Neidio i'r prif gynnwy
Prosiectau a Ariennir drwy Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

 

Sefydliad

Lleoliad Prosiect yr Awdurdod Lleol

Disgrifiad o’r Prosiect

Nifer y  Cartrefi

Grant £

Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC)

Barcud

Powys

Gwella perfformiad thermol a lleihau allyriadau carbon – gan fynd i'r afael â chynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio.

7

66,340

LCC

Barcud

Powys

Ôl-osod Inswleiddiad Waliau Allanol;

gosod unedau perfformiad uchel, gwydr dwbl newydd yn lle unedau ffenestri gwael;

gosod unedau panel a chadw gwres uchel newydd y gellir eu rheoli yn lle hen wresogyddion stôr; gosod paneli solar ffotofoltäig er budd pob eiddo; darparu silindrau dŵr poeth deallus sy'n cael eu gwresogi yn y lle cyntaf gan y paneli solar ffotofoltäig; gosod inswleiddiad newydd sylweddol yn y to.

Gosod teils newydd ar y to i alluogi'r paneli solar ffotofoltäig integredig

23

543,000

Awdurdod Lleol (ALl)

Sir Gâr

Sir Gâr 

Gwella rhinweddau thermol yr adeilad a'r fflatiau i gael eu gwresogi gan nwy'r prif gyflenwad. Adeiladu ar yr ymchwil a wnaed yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru a'r WSA, ynghyd â rhaglen RMI fawr, ac archwilio'r posibilrwydd o ffynonellau gwresogi carbon isel cymunedol/cyfunol

32

616,289

ALl

Sir Gâr

Sir Gâr 

Prosiect byw â chymorth a fydd yn darparu tai carbon isel, cost isel i bobl sy'n agored i niwed sy'n rhannu neu'n byw'n annibynnol.

8

264,000

ALl

Sir Gâr

Sir Gâr 

Uwchraddio boeleri Gradd E i Systemau Hybrid

50

685,000

LCC

Clwyd Alyn

Sir y Fflint,

Sir Ddinbych, Conwy,

Wrecsam, Ynys Môn,

Ar hyn o bryd, mae gan Clwyd Alyn gyfran fechan o gartrefi sydd â sgôr EPC o E,F,G. Nid yw'r cartrefi hyn yn defnyddio ynni'n effeithlon, gan beri i'n trigolion dalu mwy am danwydd i gadw eu cartrefi'n gynnes ac yn gyfforddus. Hoffem osod systemau IES (systemau ynni deallus) yn y cartrefi hyn a chynnal mesurau i sicrhau bod y dull ffabrig yn gyntaf yn cael ei ddefnyddio.

152

198,400

ALl

Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

Byddai mesurau ynni i'n gwaith ar dai gwarchod oddi ar y grid sy'n anodd eu trin yn dilyn dull ffabrig yn gyntaf; ymgodiad EWI i'n gwaith rendrad dash RMI 16mm sydd eisoes wedi'i gynnig, to a llinell do newydd, solar thermol (blaenoriaeth i ddŵr poeth ac, os oes digon o gapasiti, gwresogi gofod gan ddefnyddio'r rheiddiaduron presennol sy'n barod ar gyfer pwmp gwres) a phaneli solar ffotofoltäig/batri i wrthbwyso costau trydan uwch. Hoffem dreialu'r cynllun hwn i weld pa mor effeithlon yw silindrau solar thermol heddiw.

10

222,821

ALl

Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

Gwaith i gynnig system gwresogi ardal i'r trigolion mewn pentref; mae'r pentref o faint hylaw i dreialu cynllun gan fod y tai mewn clwstwr ac yn anodd eu gwresogi gan fod gwaith ffabrig yn her oherwydd y bensaernïaeth Gymreig gynhenid. Mae gan dai yn y pentref hwn sgoriau EPC E/F/G gwael

40

671,000

ALl

Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

Toeau a llinell do newydd, paneli solar ffotofoltäig a batri, ymgodiad EWI lle byddem fel arfer yn gwneud gwaith rendrad dash 16mm ac inswleiddio'r lloriau pren crog (lle bo'n ymarferol) + asesiadau tŷ cyfan a phasbortau. Mae gan yr eiddo hyn synwyryddion IES eisoes sy'n monitro ffiseg yr adeilad fel y mae'n perfformio ar hyn o bryd.

Byddwn yn cynnig cwrs ymwybyddiaeth ynni 'City and Guilds' i drigolion, yn uwchsgilio ein DLOs ac isgontractwyr lleol mewn gosod paneli solar ffotofoltäig a batris.

17

343,796

ALl

Sir y Fflint

Sir y Fflint

Cartrefi Gwyrdd Fforddiadwy, bydd y cynllun yn cyflwyno gwaith ôl-osod ffabrig yn gyntaf cynhwysfawr. Ar ôl sefydlu'r llinell sylfaen bresennol drwy brofion data IES, yn seiliedig ar ddefnydd a pherfformiad presennol, bydd cyfres o fesurau pwrpasol ac arloesol yn cael eu gweithredu a'u monitro yn seiliedig ar deipoleg stoc.

196

2,984,922

LCC

Linc Cymru,

Bron Afon,

Cadwyn, Melin

United Welsh

Y De-ddwyrain

Climate Collective - Mae'r cynllun yn gydweithrediad rhwng Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac 11 o bartneriaid allanol sy'n rhannu dysgu, sgiliau ac adnoddau i sbarduno camau ôl-osod er mwyn optimeiddio ar y cyd ar draws 4 thema gysylltiedig:

  • Buddsoddiad Ôl-osod mewn Cartrefi mewn Cymunedau Allweddol – Gwelliannau i 344 o gartrefi. Mae'r buddsoddiad hwn yn cynnwys arloesi gan ddefnyddio pren a hydrogen.
  • Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi - Galluogi microfusnesau bach a chanolig yn y De i ffynnu o dan ymbarél PAS
  • Swyddi, Hyfforddiant a Sgiliau – Datblygu llwybrau mewn partneriaeth â darparwyr cymwysterau i greu gyrfaoedd ym maes datgarboneiddio
  • Ymgysylltu â Chymunedau a Meithrin Ymddiriedaeth –

Grymuso tenantiaid i arwain sgyrsiau rhwng cymheiriaid drwy rannu profiad byw tenantiaid a hyfforddiant llythrennedd carbon.

344

4,267,220

LCC

Taf

Caerdydd

Rhoi tenantiaid wrth wraidd datgarboneiddio

20

50,000

ALl

Wrecsam

Wrecsam

Bwriad y cynllun yw ôl-osod 2 gynllun tai gwarchod gyda thechnoleg adnewyddadwy i wella effeithlonrwydd ynni'r eiddo. 

43

408,114

ALl

Wrecsam

Wrecsam

Cynllun Peilot Ôl-osod, adnewyddu ac ôl-osod 12 eiddo gwag ar draws y Fwrdeistref. Gwaith i ragori ar y fersiwn bresennol o SATC, bydd pob eiddo yn cael Systemau Ynni Deallus fel y gellir gwerthuso a monitro er mwyn sicrhau bod y manteision a'r effeithiau gorau posibl yn cael eu gwireddu i'w defnyddio mewn rhaglenni gwaith yn y dyfodol.

12

440,100

LCC

Aelwyd

Rhondda Cynon Taf

Gosod paneli solar ffotofoltäig gyda chyfleuster storio batris, Monitro IES ac

uwchraddio ffenestr newydd

8

37,242

LCC

Aelwyd

Rhondda Cynon Taf

Gosod paneli solar ffotofoltäig gyda chyfleuster storio batris, Monitro IES ac

uwchraddio ffenestr newydd

15

77,292

LCC

Bro Myrddin

Sir Gâr 

Mae'r cynllun yn cynnwys 33 eiddo gyda chymysgedd o dai a byngalos yn cael eu gwresogi gan drydan yn bennaf. Mae'r rhan fwyaf o'r eiddo dethol yn cael eu disgrifio fel 'oddi ar y grid' o ran nwy'r prif gyflenwad, ac maent o adeiladwaith traddodiadol. Mae oedrannau'r eiddo yn amrywio o 120 i 30 mlynedd ac maent mewn cyflwr da

33

405,000

LCC

Caredig

Sir Gâr,

Abertawe

Paneli solar ffotofoltäig gyda batri

30

299,550

LCC

Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd

Caerdydd

Mae'r cynllun yn seiliedig ar ddechrau datgarboneiddio 29 o gartrefi yng Nghaerdydd drwy osod Inswleiddiad Waliau Allanol, ffenestri gwydr triphlyg, drysau allanol newydd, toeau newydd, paneli solar ffotofoltäig a storio batris (gan gynnwys IES), uwchraddio trydanol ac inswleiddio atigau.

