Neidio i'r prif gynnwy

Car celloedd tanwydd hydrogen, 2 sedd, fforddiadwy, sy'n gwneud 250mpge yw’r Riversimple Rasa. Bydd yn gwneud ymddangosiad ecogyfeillgar yn LCV 2016 Cenex

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cwmni ceir ecolegol, Riversimple Movement, yn cyflogi 23 o weithwyr mewn canolfan ymchwil a datblygu yn Llandrindod ac ar hyn o bryd mae wedi codi arian torfol ar gyfer eu Rasa (Lladin am llechen lân) i gyd-fynd â grant UE gwerth €2miliwn.

Mae'r Rasa, sy'n ddyluniad newydd, wedi derbyn cymorth grant a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi'i adeiladu i fod mor rhad ar ynni â phosib. Mae'n defnyddio 8.5kW o gelloedd tanwydd hydrogen yn hytrach na'r 100+kW o gelloedd tanwydd a ddefnyddir mewn cerbydau hydrogen eraill. Mae gan y Rasa siasi carbon cyfansawdd a phaneli ffibr gwydrog, ac mae'n pwyso 580kg. Mae'n gallu gwneud 250mpge ar y cylch trefol swyddogol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates: 

"Nid yn unig mae'r Rasa yn gerbyd arloesol iawn sy'n defnyddio technoleg ddatblygedig ond mae hefyd wedi'i ddylunio'n wych ac yn denu sylw pawb. Mae'n hysbyseb wych ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru ac  mae'n amlygu'r arbenigedd a'r sgiliau sydd gennym. Mae hefyd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau sydd â syniadau da."

Dywedodd sefydlydd Riversimple, Hugo Spowers: 

"Yn ogystal â'n cefnogi ni gyda £2 miliwn tuag at gwblhau'r ymchwil a datblygu, ac adeiladu'r Rasa, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd diddordeb yn ein dyfodol. Mae eu hymrwymiad, diddordeb a brwdfrydedd yn yr hyn rydym yn ei wneud yn galonogol iawn - rydym yn ei werthfawrogi'n fawr."

Rheolir yr LCV gan Cenex, canolfan ragoriaeth gyntaf y DU ar gyfer technolegau carbon isel a chelloedd tanwydd. Mae'r digwyddiad yn denu arweinwyr diwydiant y DU, gan gynnwys yr holl brif rhanddeiliaid, y prif weithgynhyrchwyr, cynrychiolwyr cadwyni cyflenwi a swyddogion y llywodraeth. 

Bydd Llywodraeth Cymru yno i arddangos cryfderau Cymru yn y sector cerbydau modur a cherbydau carbon isel, ac i hyrwyddo Cymru fel canolfan ar gyfer buddsoddi mewn hydrogen. Mae ymchwil academaidd helaeth i danwyddau amgen hefyd yn cael ei gwneud mewn prifysgolion ledled Cymru gyda’r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (Saesneg yn unig - dolen allanol).