadau Rhif 7 rai safonau llunio polisi ychwanegol sy'n ymwneud â chyhoeddi polisi ar ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol (safonau 78 i 78A).

Safonau gweithredu

Mae safonau gweithredu yn ymwneud â defnydd mewnol o'r Gymraeg gan gyrff. Os gosodir safonau gweithredu ar gyfer corff, bydd disgwyl i'r corff hwnnw gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn ei weinyddiaeth fewnol. Mae gan Reoliadau Rhif 7 rai safonau gweithredu ychwanegol ynghylch cynllun sy'n ymdrin â chynnig cynnal ymgyngoriadau clinigol yn Gymraeg (safonau 110 i 110A).

Safonau cadw cofnodion

Mae safonau cadw cofnodion yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am rai o'r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a dderbynnir gan gorff ynghylch cydymffurfio â safonau. Bydd y cofnodion hyn yn helpu'r Comisiynydd i sicrhau bod corff yn cydymffurfio â'r Safonau.

Safonau atodol

Mae'r safonau atodol yn delio â materion amrywiol, gan gynnwys llunio adroddiad blynyddol, trefniadau monitro a darparu gwybodaeth i'r Comisiynydd.

2.8 Mae gan Reoliadau Rhif 1 gategori ychwanegol o safonau hefyd, sef safonau hybu. Bwriad y safonau hyn yw hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach.

3. Diwygio rheoliadau presennol

Diwygiadau i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015

3.1 Daeth Rheoliadau Rhif 1 i rym ar 31 Mawrth 2015. Ar hyn o bryd maent yn berthnasol i awdurdodau lleol, awdurdodau'r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Y cynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw diwygio Rheoliadau Rhif 1 i gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru ('ACC').

3.2 Swyddogaeth a chyfrifoldeb cyffredinol ACC yw casglu a rheoli trethi datganoledig Trafodiadau Tir a Gwarediadau Tirlenwi. Yn y cyd-destun hwn, diben cyffredinol ACC yw llunio a chyflenwi gwasanaethau refeniw cenedlaethol i Gymru ac arwain ar wella'r defnydd o ddata trethdalwr Cymru. Mae ACC eisoes, i bob pwrpas, yn darparu gwasanaethau Cymraeg wedi'u seilio ar safonau yn Rheoliadau Rhif 1. Gan ystyried hyn, rydym o'r farn mai cynnwys y corff yn Rheoliadau Rhif 1 yw'r dull sy'n fwyaf tebygol o darfu lleiaf ar y corff a'i ddefnyddwyr.

3.3 Mae ACC yn dod o fewn categori a restrir yn Atodlen 6 i'r Mesur, sef ei fod yn gorff sy'n arfer, ar ran y Goron, swyddogaethau a roddir gan neu o dan Ddeddf neu Fesur. Fodd bynnag, nid yw wedi'i restru yn Atodlen 6 i Reoliadau Rhif 1. Er mwyn i'r safonau yn Rheoliadau Rhif 1 gael eu gwneud yn benodol gymwys i'r corff, bydd Gorchymyn yn cael ei osod i gynnwys y corff yn Atodlen 6 i Reoliadau Rhif 1. 

3.4 Ni ellir gwneud safonau hybu yn gymwys i ACC oni bai bod ACC yn cydsynio i hynny (mae adran 38 o'r Mesur, ac Atodlen 6 iddi, yn datgan mai dim ond i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol neu i berson sy’n cydsynio y gall safonau hybu fod yn berthnasol). Nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu gofyn am gydsyniad o'r fath. Felly, bydd y diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Rhif 1 yn cynnwys darpariaeth i ddatgymhwyso’r safonau hybu yn Rheoliadau Rhif 1 ar gyfer ACC, fel nad yw'n awdurdodi’r Comisiynydd i'w gwneud ynofynnol i ACCgydymffurfio â'r safonauhybu.

