Mae Tasglu a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Llywodraeth y DU i gefnogi gweithwyr, cymunedau a chwmnïau sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi yr effeithir arnyn nhw gan y cynllun arfaethedig i gau’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd am y tro cyntaf y bore ‘ma.
Mae Tasglu a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Llywodraeth y DU i gefnogi gweithwyr, cymunedau a chwmnïau sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi yr effeithir arnyn nhw gan y cynllun arfaethedig i gau’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd am y tro cyntaf y bore ‘ma.
Bydd y Tasglu, sy'n cael eu noddi ar y cyd gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, ac Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cael ei gadeirio gan yr Athro Richard Parry-Jones CBE ac yn cyfuno cynrychiolwyr o Ford, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, BEIS, DIT, Undebau Llafur, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac eraill.
Er mwyn sicrhau'r budd gorau ar gyfer y gweithlu a'r gymuned ehangach, bydd y Tasglu yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:
- Pobl: canolbwyntio ar y rhai hynny sy'n gweithio yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac o fewn cadwyni cyflenwi'r ffatri i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod ymgynghori ac yn y dyfodol.
- Posibiliadau: canolbwyntio ar y posibiliadau hirdymor ar y safle drwy ddenu buddsoddiad newydd i ddiogelu ei ddyfodol a sgiliau'r gweithlu.
- Lle: canolbwyntio ar yr effaith ehangach ar y gymuned a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r ardal a'r rhanbarth ehangach. Arweinir y maes gwaith hwn gan y cyn Prif Weinidog a'r Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones.
Dywedodd Gweinidog yr Economi:
"Mae hyn yn adeg bwysig ar gyfer dyfodol y safle modern hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a'i lawer o weithwyr medrus ac ymroddedig.
"Bydd y Tasglu yn ystyried nid yn unig botensial enfawr y gweithlu a'r cyfleuster, ond hefyd yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi'r gadwyn gyflenwi a'r gymuned leol. Wrth wneud hwn, bydd yn rhoi arweiniad clir ar y ffordd orau i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Ford, awdurdodau lleol, yr Undebau Llafur ac eraill weithio gyda'i gilydd mewn modd adeiladol i gefnogi'r ardal ar yr adeg anodd a heriol hon. Wrth imi a'm swyddogion ddechrau'r trafodaethau hyn rydyn ni'n benderfynol o weithio'n ddiflino gyda’n holl bartneriaid i ddod o hyd i'r ffordd orau o wynebu'r dyfodol ar gyfer pawb"
Bydd y Tasglu yn cwrdd yng Nghanolfan Dechnoleg Llywodraeth Cymru yn Nhredŵr, ym Mharc Busnes Tredŵr gyferbyn â safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd prif gyfarfod y Tasglu yn dechrau am 9am ac wedyn bydd cyfarfodydd a fydd yn canolbwyntio ar y tri gwahanol faes gwaith