Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y Bil Caffael ei ddarlleniad cyntaf a'i ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol yw Pwyllgor yr Arglwyddi, sydd i fod i ddechrau’r wythnos sy’n dechrau 4 Gorffennaf. Gallwch ddod o hyd i’r Bil, y Nodiadau Esboniadol a dogfennau cysylltiedig eraill ar wefan Senedd y DU. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i'r Bil wrth iddo fynd ymhellach drwy'r Senedd ar gael yma (dolen allanol – Saesneg yn unig).

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hefyd wedi'i osod gerbron y Senedd, gan roi cyfle i Aelodau’r Senedd graffu ar y Bil.

Bydd y Bil yn cymryd sawl mis i gwblhau ei daith drwy'r Senedd. Ni fydd y drefn newydd yn mynd yn fyw tan ddiwedd 2023 ac rydym yn disgwyl i'r cyfnod gweithredu gymryd o leiaf chwe mis.

Bydd canllawiau, cymorth a hyfforddiant cynhwysfawr yn cael eu datblygu. Bydd cyfle i randdeiliaid gyfrannu at y canllawiau a'r hyfforddiant, a byddwn yn darparu rhagor o fanylion maes o law.

Fel rhan o'r broses hon, bydd ein tîm Diwygio Caffael yn parhau i gynnal cyfres o weminarau ar-lein wrth i'r Bil fynd drwy'r broses ddeddfwriaethol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am raglen diwygio caffael Llywodraeth Cymru neu os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau sydd ar y gweill, anfonwch e-bost at: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru