Diweddariad Hydref 2023 ar ddeddfwriaeth caffael.
Rhestr wirio cyn gweithredu Diwygiadau Caffael
Wrth i’r Bil Caffael ddod yn nes at gael Cydsyniad Brenhinol, bydd esblygiad deddfwriaeth caffael yn ei gwneud yn ofynnol i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru wneud pethau’n wahanol. Bydd y newidiadau sydd i ddod nid yn unig yn effeithio ar dimau caffael a masnachol, byddant yn ysgogi newid ymddygiadol a diwylliannol ar draws y sefydliad i wella’r ffordd y caiff contractau ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a gwaith eu caffael. Er mwyn helpu awdurdodau contractio ledled Cymru i baratoi ar gyfer y rheolau newydd, rydym wedi diweddaru’r rhestr wirio cyn gweithredu a gyhoeddwyd gennym fis Hydref y llynedd.
Mae’r rhestr wirio, y gellir ei lawrlwytho drwy'r adran Diwygio Caffael ar GwerthwchiGymru, yn nodi meysydd posibl y dylai awdurdodau contractio ddechrau meddwl amdanyn nhw nawr, er mwyn sicrhau eu bod yn barod ac yn gallu manteisio ar yr hyblygrwydd a’r tryloywder cynyddol sy’n gysylltiedig â’r rheolau newydd.
Cofiwch ymgyfarwyddo â'r cynnwys a'i rannu â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn eich sefydliad a'ch rhwydwaith ehangach.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru
Gweithgor Effeithiau Llesiant
Sefydlwyd y Gweithgor Effeithiau Llesiant ym mis Medi 2022. Crëwyd y grŵp yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan Cwmpas, a oedd yn adolygu’r dirwedd gwerth cymdeithasol yng Nghymru.
Wedi’i gadeirio gan Karen Bellis o Sir Ddinbych, mae’r Grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod cysondeb o ran dull gweithredu, mesur ac adrodd ar werth cymdeithasol ar draws holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Grŵp wedi gwneud cynnydd da wrth fynd i'r afael â'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Ymhlith y cerrig milltir nodedig a gyflawnwyd hyd yma mae:
- Datblygu diffiniad o werth cymdeithasol sy’n adlewyrchu’n glir y cyd-destun Cymreig ac sy’n cyd-fynd â therminoleg yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
- Edrych ar ddatblygu methodoleg gyson ar gyfer mesur ac adrodd ar werth cymdeithasol trwy effeithiau llesiant.
Mae’r Grŵp wedi datblygu cyfres o fesurau ar draws chwe chategori lefel uchel sy’n cyd-fynd â’r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y cynigir y bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio ledled Cymru eu mesur ac adrodd yn eu herbyn.
Y chwe chategori lefel uchel yw:
- Cyflogaeth a sgiliau moesegol
- Effeithlonrwydd Carbon ac Adnoddau
- Iechyd a chydraddoldeb
- Cymunedau a’r economi leol
- Diwylliant, treftadaeth ac iaith
- Natur
Bydd sefydlu set gychwynnol o fesurau y cytunwyd arnynt ac a ddefnyddir yn aml yn golygu y gallwn ddatblygu darlun Cymru gyfan o’r effeithiau llesiant y mae ein gweithgarwch caffael yn eu cyflawni. Y mesurau hyn, sy’n cael eu llunio’n derfynol ar hyn o bryd, yw’r cam cyntaf ar daith lawer mwy mewn perthynas â sut mae sector cyhoeddus Cymru yn darparu mwy o werth cymdeithasol drwy gyflawni mwy o effeithiau llesiant.
Bydd rhagor o fanylion yn dilyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth ynghylch yr uchod, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru