Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y Rhwydwaith a sut bydd yn gweithio.

Gweledigaeth

Sicrhau bod darpariaeth effeithiol o gyngor ar gael ledled Cymru i bob dinesydd.

Amcanion

  1. Datblygu a chefnogi'r gwaith o weithredu dull strategol i ddarparu gwasanaethau cynghori am les cymdeithasol yng Nghymru
  2. Gweithio gyda darparwyr cyngor, arianwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill, a darparwyr gwasanaethau, i gyflawni'r weledigaeth hon
  3. Cryfhau'r cydlyniant rhwng gwasanaethau cynghori am fudd-daliadau lles, dyledion, tai a gwahaniaethu gyda gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â chyngor
  4. Sicrhau bod y ddarpariaeth gydgysylltiedig o gyngor yng Nghymru yn mynd i’r afael ag effeithiau negyddol diwygio’r system les ac yn cyfrannu at y gwaith o drechu tlodi
  5. Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy'n ariannu gwasanaethau cynghori er mwyn cefnogi datblygiad parhaus y dull strategol o ddarparu gwybodaeth a chyngor yng Nghymru.

Swyddogaethau

Bydd swyddogaethau'r Rhwydwaith yn cynnwys:

  • Deall natur y galw am wasanaethau cynghori ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • Cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i amlygu unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng darparwyr, gan anelu yn y pen draw at wella profiad y cleient ac ansawdd ac effeithiolrwydd y cyngor a ddarperir
  • Rhannu a lledaenu arferion da, neu ddatblygu ffyrdd arloesol o roi cyngor
  • Dylanwadu ar bolisïau a gweithdrefnau i leihau'r galw am wasanaethau cynghori
  • Hybu ymdrechion i wella ansawdd cyffredinol gwybodaeth a chyngor yng Nghymru, a sicrhau mwy o gysondeb o ran mesur canlyniadau ar draws y sector cynghori
  • Pennu set eang o egwyddorion/canllawiau ar gyfer rhwydweithiau cynghori lleol neu ranbarthol, a chynnal perthynas weithio agos â'r rhwydweithiau hynny, yn ddelfrydol drwy gyfrwng swyddogion penodol
  • Dod o hyd i ffynonellau newydd o gyllido a nodi'r cyfleoedd ar gyfer symleiddio gwasanaethau
  • Nodi'r cyfleoedd ar gyfer ceisiadau ar y cyd am gyllid i greu, cefnogi a gwella gwasanaethau rheng flaen
  • Cefnogi’r broses o roi Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru ar waith, a monitro cynnydd yn erbyn y cynllun yn flynyddol
  • Cynghori Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau cynghori effeithiol a chynaliadwy
  • Paratoi at y dyfodol.

Cod Ymddygiad i Aelodau

Wedi'i ddiwygio fis Ionawr 2017

Cyflwyniad

Mae'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol yn cydnabod cyfraniad aelodau gwirfoddol i'r Rhwydwaith, i’r sector cynghori ac i ddefnyddwyr posib y gwasanaeth yng Nghymru.

Diben y cod hwn yw cynnal safonau ymddygiad uchel, helpu aelodau, a gwarchod yr hyn sydd orau i'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol.

Mae Aelodaeth Graidd gan y Rhwydwaith sy'n cwrdd pedair gwaith y flwyddyn. Yn ogystal, mae ganddo Aelodaeth Ehangach sy'n cwrdd yn flynyddol i adolygu'r cynnydd ac i nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Goblygiadau i aelodau'r rhwydwaith

Mae'r Rhwydwaith yn disgwyl y bydd pob aelod yn cefnogi amcanion a gweithgareddau'r Rhwydwaith unwaith y cytunir arnynt.

Fel arfer, bydd y Rhwydwaith yn ceisio sicrhau consensws wrth wneud penderfyniad.

Mae gofyn i'r aelodau weithredu er budd y Rhwydwaith yn unig, ac nid er lles eu cyflogwr, eu sefydliad aelodaeth neu eu grŵp buddiant ehangach. Yr unig rai a gaiff eu heithrio rhag hyn yw'r tri chynrychiolydd a etholir i'r Rhwydwaith gan Fforwm y Darparwyr Cyngor Annibynnol, gan mai eu gwaith nhw yw cynrychioli buddiannau darparwyr gwybodaeth a chynghori. Rhoddir gwerth mawr ar brofiad a gwybodaeth pob aelod. Nid oes disgwyl i aelodau'r rhwydwaith weithredu fel cynrychiolwyr ar gyfer unrhyw grŵp buddiant penodol, ar wahân i Fforwm y Darparwyr Cyngor Annibynnol.

Disgwylir i Aelodau Craidd fynd i 4 cyfarfod y Rhwydwaith bob blwyddyn ac i ddarllen y papurau sy'n cael eu dosbarthu cyn y cyfarfodydd fel eu bod yn gallu cyfrannu'n llawn ynddynt. Cânt fod yn bresennol yn y cyfarfod eu hunain neu dros gyswllt fideo. Disgwylir i aelodau gyflawni cyfnod y penodiad cychwynnol heb eilyddio – i’r perwyl hwnnw, dim ond gyda chydsyniad y Cadeirydd ymlaen llaw y caiff eilyddion fynd i'r cyfarfodydd.

Efallai y gofynnir i Aelodau'r Rhwydwaith Ehangach gyfrannu drwy e-bost neu gymryd rhan mewn grwpiau gorchwyl a gorffen, a hynny ar ben Cyfarfod Blynyddol y Rhwydwaith Ehangach.

Disgwylir i bob Aelod gymryd camau rhesymol i sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r datblygiadau perthnasol mewn polisi cyhoeddus a materion eraill sy'n effeithio ar waith y Rhwydwaith, neu a allai effeithio arno.

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, bydd yr holl eitemau ar yr agenda a gynigir gan aelodau'r Rhwydwaith yn cael eu cefnogi gan bapur sy'n nodi'r mater i'w drafod a'r canlyniadau posib. Disgwylir i aelodau:

  • Wrando, a pharchu barn eraill
  • Chwilio am ddatrysiad cadarnhaol i unrhyw faterion lle ceir gwahaniaeth barn
  • Parchu swydd y Cadeirydd, i sicrhau trefn yn y cyfarfodydd.

Datganiadau buddiant

Disgwylir i’r holl aelodau:

  • Sicrhau nad yw buddiannau ariannol preifat neu bersonol yn dylanwadu ar eu penderfyniadau
  • Sicrhau nad ydynt yn manteisio ar eu rôl fel aelod o'r Rhwydwaith er lles personol o unrhyw fath
  • Rhoi gwybod i'r Ysgrifenyddiaeth am unrhyw fuddiant ariannol neu fuddiant arall a allai ddylanwadu ar eu barn neu roi'r argraff fod y Rhwydwaith yn gweithredu i hyrwyddo buddiannau'r aelodau.

Cyfrinachedd

Ni ddylai'r aelodau drosglwyddo gwybodaeth sy'n eu meddiant oherwydd eu bod yn rhan o'r Rhwydwaith i drydydd parti heb gydsyniad y Cadeirydd neu'r Ysgrifenyddiaeth. Bydd y papurau sy'n cael eu rhannu â'r grŵp rhanddeiliad ehangach yn cael eu rhannu gan yr Ysgrifenyddiaeth ac wedi'u marcio'n glir.

Gweithgarwch arall

Dylai aelodau ystyried eu bod yn cael eu gweld fel llysgenhadon i'r Rhwydwaith bob amser. Dylent felly sicrhau nad yw unrhyw rai o'u gweithgareddau allanol yn dwyn anfri ar y Rhwydwaith.

Hawlio costau

Bydd Llywodraeth Cymru'n ad-dalu costau teithio a chynhaliaeth yr aelodau am fynd i gyfarfodydd y Rhwydwaith drwy anfoneb. Bydd rhaid cynnwys derbynebau. Mae'r cyfraddau cyfredol ar gyfer teithio a chynhaliaeth ar gael gan yr Ysgrifenyddiaeth.