29

902,500

LCC

Clwyd Alyn

Wrecsam

Gosod IES ym mhob cartref ac ardal gymunedol i gipio data byw ar gartrefi sy'n perfformio'n isel a datrys pontio oer a cholli gwres i ardaloedd cymunedol

59 o fflatiau a 18 o dai

222,150

LCC

Arfordirol

Abertawe, Castell-nedd

Asesiad Carbon Adeiladu. Cynnal asesiad ar gyfer naill ai EWI neu IWI a gwneud gwaith ôl-osod yn unol â PAS2035

16

229,000

LCC

Arfordirol

Abertawe, Castell-nedd

Uwchraddio Paneli Solar Ffotofoltäig a Gwres Trydanol

40

238,000

LCC

Dewis Cyntaf

Ar draws Awdurdodau Lleol Cymru

Cynhyrchu Ynni - Cynhesrwydd Fforddiadwy, atebion gosod paneli solar ffotofoltäig a storio batris i 60 o gartrefi cymdeithasol ledled Cymru. Ar hyn o bryd, maen yn darparu ar gyfer oedolion ag anabledd yn unig. Bydd y cynllun yn targedu amryw o agendâu, gan gynnwys tlodi tanwydd, lles tenantiaid a fforddiadwyedd.

60

414,736

LCC

Hafod

Merthyr Tudful

59 o fflatiau gydag ardaloedd cymunedol mawr. Mae ganddynt gegin gymunedol a fflatiau golchi dillad. Adeiladwyd y cynllun yn 2012. Ystyried y posibilrwydd o osod paneli solar ffotofoltäig a batris yn y cyflenwad cymunedol sy'n darparu ar gyfer y fflatiau a'r ardal gymunedol

59

100,000

LCC

Linc

Casnewydd

Llwybr at fesurau gwella gwres sylfaenol a, lle bo angen, mesurau gwella ffabrig a fydd yn galluogi'r meddiannydd i gynnal gwres o 18 gradd o leiaf, gan arwain at well manteision iechyd a galluogi preswylwyr i fod yn rhydd o dlodi tanwydd. Mae'r prosiect yn cefnogi egwyddorion yr economi sylfaenol drwy bennu cynnyrch o Gymru a

chyfraniad busnesau bach a chanolig lle mae caffael ac uwchsgilio lleol yn cael eu defnyddio

119

540,000

LCC

Merthyr Valleys Homes

Merthyr Tudful

EWI Carbon Isel

80

339,000

LCC

Newydd

Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg

Inswleiddiad atig carbon isel

80

20,000

LCC

Newydd

Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg

Gosod paneli solar ffotofoltäig gyda batri wrth gefn ac IES, gan weithio gyda gwneuthurwr lleol o Gymru i osod paneli solar ffotofoltäig integredig gyda batri wrth gefn ar draws ein stoc sy'n perfformio waethaf

40

454,775

LCC

Tai Gogledd Cymru

Ar draws y Gogledd

Inswleiddio waliau ceudod ('polybead') i 50 eiddo Inswleiddio waliau mewnol i 80 eiddo Insiwleiddio waliau allanol un byngalo cerrig sengl mawr hanesyddol sy'n gartref i amryw o drigolion ag anghenion corfforol a dysgu difrifol ('aerogel'')

131

373,363

ALl

Sir Benfro

Sir Benfro

Gosod paneli solar ffotofoltäig, awyru mecanyddol storio batri gydag adferiad gwres i ddetholiad o eiddo.

50

298,000

ALl

Sir Benfro

Sir Benfro

Astudio a gosod ffenestri gwydr triphlyg cyfansawdd perfformiad uchel (ffrâm bren cladin alwminiwm). Cwmpasu adeiladwaith a charbon a'r effaith ar arbedion Carbon Gweithredol o gymharu â'r gwydr dwbl uPVC safonol a gynigiwyd yn flaenorol mewn ardal o 23 o fflatiau tai gwarchod isel

23

69,500

LCC

Pobl

          Abertawe 

Gosod paneli solar ffotofoltäig ar doeau gyda batris yn y cartrefi, gyda budd ariannol cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle yn cael ei rannu ar draws y gymuned fel nad yw'r rhai sydd â thoeau anaddas ar gyfer gosod paneli solar ffotofoltäig o dan anfantais. Bydd rheolyddion rheoli gwres sy'n cael eu hintegreiddio i systemau'r cartrefi presennol a bydd tŷ BEE (Building Energy Engine) yn cael ei osod fel rhan o'r prosiect hwn

557

808,207

LCC

Pobl

Ar draws y De

Prosiect Ymyriadau Ynni mewn Aelwydydd Bregus (Vulnerable Households Energy Intervention Project) - Gan weithio mewn partneriaeth â Cymru Gynnes, bydd Pobl yn darparu cyfres o ymyriadau cyfannol, gan gynnwys inswleiddiad atig ychwanegol hyd at 300mm, goleuadau LED a darparu gwybodaeth, cyngor, cyfeiriad a chymorth arbed ynni wedi'u teilwra ar gyfer pob cartref er mwyn sicrhau'r incwm/gwydnwch ariannol gorau posibl, gwell effeithlonrwydd ynni cartref, costau tanwydd is, llai o allyriadau carbon a gwell iechyd a lles

250

87,500

LCC

Pobl

Casnewydd

Cynllun peilot i archwilio ffyrdd y gellir ôl-osod cartrefi yng Nghasnewydd gyda mesurau gwella gwresogi a, lle bo angen, mesurau gwella ffabrig a fydd yn galluogi'r meddiannydd i gynnal gwres o 18 gradd o leiaf, gan arwain at well manteision iechyd a galluogi preswylwyr i fod yn rhydd o dlodi tanwydd. Mae'r prosiect yn cefnogi egwyddorion yr economi sylfaenol drwy bennu cynhyrchion o Gymru a chynnwys busnesau bach a chanolig lle mae caffael ac uwchsgilio lleol yn cael eu defnyddio. Bydd y canlyniad yn helpu i lywio taith addysgol pob parti ar sut y gall defnyddio modelau gwres yn gywir sicrhau gwres effeithlon ac effeithiol yn y cartref

150

450,000

LCC

Pobl

Sir Gâr

Blociau fflatiau 2 a 3 llawr o'r 1970au. Dull ffabrig yn gyntaf, gosod EWI a tho cynnes. Gosod pympiau gwres ffynhonnell aer yn lle'r 12 cyfleuster gwres stôr trydan Economi 7 sy'n weddill. Systemau gwresogi newydd i'w cymharu â chartrefi sy'n cael eu gwresogi gan nwy i werthuso a yw pympiau gwres ffynhonnell aer yn darparu gwres fforddiadwy. Bydd gwres nwy presennol yn cael ei ddisodli ar ddiwedd ei oes economaidd (tua 10 mlynedd) gan ddewis carbon isel arall, ac felly ar ôl creu a defnyddio pasbortau eiddo. Bydd gan do gwastad y blociau baneli solar ffotofoltäig a system storio batri i gynhyrchu trydan ar gyfer ardaloedd cymunedol. Pwyntiau gwefru ceir trydan cymunedol i gael eu gosod.

32

4,939,699

LCC

RHA

Rhondda Cynon Taf

Gosod paneli solar ffotofoltäig 3.3kw a 5.2kw. Mae pob un ohonynt yn dai 3 ystafell wely gyda tho sy'n wynebu'r de-ddwyrain. Paneli solar ffotofoltäig wedi'u gweithgynhyrchu yng Nghymru

14

124,839

LCC

Taf 

Caerdydd

Gosod paneli solar gyda batri wrth gefn

10

100,000

LCC

Taf

Caerdydd

Ymchwilio drwy'r system IES i sicrhau addasrwydd yr eiddo ar gyfer naill ai EWI neu IWI

4

25,000

LCC

Tai Calon

Blaenau Gwent

Defnyddio tanwydd nad yw'n danwydd ffosil EWI

92

1,462,762

LCC

Tai Tarian

Castell-nedd Port Talbot

Inswleiddiad ffabrig ac awyru - Ymgymryd â gwaith gwella ffabrig gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau a systemau i bennu'r dewis gorau o ddeunydd carbon isel a gwella perfformiad thermol pob eiddo

150

1,070,000

LCC

Tai Tarian

Castell-nedd Port Talbot

Ymgymryd â gwaith ôl-osod braenaru i eiddo gwag i gynnwys darparu EWI + IWI, inswleiddiad llawr, gwres newydd, gosod paneli solar ffotofoltäig a batri, ynghyd â strategaeth awyru i ategu'r gwaith gwella.

45

1,030,000

LCC

Tai Tarian

Castell-nedd Port Talbot

Rhaglen Optimeiddio Ynni Tenantiaid a gwaith ymchwil a datblygu ar sganio laser a ffeibr coed ymchwil

 

  288,485

LCC

United Welsh

Caerdydd

Mae'r cynllun yn cynnwys tri bloc o fflatiau un llawr o ddechrau'r 1980au. Yn arbennig o agored i leithder a llwydni cyddwyso a adlewyrchir yn y galw uchel am atgyweiriadau ar gyfer y problemau hyn. Y nod yw darparu cynhesrwydd fforddiadwy a, thrwy hynny, wella ansawdd yr amgylchedd mewnol ym mhob annedd, gosod systemau MVHR a phaneli solar ffotofoltäig. Mae natur gywasgedig y safle yn addas ar gyfer cynhyrchu ynni "cymdeithasol" ac rydym am archwilio hyn ac, yn benodol, rydym am brofi sut y gellir darparu paneli solar ffotofoltäig yn llwyddiannus ar flociau o fflatiau.

