Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir

Mae'r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021, yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflawni Gwarant i Bobl Ifanc, rhaglen uchelgeisiol a fydd yn anelu at ddarparu cymorth i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i fynd i waith neu hunangyflogaeth.

Mae’n darparu strwythur ymbarél sydd uwchlaw’r holl raglenni i bobl ifanc 16 i 24 oed, a’i nod yw defnyddio’r holl ymyraethau sy’n bodoli er mwyn creu taith syml i bobl ifanc beth bynnag fo’u hamgylchiadau a’u cefndir. Mae Gwasanaeth Cymru'n Gweithio yn darparu un llwybr syml at y rhaglenni a'r gwasanaethau.  

Bydd gweithredu'r Warant i Bobl Ifanc yn helpu i gyflawni nodau strategol, gan gyfrannu tuag at ddarparu’r Cynllun Sgiliau a Chyflogadwyedd, y Cynllun Gweithredu Economaidd a'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid sy'n cyd-fynd â chynlluniau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Y tymor hir

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n ffurfio'r glasbrint ar gyfer Cymru sy'n gadarn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol newydd yn ceisio gyrru camau cydweithredol a gweithredu fel mesur allweddol o gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen mewn nifer o feysydd allweddol. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn cyfrannu at y cerrig milltir canlynol:

  • Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
  • Dileu'r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd y DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n cyfranogi yn y farchnad lafur.

Bydd y Warant hefyd yn annog cydnabod y Gymraeg fel sgil ymhlith cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.  Bydd yn cefnogi nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) o 'Gymru o ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cynrychiolaeth o swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynghori ein grŵp rhanddeiliaid a'n Bwrdd Rhaglen.

Atal

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yn cael effaith hirdymor ar swyddi, cyflogau a lles. Mae peidio mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yn golygu bod yn rhaid talu costau ymateb tymor byr i argyfwng (cyfeirir at y goblygiadau hirdymor hyn fel ‘scarring’ yn adroddiadau (Gregg, 2001Speckesser and Kirchner Sala, 2015 (Saesneg yn unig)). Yn ogystal ag effeithiau niweidiol byrrach y dirwasgiad, mae corff eang o dystiolaeth sy'n dangos bod dirwasgiadau'n cael effeithiau sy’n "creithio" busnesau ac unigolion, gan leihau incwm a chynyddu'r risg o ddiweithdra i'r dyfodol. Mae’r Warant i Bobl Ifanc wrth wraidd ein hymdrechion i lyfnhau’r trawsnewidiadau anodd yn y farchnad lafur sy’n wynebu pobl ifanc. Rhaid i ni sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyflogaeth nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r Warant yn helpu pobl ifanc i gyrraedd a llywio eu ffordd i mewn a thrwy fyd gwaith. Ei nod yw cynnig y cymorth sydd ei angen arnynt i ddechrau a newid eu stori; cefnogi eu taith wrth iddyn nhw adael yr ysgol, wrth iddyn nhw symud i a gadael coleg neu brifysgol, a chefnogi'r rhai sy'n wynebu diweithdra neu ddiswyddiadau. Bydd argaeledd y ddarpariaeth eang, sy'n bodoli eisoes gyda buddsoddiad ychwanegol ar gyfer gweithgaredd newydd (yn ystod blwyddyn ariannol 2022 i 2023) yn galluogi Cymru i ymateb yn effeithiol i lefelau diweithdra sy’n newid, i gefnogi pobl ifanc a gostwng y lefelau o bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET).

Cydweithio a Chymryd Rhan

Mae sefydlu ein Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid wedi dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid a chyflogwyr i weithio ar y cyd ar ddatblygu'r warant ac i gefnogi ein hymdrechion i wneud y gorau o'n sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc 16 i 24 oed ar draws holl ranbarthau Cymru.

Mae datblygiad y Warant yn cynnwys Sgwrs Genedlaethol gyda phobl ifanc 16 i 24 oed, yn enwedig y rhai o grwpiau nas clywir yn aml. Rhaid i ni sicrhau nad yw'r Warant yn gwahaniaethu mewn perthynas â ffactorau economaidd-gymdeithasol, nac ar sail nodweddion gwarchodedig. Drwy ymgysylltu â phobl ifanc byddwn yn clywed am yr heriau sydd yn eu hwynebu, dysgu am y bylchau y maent wedi'u canfod yn ein systemau, ac yn gallu gwrando ar eu hawgrymiadau am y gwelliannau sydd eu hangen.

