Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu’r drefn caffael cyhoeddus newydd, y disgwylir iddi fynd yn fyw yn 2023 ar y cynharaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd y Bil Diwygio Caffael yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni.
Mae Llywodraeth y DU yn datblygu rhaglen ddysgu a datblygu a fydd yn cael ei chyflwyno ar draws y sector cyhoeddus. Bydd y rhaglen yn cefnogi rhanddeiliaid sy'n gweithredu o dan y drefn newydd a darperir canllawiau ar-lein.
Mae'r cynlluniau presennol, yn amodol ar gyllid, yn cynnwys 3 math o hyfforddiant. Dyma nhw:
Gweminarau "Gollwng Gwybodaeth"
- Gweminarau a recordiadau ar gyfer y rhai sydd angen lefel sylfaenol o ddealltwriaeth am yr hyn sy'n newid
E-ddysgu hunan-dywys
- Rhaglen o tua 10 awr o ddysgu ar-lein gyda'r bwriad o ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r drefn reoleiddio ddiwygiedig. Dyma'r cynnyrch hyfforddi craidd, a gynlluniwyd i roi'r holl wybodaeth hanfodol i Awdurdodau Contractio am yr hyn sy'n newid.
- Bydd modiwl ardystio i ddysgwyr ymgymryd ag ef ar ôl cwblhau'r rhaglen ar-lein lawn, fel y gall dysgwyr ddangos eu gwybodaeth newydd.
Gweminarau Archwilio Dwfn
- Bydd yr hyfforddiant hwn wedi'i anelu at arweinwyr caffael o fewn sefydliadau. Bydd yn canolbwyntio ar y newidiadau ymddygiadol a diwylliannol sydd eu hangen i fanteisio'n llawn ar y drefn newydd a chloddio i rai o'r agweddau arwyddocaol ar y newidiadau yn fanylach.
- Ar ôl ei gwblhau, yr arweinwyr caffael fyddai uwch-ddefnyddwyr arbenigol eu sefydliad, ac yn chwarae rhan mewn rhaeadru gwybodaeth a dealltwriaeth drwy'r sefydliad ac i'r gymuned gaffael ehangach.
Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu eu cynigion dysgu, a bydd angen iddynt addasu rhai elfennau i adlewyrchu tirwedd gaffael Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru