Heddiw (29 Medi), bydd pobl ifanc, arweinwyr busnes a hyfforddwyr yn dod ynghyd yng Nghaerdydd ar gyfer y Sgwrs Go Iawn ar y Gymraeg.
Mae'r digwyddiad yn gyfle i bobl drafod syniadau am y manteision a'r cyfleoedd sydd ynghlwm â defnyddio'r Gymraeg yn y byd gwaith, a lleisio eu barn mewn amgylchedd diogel.
Mae hefyd yn rhoi llwyfan i bobl ifanc siarad yn uniongyrchol â'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau i ddeall beth y mae cyflogwyr yn ei ddisgwyl gan bobl ifanc a pha sgiliau ieithyddol y maen nhw'n chwilio amdanynt er mwyn helpu eu busnesau i lwyddo.
Bydd cyflogwyr yn rhannu eu profiadau ar sut y caiff yr iaith ei defnyddio ar hyn o bryd yn y byd gwaith, a sut y mae wedi effeithio ar eu busnes, ac hefyd cael golwg onest ar y rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a sut y gall y rhain effeithio ar eu gyrfaoedd.
Bydd trafodaethau'n helpu i gefnogi a llywio gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan sicrhau bod gweithlu'r dyfodol yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau a'r agwedd gywir i helpu i wireddu eu potensial, pa bynnag yrfa byddant yn ei dewis.
Bydd Catrin Heledd o BBC Cymru yn cyd-gyflwyno'r digwyddiad gyda'r arbenigwr busnes, Huw Thomas.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Mae'n wych bod busnesau a phobl ifanc yn gallu dod ynghyd fel hyn i drafod y manteision a'r cyfleoedd sydd ynghlwm â defnyddio'r Gymraeg ym myd busnes ac i ystyried sut y gellid goresgyn unrhyw rwystrau, boed rheini'n rhai go iawn neu beidio.
“Rydw i am i bobl ifanc ledled Cymru feddu ar y sgiliau a'r agwedd gywir, fel eu bod yn gallu gwireddu eu potensial pa bynnag ddewisiadau maen nhw'n eu gwneud o ran gwaith yn y dyfodol.
“Yn rhy aml, mae'r Gymraeg yn cael ei chyhuddo o fod yn wastraff arian, pan mewn gwirionedd, mae'n ased i fusnesau yn y cyfnod economaidd heriol hwn. Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amcangyfrif bod Menter Caerdydd wedi creu gwerth economaidd o £1.9m i Gaerdydd yn 2014-15.
“Mae digwyddiadau fel hyn hefyd yn cefnogi ac yn arwain gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, wrth inni symud yr iaith ymlaen i’r dyfodol mewn ffordd rhagweithiol a chymesur."