Mae llawer o bartneriaid yn gweithio ar draws Cymru ym meysydd hunangyflogaeth, addysg, a hyfforddiant, sydd eisoes yn cefnogi pobl ifanc, gan eu galluogi i dyfu ac i gael gwaith yn y pen draw. Bydd angen i ni gefnogi ein pobl ifanc i fod yn barod am yrfa, gan ddarparu'r sgiliau, y gwytnwch a'r profiad addas ar gyfer swyddi heddiw ac yfory. Mae'r rhanddeiliaid hyn wedi eu cysylltu â'r system gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Comisiynwyd Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gynnal ymchwil i nodi'r dirwedd ar draws pob rhanbarth o ran rhwydweithiau rhanddeiliaid a chyflogwyr, cwmpasu cymorth a darpariaeth gyfredol addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a lles. Bydd hyn yn arwain at gynllun gweithredu sy'n nodi rhwystrau strategol. Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflogwyr i annog cydweithio ar draws y rhanbarth i gefnogi pobl ifanc fel rhan o'r warant. 

Mae swyddogion hefyd yn gweithio ochr yn ochr â gwledydd datganoledig eraill sy'n gweithredu Gwarant i Bobl Ifanc ac yn tynnu ar gysylltiad rhyngwladol i nodi a hyrwyddo arferion gorau.

Cost ac Arbedion

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn nodi ein bwriad i ganoli darpariaeth ac adnoddau presennol er mwyn canolbwyntio ar y grwpiau y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Ar yr un pryd, rydym am barhau i fod yn hyblyg er mwyn ymateb i newidiadau yn y farchnad lafur, mewn polisïau a newidiadau i gyllid yn y dyfodol, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau yn y dyfodol. I’n rhanddeiliaid, bydd y Cynllun yn helpu partneriaid i sicrhau bod eu gweithgarwch yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau a, lle y bo angen, yn helpu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n cefnogi ac yn dyblygu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn hytrach na mynd yn groes iddynt.

Mewn cyllidebau dangosol ar gyfer 2022 i 2023, mae £20 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi gweithgareddau’r Warant i Bobl Ifanc. Bydd y gweithgareddau hyn yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol ar gyfer ymyriadau sy'n bodoli eisoes, cymorth i ddatblygu ymyriadau newydd, cynnal Sgwrs Genedlaethol gyda phobl ifanc, ehangu'r Biwros Cyflogaeth Addysg Bellach presennol, gweler y Biwro Cyflogaeth a Menter IIA am ragor o wybodaeth, yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwaith polisi a gwerthuso a chostau staff. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024, mae £15 miliwn arall ar gael i sicrhau cefnogaeth barhaus i'r Warant i Bobl Ifanc, ac ar gyfer 2024 i 2025, £25 miliwn yn ychwanegol.

Mae cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau rheoli gyrfa effeithiol, ynghyd â'u cefnogi i barhau i gymryd rhan mewn addysg yn lleihau’r nifer ohonynt sydd yn gadael yr ysgol neu’r cwrs yn gynnar. Wrth wneud hynny mae’r nifer o bobl ifanc sy'n dod yn bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant yn gostwng, ac mae hynny yn cynnig gwerth am arian yn y tymor hir.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o fod wedi effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Lleisiau pobl ifanc sydd wrth wraidd datblygiad ein Gwarant. 

Ers haf 2021 rydyn ni wedi ymgysylltu â grwpiau o bobl ifanc ar draws Cymru: Mae cyfres o grwpiau ffocws wedi'u cynnal i'n helpu i ddechrau'r sgwrs gyda phlant 16 i 17 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed a deall eu dyheadau yn well; y rhwystrau maent yn eu hwynebu, boed hynny i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, a beth allwn ni ei wneud yn well, er mwyn gwella'r gefnogaeth maent yn ei gael. Mae'r grwpiau ffocws wedi cynnwys y plant a'r bobl ifanc hynny sydd yn aml yn anoddach i'w cyrraedd, hy y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd.

Mae angen ymdrech gydgysylltiedig arnom i sicrhau y gall pobl ifanc ffynnu mewn tirwedd gyflogaeth sy'n newid. Drwy weithio'n agos â rhanddeiliaid allanol, rydym yn sefydlu grwpiau ffocws gyda chynrychiolaeth amrywiol o fewn ein cymunedau, gan gynnwys pobl ifanc o ystod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, i ddatblygu Gwarant nad yw'n gwahaniaethu ar sail y ffactorau hyn.

Mae digwyddiadau ymgysylltu’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol â'u rhanddeiliaid cyflawni yn gyfle pellach i annog cydweithio ar draws y rhanbarthau i gefnogi pobl ifanc fel rhan o'r warant.  Bydd hefyd yn rhoi cyfle i wella gwybodaeth a gedwir gan Cymru'n Gweithio o dan ei ganfyddwr cymorth a gwasanaethau canfod cymorth lleol, gan wella'r arlwy i bobl ifanc. Mae sefydlu ein Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid wedi dod ag ystod eang o bartneriaid a chyflogwyr at ei gilydd i weithio ar y cyd ar ddatblygu'r warant ac i gefnogi ein hymdrechion i wneud y gorau o'n sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc 16 i 24 oed ar draws pob rhanbarth yng Nghymru.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Dechreuodd Llywodraeth Cymru ar chweched tymor y Senedd yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, gan arwain yr ymateb i Covid a mesurau hanfodol i ddiogelu bywydau a bywoliaethau. Mae rheoli pandemig wedi cael effaith enfawr arnom ni i gyd ac ar bob rhan o'n bywydau. Mae wedi amlygu'r anghydraddoldebau cynyddol yn ein cymdeithas, ac rydym yn disgwyl byw gyda'i ganlyniadau niferus am gryn amser i ddod.

Prif nodau camau'r Rhaglen Lywodraethu hon yw adfer o'r pandemig a pharhau i gynyddu ein cyfraniad at ein hamcanion lles tymor hwy, i adael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae angen i ni roi gobaith i blant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol a sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gadael ar ôl. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi plant a phobl ifanc i ennill y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo, boed hynny mewn cyflogaeth, addysg neu ddechrau eu busnes eu hunain.

Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn ceisio sicrhau bod mwy o bobl ifanc 16 i 24 oed yn gallu gwneud dewisiadau am eu camau nesaf a/neu yrfaoedd yn y dyfodol. Bydd yn ceisio sicrhau bod:

  • mwy o bobl ifanc 16 i 24 oed yn teimlo'n fwy parod ar gyfer gwaith a bywyd
  • mwy o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cael mynediad at lwybrau'n ôl at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i bob person ifanc sy'n ddi-waith
  • pobl ifanc 16 i 24 oed yn cael mynediad at gymorth os oes ganddynt ddiddordeb mewn bod yn hunangyflogedig
  • cyflogwyr â’r hyder a'r gefnogaeth i recriwtio pobl ifanc 16 i 24 oed i gael swyddi a phrentisiaethau o safon
  • mwy o gyflogwyr yn cynnig profiadau o’r gweithle i bobl ifanc 16 i 24 oed
  • mwy o bobl ifanc 16 i 24 oed difreintiedig yn elwa o argaeledd cyfleoedd cyflogaeth â thâl a chyfleoedd dysgu

Drwy gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gael addysg, sgiliau, gwaith neu brofiad gwaith, ein nod yw gwella iechyd meddwl a lles a chreu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan fwy gweithredol mewn gweithgareddau diwylliannol (gan gynnwys gwella'r defnydd o'r Gymraeg) wrth i'w hincwm wella.

Nid ydym yn rhagweld y bydd cyflwyno'r Warant i Bobl Ifanc yn cael unrhyw effaith negyddol. Mae'r Warant yn ceisio sicrhau system fwy cydlynol, syml a hygyrch i blant a phobl ifanc gael mynediad i'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Nid oes cynlluniau i gael gwared ar unrhyw ddarpariaeth bresennol, yn hytrach bydd y Warant, drwy ei ymgysylltiad â phobl ifanc, cyflogwyr a rhanddeiliaid, yn ceisio nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol a darparu atebion i'r bylchau hynny.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant? a/neu
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn cyfrannu’n gadarnhaol at y Nodau Llesiant canlynol:

  • Cymru lewyrchus: Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn helpu i ddatblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig fydd yn ei thro yn cynorthwyo'r economi i gynhyrchu cyfoeth a darparu cyfleoedd cyflogaeth.  Bydd cyfleoedd yn canolbwyntio cymorth ar cymdeithas garbon isel. 
  • Cymru iachach: Mae mynediad at sgiliau yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel ffactor arwyddocaol yn yr hyn sy’n digwydd yn ein bywyd, gan gynnwys iechyd, sefyllfa economaidd-gymdeithasol a disgwyliad oes. Mae tystiolaeth yn dangos y gall cyflawni gwaith teg sicrhau manteision tymor hir lluosog, gan ein helpu i oresgyn problemau sylfaenol parhaus ac effeithio ar newid yn y tymor hir.
  • Cymru sy'n fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gwella lles a lleihau tlodi sy'n parhau i fod yn dreiddiol yng Nghymru. Rydym eisoes yn gweld ardaloedd presennol o amddifadedd yn dioddef mwy nag ardaloedd cefnog Cymru ac rydym yn gwybod bod cyflogaeth yn llwybr uniongyrchol allan o dlodi.
  • Diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus: cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn diogelu'r Gymraeg. Bydd y Warant yn hybu ac annog y defnydd o wasanaethau yn y Gymraeg ac mae’r cymunedau sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn tueddu i fod yn wledig eu natur a byddwn yn sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei roi i argaeledd gwasanaethau yn yr ardaloedd yma er mwyn sicrhau nad yw siaradwyr Cymraeg o dan anfantais o'r herwydd.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Mae Cymru'n Gweithio wedi sefydlu tîm data ac olrhain newydd ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc. Ers 30 Medi, mae gan Cymru'n Gweithio dîm ar waith i fonitro ac adrodd yn erbyn cynnig esblygol ein Gwarant i Bobl Ifanc. Ers hynny mae Cymru'n Gweithio wedi bod yn monitro ac yn olrhain pob person ifanc sy'n defnyddio'r cymorth Gwarant i Bobl Ifanc drwy wasanaeth Cymru'n Gweithio.  Bydd pobl ifanc yn cael eu olrhain ar ôl 3 ac ar ôl 9 mis o'r dyddiad y cawsant gefnogaeth ar gyfer y cynnig Gwarant trwy Cymru'n Gweithio, i sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n llawn neu i ddarparu ymyriadau pellach os oes angen.

Bydd gwerthusiad annibynnol yn cael ei wneud ar adegau allweddol o ddatblygiad a chyflwyniad y warant. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad cyllidebu rhywedd.

Adran A. Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Rhaid anfon pob Asesiad Effaith ar Hawliau Plant i CRIA@llyw.cymru

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'i Brotocolau Dewisol wrth arfer unrhyw rai o’u pwerau.

Proses yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yw'r mecanwaith y cytunwyd arno y dylai swyddogion ei ddefnyddio i gefnogi Gweinidogion i gyflawni'r ddyletswydd hon a sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth gytbwys i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau. Dylid defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i lywio cyngor gweinidogol a rhaid ei gwblhau cyn gwneud penderfyniad gweinidogol. Unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud, rhaid cyhoeddi eich Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant hefyd.

Noder bod gennym Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant ers tro, sy'n cynnwys swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, UNICEF, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, a Plant yng Nghymru, y gellir ei ddefnyddio i drafod neu brofi eich Asesiad drafft.

Cysylltwch â'r Gangen Plant CRIA@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.

Image
Proses yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant

 

I gael rhagor o gyngor ac arweiniad ar broses yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant, cysylltwch â'r Llawlyfr Staff neu cysylltwch â'r Gangen Plant CRIA@llyw.cymru 

Diben

Rhoddodd y Rhaglen Lywodraethu flaenoriaeth i’r Warant i Bobl Ifanc fel ymrwymiad allweddol ar gyfer tymor y chweched Senedd, i liniaru effeithiau’r pandemig Covid ar blant a phobl ifanc dan 25 oed, a gafodd eu heffeithio'n anghymesur gan y sioc economaidd. Y nod yw sicrhau na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl na'i ddal yn ôl o ganlyniad i’r pandemig.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn becyn cynhwysfawr sy'n dod â rhaglenni sydd wedi'u cynllunio i roi'r cymorth cywir ar yr adeg gywir ar gyfer amrywiol anghenion pobl ifanc ar draws Cymru at ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau newydd sy'n hawdd eu defnyddio er mwyn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd yn haws.

Mae cam un y Warant yn rhoi mynediad i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru at:

  • un llwybr syml er mwyn cael mynediad i'r warant drwy Cymru'n Gweithio, bydd cymorth a chyngor gan ymgynghorwyr yn cael ei ddarparu ar sawl ffurf, gan gynnwys yn rhithwir, ar y stryd fawr, a thrwy wella cyfleusterau allgymorth ledled Cymru
  • cyngor hunangyflogaeth a chymorth ar gael drwy Syniadau Mawr Cymru
  • hyfforddeiaethau, sy'n darparu profiad gwaith a hyfforddiant
  • hyfforddiant a chymhellion cyflog trwy raglen ReAct
  • lle ar un o raglenni Cyflogadwyedd Cymunedol allgymorth Llywodraeth Cymru
  • cymorth i ganfod prentisiaeth
  • platfform newydd i chwilio am gyrsiau, i'r rhai sydd eisiau mynd i addysg bellach neu addysg uwch, i'w gwneud hi'n haws i ddod o hyd i'w dewis atgyfeiriad at un o'r rhaglenni a ariennir gan bartneriaid eraill, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Awdurdodau Lleol

Mae'r adran hon yn asesu'r rhesymau dros ddatblygu Gwarant i Bobl Ifanc ar gyfer tymor y llywodraeth hon.

Inequality in the impact of the coronavirus shock: new survey evidence for the UK (University of Cambridge) (Saesneg yn unig)

Yr her

Mae tystiolaeth o argyfyngau blaenorol yn dangos bod dirywiadau yn tueddu i gael effeithiau arbennig o niweidiol ar weithwyr iau. Yn ystod y pandemig, roedden nhw'n fwy tebygol o fod yn cael eu cyflogi mewn sectorau a gafodd eu cau i bob pwrpas fel rhan o gyfnod cyfyngiadau symud y DU, fel manwerthu (heblaw manwerthu bwyd) a swyddi gwasanaethau, ac maent yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swyddi ers hynny.

Mae plant a phobl ifanc sy'n dechrau yn y farchnad lafur wedi bod yn gweithio fwyfwy mewn galwedigaethau sy'n gymharol isel ac maent yn fwyaf tebygol o fod wedi colli gwaith oherwydd ffyrlo, colli swyddi a gostyngiad yn yr oriau gwaith.

Mae carfanau sy'n mynd i mewn i'r farchnad lafur yn ystod cyfnodau o ddirywiad economaidd wedi wynebu diweithdra uwch, cyflogau is a rhagolygon swyddi gwael hyd at ddegawd yn ddiweddarach, o'u cymharu â phobl ifanc sy'n mynd i'r gwaith cyn neu ar ôl y dirywiad.

Ar gyfartaledd mae gan bobl ifanc ddisgwyliad oes o fyw 60 i 80 mlynedd arall ar y blaned hon, a bydd eu gyrfa a'u rhagolygon yn y dyfodol yn effeithio ar eu teuluoedd a'u cenedlaethau i ddod. Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yn creu amryw o effeithiau sy’n creithio ac yn arwain at nifer o ganlyniadau negyddol o ran lles corfforol a meddyliol. Os yw pobl ifanc yn parhau mewn tlodi bydd hyn yn effeithio ar y genhedlaeth nesaf sy'n llawer mwy tebygol o fod â phwysau geni isel, cyrhaeddiad addysgol gwael yn yr ysgol ac, o ganlyniad, cenhedlaeth arall â rhagolygon swyddi gwael.

Gall cyflogwyr ystyried cyfnodau o ddiweithdra ar CV rhywun i fod yn arwydd negyddol, a gall diweithdra ar ddechrau eu gyrfa arwain at gael lefelau is o sgiliau neu golli hyder yn gyffredinol gan yr unigolyn. Gall cael eu creithio newid disgwyliadau pobl, fel creu mwy o ddisgwyliad o ddiweithdra yn y dyfodol. Yn ogystal, gall y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith pan yn ifanc fod â mwy o ofn o diweithdra rheolaidd yn y dyfodol, gan leihau eu lles, yn y tymor byr o leiaf.

Rydym yn gwybod bod plant sy'n tyfu i fyny ac yn byw mewn cartrefi incwm isel mewn llawer mwy o berygl o fod â datblygiad a chyrhaeddiad addysgol llai llwyddiannus ac yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant rhwng 16 a 24 oed ac yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith ac yn byw mewn tlodi fel oedolyn.

Gall bod yn unigolyn nad yw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant gael effaith ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc a gall hefyd olygu eu bod yn dod yn ddi-waith neu fod mewn cyflogaeth â chyflogau isel yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd y rhaglen yn cynnig cymhelliant i gyflogwyr sy'n recriwtio rhywun nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ac/neu yn anabl.

Young workers in the coronavirus crisis (Resolution Foundation) (Saesneg yn unig)

COVID-19 and the career prospects of young people (Institute for Fiscal Studies (IFS)) (Saesneg yn unig)

Labour market implications of COVID-19 (Ulster University) (Saesneg yn unig)

Youth unemployment produces multiple scarring effects (London School of Economics LSE)) (Saesneg yn unig)

Strategaeth Tlodi Plant Cymru (2015), Llywodraeth Cymru (2015)

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r bwriad o ddarparu cynnig o gymorth i weithio, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed ledled Cymru. Gyda'r warant hon, rydym am sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yma yng Nghymru.

Mae cefnogi pobl ifanc i fynd i fyd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a symud ymlaen, yn ymyrraeth allweddol i liniaru'r risg o unrhyw effeithiau hirdymor o ddysgu a amharwyd arno, oedi cyn cael mynediad at y farchnad lafur, ffyrlo neu ddiweithdra o ganlyniad i COVID-19.

Mae angen rhoi gobaith i blant a phobl ifanc am y dyfodol a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi plant a phobl ifanc i ennill y sgiliau a'r profiadau y bydd eu hangen arnynt i lwyddo, boed hynny mewn cyflogaeth, addysg neu ddechrau eu busnes eu hunain.

Mae meithrin cenhedlaeth o dalent ifanc, ac annog pobl at Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant yn hanfodol er mwyn codi dyheadau a chyfle, yn enwedig i'r bobl ifanc hynny y gall diweithdra eisoes fod wedi ei wreiddio yn eu teulu, er mwyn eu atal rhag ymddieithrio oddi wrth y farchnad lafur ac effeithiau niweidiol cyfnodau o segurdod.

Lle bo modd, mae ein dull gweithredu yn ceisio atal yr angen i bobl ifanc gael mynediad at y system les, sydd â risgiau o ran dibyniaeth gylchol mwy hirdymor, ac yn hytrach cefnogi pobl i waith, hunangyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y tymor byr. Mae hyn yn ychwanegol at atal ac adfer dysgu coll yn sgil y tarfu a achoswyd gan COVID-19 mewn ysgolion, lleoliadau, a cholegau.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn debygol o gael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.  Drwy wella llwybrau mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu hunangyflogaeth byddwn yn lleihau'r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gan wella sgiliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc. Yn ei dro, bydd hyn yn cyfrannu at leihau'r nifer o deuluoedd yng Nghymru sy'n byw mewn aelwydydd di-waith a gwella lles ac iechyd cenedlaethau'r dyfodol.

Esboniwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Mae'r strategaeth yn cefnogi Erthyglau, 3, 6, 12, 13, 16, 23, 27, 28, 29, 30, 32 a 36 gan ei bod yn hyrwyddo cydraddoldeb o ran mynediad at wybodaeth, cefnogaeth, cyfle a chynnydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth deg, ac yn hyrwyddo dull wedi’i deilwra o gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Mae hyn yn cynnwys gweithredu wedi'i dargedu i gefnogi pobl Anabl yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd, a hawl i bobl ifanc ddefnyddio iaith eu teuluoedd.

Effaith ar hawliau plant
Erthyglau neu Brotocol Dewisol y Confensiwn

Yn Gwella (X)

Yn Herio (X)

Esboniad

3. Dylai pawb sy’n gweithio â phlant wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn.

X

 

Bydd y rhaglen yn sicrhau bod yr holl bartneriaid cyflenwi a chyflogwr sy'n ymwneud â'r rhaglen yn cadw at faterion diogelu ac iechyd a diogelwch priodol, a thrwy hynny, sicrhau diogelwch a lles pobl ifanc.  Bydd hyn yn cael ei fonitro drwy brosesau rheoli contract.

6. Mae gennych chi hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach. X   Mae mynediad at addysg a chyfleoedd gwaith o safon yn cael effaith ar ganlyniadau iechyd hirdymor.  Nod y rhaglen yw lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant drwy gynnig cyfleoedd i wella eu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd a darparu cyfleoedd gwaith.
12. Eich hawl i ddweud beth rydych chi'n meddwl ddylai ddigwydd a bod eich llais yn cael ei glywed. X   Bydd y rhaglen yn rhoi'r cyfle i gyfranogwyr ifanc unigol fod yn rhan o ddatblygiad eu cynllun dysgu a chael lleisio barn am sut y dylid teilwra'r rhaglen ar gyfer eu hanghenion unigol eu hunain.

13. Eich hawl i gael gwybodaeth.

16. Eich hawl i gael preifatrwydd.

X   Bydd gwybodaeth a data a gesglir drwy Cymru'n Gweithio, Llywodraeth Cymru a'r darparwyr yn destun Hysbysiadau Preifatrwydd llym.  Byddant yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cyd-fynd â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Bydd gan y pobl ifanc yr hawl i apelio'r hysbysiad sy'n nodi'r 'bwriad i ymyrryd'.
23. Eich hawl i ofal a chymorth arbennig os ydych yn anabl, fel y gallwch fyw bywyd llawn ac annibynnol. X   Bydd y rhaglen yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau neu sy’n anabl i helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cyflogaeth a brofwyd o ganlyniad i'r amhariad, anabledd neu nodweddion gwarchodedig a rennir. Bydd hyn yn helpu i gynyddu'r cyfleoedd i unigolion gael gwaith cynaliadwy, sydd yn angenrheidiol i fyw bywydau annibynnol.
27. Eich hawl i safon byw da. X   Bydd y rhaglen yn gwella sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd pobl ifanc yn ogystal â darparu blas o waith a lleoliadau gwaith.  Bydd y ddarpariaeth hon yn cynyddu eu siawns o ddod o hyd i waith a’i gadw, a thrwy hynny, mwynhau safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion meddyliol a chorfforol.
28. Eich hawl i ddysgu a mynd i'r ysgol. X   Mae gan blant hawl i addysg ac mae'r rhaglen yn sicrhau ei bod yn darparu cyfleoedd addas i ddiwallu anghenion plant 16 i 18 oed a allai fod wedi gadael ysgol yn gynnar neu wedi ymddieithrio o addysg orfodol.
29. Eich hawl i fod y gorau y gallwch fod. X   Nod y rhaglen yw darparu'r sgiliau a'r profiad i bobl ifanc fydd yn eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn. 

30. Eich hawl i ddefnyddio eich iaith eich hun.

X   Gall cyfranogwyr gael mynediad at y rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg. I'r rhai nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd yr angen hwn yn cael ei nodi a bydd cymorth yn cael ei ddarparu drwy gyflwyno darpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
32. Dylech gael eich gwarchod rhag gwaith sy'n beryglus. X   Bydd y rhaglen yn ystyried eu hanghenion a'u lles ehangach.  Mae'r darparwr hyfforddiant yn gyfrifol am iechyd a diogelwch dysgwyr o fewn gweithleoedd.  Ni wyddys pa mor hir y gall cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol fod ar waith yng Nghymru.  Mae canllawiau cynhwysfawr wedi eu cyhoeddi ar gyfer y sector ôl-16 yn dilyn dechrau COVID-19 gyda'r nod o ddiogelu pobl ifanc mewn canolfannau dysgu a'r gweithle.
36. Dylech gael eich amddiffyn rhag gwneud pethau a allai eich niweidio. X   Bydd y rhaglen yn sicrhau bod holl Gontractwyr, partneriaid cyflenwi a chyflogwyr sy'n ymwneud â'r rhaglen yn cadw at faterion diogelu ac iechyd a diogelwch priodol er mwyn sicrhau diogelwch a lles pobl ifanc.  Bydd hyn yn cael ei fonitro drwy brosesau rheoli contract.

Ymgynghori â phobl ifanc a rhanddeiliaid

O flwyddyn ariannol 2022 i 2023, rydym yn gobeithio gwella'r Warant i bobl ifanc ac rydym am i leisiau plant a phobl ifanc fod wrth wraidd y datblygiad hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru'n cynnal sgwrs genedlaethol gyda phlant a phobl ifanc a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ystod eang o unigolion sy'n cynrychioli grwpiau poblogaeth rydym yn ceisio eu cefnogi.

Sgwrs Genedlaethol

Bydd tri grŵp ffocws Sgwrs Genedlaethol y flwyddyn yn cael eu cwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg i sicrhau ein bod yn deall anghenion penodol yn ymwneud â'n plant a'n pobl ifanc sy’n siarad Cymraeg. Byddwn yn cysylltu’n benodol â barn siaradwyr Cymraeg drwy'r Urdd, Colegau Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rhwydweithiau’r ffermwyr ifanc a Chlybiau Ieuenctid Cymraeg eu hiaith. Byddwn yn manteisio ar y cyfle i holi barn pobl ifanc drwy ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod a'r Sioe Frenhinol.

Bydd amrywiaeth o weithgarwch ymgysylltu cymhleth yn galluogi pobl ifanc o bob cefndir, yn enwedig gan grwpiau na chlywir yn aml, i ymgysylltu a rhannu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol, dywedwch wrthym am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda iddynt, ochr yn ochr ag unrhyw rwystrau a rhannu eu gwybodaeth a'u profiad o ran y cyngor a'r dirwedd cymorth gyrfaol presennol yng Nghymru. Rydym hefyd yn gofyn am eu barn am sut y gallwn wella ein hymgysylltiad â nhw a sut i helpu i'w cadw'n rhan o’r broses. Mae sgyrsiau grŵp ffocws cychwynnol yn cael eu cynnal gan gwmni ymchwil allanol (Ymchwil Beaufort) ac maent yn cynnwys grwpiau sy'n 16 i 18 oed:

  • nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant, neu mewn perygl o hynny
  • sydd yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref
  • sydd yn bobl ifanc anabl
  • sydd yn ofalwyr ifanc
  • sydd yn unigolion sy'n gadael gofal
  • o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • sydd yn geiswyr Lloches a Ffoaduriaid
  • o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • sydd yn bobl ifanc LHDTCRh+
  • sydd â phroblemau iechyd meddwl
  • sydd yn bobl ifanc sydd wedi eu heithrio’n ddigidol
  • sydd yn bobl ifanc a addysgwyd gartref o ddewis
  • sydd yn bobl ifanc mewn tlodi
  • sydd yn droseddwyr ifanc
  • sydd yn bobl ifanc mewn cymunedau gwledig
  • sydd yn siaradwyr Cymraeg
  • o garfanau mwy 'cyffredinol' 16 i 24 oed

O ran ein gwaith ehangach rydym yn gwerthfawrogi bod pobl ifanc yn debygol o uniaethu ar draws ystod o grwpiau, fodd bynnag, mae hyn yn fodd i sicrhau nad oes yr un person ifanc yn cael ei adael ar ôl. Bydd cwestiynau yn ymwneud â'r Sgwrs Genedlaethol yn cael eu gosod er mwyn deall y rhwystrau i hybu ac annog y defnydd o wasanaethau yn y Gymraeg. Bydd yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer digwyddiadau'r grwpiau ffocws yn ei gwneud hi'n glir y bydd yna groeso a hwylustod i'r defnydd o'r Gymraeg.

Lle gofynnir i bobl ymlaen llaw gyfrannu at gyfarfod, rhaid gofyn iddynt os ydynt yn dymuno gwneud hynny yn Gymraeg neu os oes angen cymhorthion neu addasiadau penodol fel cyfieithydd iaith arwyddion. Darperir cyfieithu ar y pryd. Rhaid i unrhyw wahoddiadau i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus fod yn ddwyieithog. Rhaid i unrhyw destun a arddangosir gan y sefydliad yn y cyfarfod fod yn ddwyieithog.

Fforwm i Bobl Ifanc

Rydym hefyd yn bwriadu sefydlu Fforwm i Bobl Ifanc fel modd ar gyfer perthynas barhaus gyda grŵp cynrychioliadol dros y 3 blynedd nesaf. Bydd y Fforwm yn galluogi trafodaeth ynghylch cynigion ac argymhellion a fydd wedyn yn ffurfio cyngor a phenderfyniadau Gweinidogol o ganlyniad i'r sgyrsiau cenedlaethol a’r gweithgareddau datblygu polisi eraill fydd yn digwydd. Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn ddwyieithog. Yn ogystal â hynny, rydym wedi gosod targed i sicrhau bod 45% o gynrychiolaeth y Fforwm y Warant i Bobl Ifanc yn siarad Cymraeg. Bydd cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn hwyluso digwyddiadau. Rhaid i'r gwasanaeth Cymraeg beidio bod yn llai ffafriol na fyddai unrhyw wasanaeth Saesneg.

Canlyniad Sgyrsiau Cenedlaethol

Bydd canlyniad y sgyrsiau cenedlaethol yn cael ei hamlinellu mewn adroddiad blynyddol ac yn tynnu sylw at farn pobl ifanc sy'n siarad Cymraeg a chanfyddiadau a ddefnyddir i nodi ac asesu cyfleoedd ac argymhellion newydd i lywio polisi ar draws Cymru.

Rhanddeiliaid

Yn ogystal â hynny, rydym wrthi'n datblygu cynlluniau gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allanol sy'n gweithio'n agos â phobl ifanc, i sicrhau ein bod yn clywed gan sefydliadau cynrychioliadol arbenigol fel yr Urdd / Colegau Cymru / y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg.

Effeithiau Negyddol

Mae’r warant i bobl ifanc yn un o bum prif ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu, ac mae'r ffocws ar bobl ifanc yn rhan allweddol o'n hymdrechion i helpu plant a phobl ifanc i fentro i fyd gwaith a datblygu yn y byd hwnnw.

Rydym wedi ymrwymo i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant a phobl ifanc i ddechrau a newid eu stori, gan gefnogi eu taith wrth iddynt adael yr ysgol, wrth iddynt symud i mewn neu adael coleg neu brifysgol, a chefnogi'r rhai sy'n wynebu diweithdra neu hyd yn oed ddiswyddiadau.

Rhoddwyd cyllideb, ffocws polisi ac ymyriadau ychwanegol ar waith i gynyddu'r gefnogaeth i'r garfan hon.

Fel rhan o'r gwaith cynllunio ynghylch polisi a gweithredu'r Warant i Bobl Ifanc, nid ydym yn disgwyl i'r Warant i Bobl Ifanc gael effaith negyddol ar y sector.  

Bydd Cymru'n Gweithio yn parhau i fonitro ac olrhain pob person ifanc sy'n cael mynediad at y Warant i Bobl Ifanc drwy wasanaeth Cymru'n Gweithio i sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n llawn neu i ddarparu ymyriadau pellach os oes angen. Yn ogystal â hynny, ein nod yw ymgymryd â gwerthusiad proses ac effaith annibynnol o’r dull 'system gyfan' o ddarparu’r Warant. Datblygwyd Fframwaith Gwerthuso ar gyfer asesu dyluniad, gweithredu a chanlyniadau'r Warant dros o leiaf dair blynedd yn systematig. Rydym am wybod pa effeithiau fydd y Warant yn ei chael (os o gwbl), ar bwy, a pham. Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer y ffordd orau o fesur effeithiau cyffredinol a chost-effeithiolrwydd y fenter yn ei chyfanrwydd.