Rydym yn dymuno canfod eich barn ar ychwanegu cyrff at Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a diwygio Rheoliadau Safonau’r Gymraeg presennol i bennu safonau’r Gymraeg ar gyfer cyrff ychwanegol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ddiwygio pedair set o Reoliadau presennol fel y gall 6 corff cyhoeddus ychwanegol ac 1 categori o bersonau fod yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg ar y cyrff hyn.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Ffurflen_asesiad_effaith_rheoleiddiol_cyrff_cyhoeddus.jpg?itok=ZYHESv6C)
Ffurflen asesiad effaith rheoleiddiol cyrff cyhoeddus , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 63 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Dogfennau cysylltiedig
Help a chymorth
I gael rhagor o wybodaeth:
Is-adran Cymraeg 2050
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Cymraeg2050@llyw.cymru.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Hydref 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Is-adran Cymraeg 2050
Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