Diwygiadau i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

3.5 Daeth Rheoliadau Rhif 2 i rym ar 16 Chwefror 2016. Ar hyn o bryd maent yn gymwys i rai cyrff cyhoeddus cyffredinol sy'n gweithredu yng Nghymru ac ar draws y DU. Y bwriad yw diwygio Rheoliadau Rhif 2 i gynnwys:

  • Y Comisiwn Ffiniau i Gymru 
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol
  • Cymwysterau Cymru

3.6 Ystyrir bod y pedwar corff yn rhannu nodweddion tebyg ac yn darparu gwasanaethau tebyg i gyrff eraill sydd eisoes yn ddarostyngedig i Reoliadau Rhif 2. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda chyrff sydd eisoes yn ddarostyngedig i Safonau yn Rheoliadau Rhif 2. Yn ogystal, mae tri o'r pedwar corff eisoes wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn unol â chynllun iaith Gymraeg. Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yw'r unig gorff o'r pedwar sydd heb gynllun iaith Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r corff yn darparu llawer o wasanaethau yn Gymraeg. Rydym yn cynnig gwneud yr holl Safonau yn Rheoliadau Rhif 2 yn benodol gymwys i'r pedwar corff. Yna, mater i i’r Comisiynydd fydd penderfynu pa Safonau i'w cynnwys o fewn hysbysiad cydymffurfio.

3.7 Mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Cymwysterau Cymru eisoes wedi'u rhestru yn Atodlen 6 i'r Mesur, nid yw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a'r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi'u rhestru ar hyn o bryd.

3.8 Er mwyn i Safonau o fewn Rheoliadau Rhif 2 gael eu gwneud yn benodol gymwys i'r pedwar corff a restrir ym mharagraff 3.5:

  • bydd angen ychwanegu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a'r Comisiwn Ffiniau i Gymru at Atodlen 6 i'r Mesur
  • bydd angen ychwanegu pob un o'r pedwar corff at Atodlen 6 i Reoliadau Rhif 2

Diwygiadau i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016

3.9 Daeth Rheoliadau Rhif 4 i rym ar 22 Mawrth 2016. Ar hyn o bryd maent yn gymwys i dribiwnlysoedd Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg a Gofal Cymdeithasol Cymru. Y bwriad yw diwygio Rheoliadau Rhif 4 i gynnwys Panel Dyfarnu Cymru.

3.10 Yn debyg i lawer o gyrff sydd eisoes yn ddarostyngedig i Reoliadau Rhif 4, tribiwnlys yw Panel Dyfarnu Cymru ('y Panel'). Gweinyddir y Panel gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn yr Uned Dribiwnlysoedd. Mae'r Panel yn darparu gwasanaethau y byddai'r Safonau presennol yn Rheoliadau Rhif 4 yn gymwys iddynt. Rydym yn cynnig gwneud yr holl Safonau o fewn Rheoliadau Rhif 4 yn benodol gymwys i'r Panel. Yna, mater i’r Comisiynydd fydd penderfynu pa Safonau i'w cynnwys o fewn hysbysiad cydymffurfio.

3.11 Nid yw'r Panel wedi'i restru yn Atodlen 6 i'r Mesur ar hyn o bryd. Er mwyn galluogi'r corff i fod yn ddarostyngedig i'r un Safonau â thribiwnlysoedd eraill, bydd angen ei ychwanegu at Atodlen 6 i'r Mesur, ac yna i Atodlen 6 i Reoliadau Rhif 4.

Diwygiadau i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018

3.12 Daeth Rheoliadau Rhif 7 i rym ar 29 Mehefin 2018. Ar hyn o bryd maent yn berthnasol i Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG yng Nghymru a Chorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ('Llais'). Y bwriad yw diwygio Rheoliadau Rhif 7 i gynnwys Awdurdodau Iechyd Arbennig fel categori o bersonau a allai fod yn ddarostyngedig i'r rheoliadau hynny.

3.13 Rydym yn ymwybodol bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG ac Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn Awdurdodau Iechyd Arbennig nad yw'n ofynnol iddynt, ar hyn o bryd, gydymffurfio â Safonau, ond maent yn darparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Mae'r cyrff hyn yn aml yn cefnogi cyrff iechyd eraill yng Nghymru ac ystyrir bod ganddynt rôl allweddol yn y ffordd y mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gweithredu yng Nghymru, boed hynny wrth hyfforddi a datblygu'r gweithlu gofal iechyd, darparu rhaglenni a systemau cenedlaethol, neu ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol i'r cyhoedd a chleifion. Ar y sail hon rydym yn bwriadu eu cynnwys o fewn Rheoliadau Rhif 7. Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG gynlluniau iaith Gymraeg eisoes.

 3.14 Mae Rheoliadau Rhif 7 yn gwneud Safonau yn benodol gymwys i gategorïau o gyrff, er enghraifft, "Byrddau Iechyd Lleol" ac "Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol". Nid yw Byrddau Iechyd Unigol wedi'u henwi yn y Rheoliadau. Rydym yn bwriadu dilyn y cynsail hwn ac ychwanegu "Awdurdodau Iechyd Arbennig" fel categori i Atodlen 6 i Reoliadau Rhif 7 yn hytrach nag enwi Awdurdodau Iechyd Arbennig yn unigol. Bydd y dull hwn yn diogelu'r Rheoliadau at y dyfodol ac yn caniatáu i'r Comisiynydd osod Safonau ar unrhyw Awdurdodau Iechyd Arbennig newydd a fydd o bosibl yn cael eu creu yn y dyfodol sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â Chymru. Byddai’r Comisiynydd yn gallu gwneud hynny heb i Weinidogion Cymru orfod ychwanegu'r corff penodol hwnnw at Reoliadau Rhif 7.

3.15 Rydym yn cydnabod bod y gwasanaethau a ddarperir gan Awdurdodau Iechyd Arbennig yn amrywio o un corff i'r llall. Mater i'r Comisiynydd fydd penderfynu pa Safonau fydd yn rhesymol eu cynnwys o fewn hysbysiad cydymffurfio, a bydd angen ymgynghori â'r AIA penodol cyn cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio. Hoffem yn benodol geisio'ch barn ar ychwanegu Awdurdodau Iechyd Arbennig at Reoliadau Rhif 7. 

3.16 Mae Awdurdodau Iechyd Arbennig eisoes wedi'u rhestru yn Atodlen 6 i'r Mesur. Er mwyn eu galluogi i fod yn ddarostyngedig i Safonau, bydd angen eu hychwanegu at Atodlen 6 i Reoliadau Rhif 7.

4. Hysbysiadau cydymffurfio

4.1 Mae'r Rheoliadau yn pennu amrywiaeth o Safonau y gellid eu gosod ar gyrff. Nid oes rhaid i'r Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i bob corff a enwir yn y Rheoliadau gydymffurfio â phob Safon sy'n benodol gymwys iddynt.

4.2 Mae gan y Comisiynydd hyblygrwydd wrth ddewis pa Safonau y mae'n rhaid i gorff gydymffurfio, ac i ba raddau. Mae’r Comisiynydd hefyd yn gosod y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r corff gydymffurfio â Safon. Mae'r Comisiynydd yn nodi'r wybodaeth honno mewn hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir i'r corff.

4.3 Bydd sawl opsiwn yn agored i'r Comisiynydd, felly, o ran dewis pa Safonau i'w gosod ar gorff. Mae'n bosibl mai dim ond mewn rhai amgylchiadau y bydd yn rhaid i gorff gydymffurfio â Safon ac nid o dan amgylchiadau eraill (gan ddibynnu ar beth sy'n addas iddynt). Ni all y Comisiynydd osod dyddiad cydymffurfio sy'n llai na 6 mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad cydymffurfio. Fodd bynnag, gall y Comisiynydd osod dyddiad cydymffurfio diweddarach, gan ddibynnu ar yr hyn sy'n rhesymol ac yn gymesur i'r corff.

4.4 Bydd corff yn gallu herio gofyniad i gydymffurfio â Safon benodol ar y sail nad yw'n ystyried ei bod yn rhesymol a chymesur ei gosod arno.

4.5 Yn y lle cyntaf, bydd corff yn gallu cyflwyno her i'r Comisiynydd, gan ofyn iddi benderfynu a yw'r gofyniad arno i gydymffurfio â Safon benodol yn yr hysbysiad cydymffurfio yn rhesymol a chymesur. Os nad ydynt yn gallu datrys yr anghydfod, mae yna lwybr apelio ar gael i Dribiwnlys y Gymraeg, ac wedyn i’r Uchel Lys (ar gwestiwn y gyfraith).

5. Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)

5.1 Pwrpas yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yw helpu Gweinidogion Cymru i ystyried effaith y rheoliadau arfaethedig ac ystyried costau a manteision pob opsiwn sydd ar gael iddynt cyn gweithredu ar bolisi. Mae hefyd yn ffordd o gyflwyno tystiolaeth ar effeithiau cadarnhaol a negyddol polisïau ar gyfer craffu.

5.2 Er bod rhai cyrff sy'n ddarostyngedig i'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4 a Rhif 7 wedi cael cais o'r blaen i gymryd rhan mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) Llywodraeth Cymru ynghylch cael eu cynnwys mewn Rheoliadau, ni chafodd y mwyafrif ohonynt gais o'r fath. Rydym hefyd yn cydnabod y gallai unrhyw RIA blaenorol fod wedi'i gwblhau gryn amser yn ôl. Felly, hoffem gael gwybodaeth wedi'i diweddaru gan y cyrff hynny er mwyn inni allu paratoi RIA sydd mor gywir â phosibl.

5.3 Am y rheswm hwn, gofynnir i bob corff sydd, neu a allai fod, yn ddarostyngedig i'r diwygiadau arfaethedig i'r Rheoliadau, gwblhau'r cwestiynau yn y ffurflen RIA a gyhoeddir ar y wefan. Sylwch nad yw'r ffurflen RIA yn berthnasol i neb heblaw'r cyrff sydd, neu a allai fod, yn ddarostyngedig i'r diwygiadau arfaethedig.

Sut i ymateb

5.4 Dylai'r ffurflen gael ei llenwi a'i dychwelyd drwy e-bost neu drwy'r post erbyn 7 Hydref 2024. Os cewch unrhyw drafferthion, cysylltwch â: Cymraeg2050@llyw.cymru.

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a gyhoeddir ar y wefan i ymateb i'r cwestiynau hyn. Mae 'rheoliadau perthnasol' yn y cwestiynau isod yn cyfeirio at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, a Rhif 7).

  1. A ydych chi'n cytuno â'r cynigion a nodir ym mharagraff 1.2 o'r ddogfen ymgynghori? Os na, a oes set arall o reoliadau presennol safonau'r Gymraeg a allai fod yn fwy priodol ar gyfer corff?
     
  2. A ydych chi'n cytuno â'r cynnig a nodir ym mharagraff 1.3 o'r ddogfen ymgynghori? Os na, a oes set arall o reoliadau presennol safonau'r Gymraeg a allai fod yn fwy priodol i Awdurdodau Iechyd Arbennig?
     
  3. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y safonau cyflenwi gwasanaethau yn y rheoliadau perthnasol? (Nodwch at ba gorff neu set o reoliadau y mae eich sylwadau'n cyfeirio) 
     
  4. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y safonau llunio polisi yn y rheoliadau perthnasol? (Nodwch at ba gorff neu set o reoliadau y mae eich sylwadau'n cyfeirio)
     
  5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y safonau gweithredu yn y rheoliadau perthnasol? (Nodwch at ba gorff neu set o reoliadau y mae eich sylwadau'n cyfeirio)
     
  6. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y safonau cadw cofnodion a'r safonau sy'n ymdrin â materion atodol yn y rheoliadau perthnasol? (Nodwch at ba gorff neu set o reoliadau y mae eich sylwadau'n cyfeirio)
     
  7. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol diwygio'r rheoliadau safonau’r Gymraeg perthnasol ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 
    Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hybu unrhyw effeithiau cadarnhaol?
    Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol? 
     
  8. Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y cynigion er mwyn:
  • cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
  1. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y ffurflen ymateb i'w cofnodi.

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig)