Mae'r rhwydwaith ar gyfer cydweithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n ymwneud â chreu neu asesu achosion busnes.
Diben y rhwydwaith yw:
- hyrwyddo cydweithio ar draws sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
- rhannu’r arferion gorau ac annog dysgu
- rhoi sylw i’r pynciau pwysig cyfredol ym maes datblygu achosion busnes.
Mae’r cyfarfodydd yn gyfle i fanteisio ar ddosbarthiadau meistr, gwaith grŵp, cyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio.
I gofrestru eich diddordeb yn y rhwydwaith a chael clywed am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â: SwyddfaCyflawniProsiectau@llyw.cymru