25

198,165

LCC

United Welsh

Caerffili

Mae'r cynllun yn cynnwys cymuned gymharol gywasgedig o fythynnod teras hen lowyr sy’n dyddio i gyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, gydag adeiladwaith o waliau solet. Yn arbennig o agored i leithder a llwydni cyddwyso a adlewyrchir yn y galw uchel am atgyweiriadau am y problemau hyn. Y nod yw gwella'r amgylchedd mewnol ym mhob annedd drwy wneud gwres yn fwy fforddiadwy drwy wella ffabrig allanol a chynhyrchu ynni. Mae natur gywasgedig y safle yn addas ar gyfer cynhyrchu ynni "cymdeithasol" ac rydym am archwilio hyn.

64

970,983

LCC

Cymoedd i’r Arfordir

Pen-y-bont ar Ogwr

Mae 3 elfen i'r cynllun hwn;

1. Batri 25KwH i 5 cynllun tai gwarchod, sy'n deillio o baneli solar ffotofoltäig, uwchraddio goleuadau ynni isel. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd ynni'r cynllun, gydag effaith gadarnhaol ar gostau ynni

128 o aelwydydd.

2. Batri 12KwH i 15 cartref sydd eisoes â phaneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres ffynhonnell aer

ar waith, gyda gwelliannau i storio dŵr poeth, gan leihau'r defnydd o ynni a chostau. 3. Batri 9KwH i 20 cartref sydd eisoes â phaneli solar ffotofoltäig, gan leihau'r defnydd o ynni a chostau

163

489,300

LCC

Cymoedd i’r Arfordir

Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd y cynllun yn darparu gwaith uwchraddio ffabrig sylweddol ar yr amser mwyaf buddiol – pan fydd eiddo'n wag ac angen pob math o waith adnewyddu ac atgyweirio. Bydd y dull hwn yn;

  • Dilyn y dull Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, gan wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pan fo'n fwyaf priodol – nodi mesurau a'u gosod heb amharu ar ddeiliaid tai,
  • Bydd mesurau'n cael eu harwain gan Arolygon Braenaru a byddant yn canolbwyntio ar leihau llwythi ynni eiddo, • Bydd meddianwyr newydd yn ymgysylltu'n helaeth â nhw cyn iddynt ddechrau tenantiaeth ac ar ôl iddynt symud i'w cartref, gan gynyddu effaith y mesurau effeithlonrwydd ynni sydd ar waith.

30

441,000

LCC

Cymru a Gorllewin Lloegr

Ceredigion

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys 23 eiddo sy'n dibynnu ar danwydd solet ar hyn o bryd i ddarparu gwres a dŵr poeth. Mae dyddiadau adeiladu'r eiddo yn amrywio rhwng cyn 1900 ac ar ôl 1990. Ein cynnig yw gosod system pwmp gwres ffynhonnell aer carbon isel yn lle'r offer tanwydd solet. Yn ogystal, bydd gan y cynlluniau systemau paneli solar ffotofoltäig a batri wedi'u gosod i leihau'r defnydd o ynni ymhellach a byddant yn helpu i leihau biliau ynni i'r trigolion.

23

374,200

LCC

Cymru a Gorllewin Lloegr

Caerdydd / Ceredigion

Mae'r prosiect mewn dwy ran

  1. Mae'r cynnig yn cynnwys dau gynllun o 24, bloc o fflatiau a chynllun o dai. Y cynnig yw darparu system paneli solar ffotofoltäig 2.2kW i bob fflat unigol er mwyn sicrhau cyfran deg o gynhyrchu solar er budd pob preswylydd.
  2. Mae'r ail gynllun ar hyn o bryd yn y cais ORP 2.1 ar gyfer treialu systemau hybrid, cyfuniad o bympiau gwres ffynhonnell aer gyda'r system olew bresennol. Bydd paneli solar ffotofoltäig a storio batri yn cael eu gosod i gefnogi'r preswylwyr ymhellach gyda chostau trydan ychwanegol a allai godi yn sgil y  systemau hybrid.

48

103,600

LCC

Cymru a Gorllewin Lloegr

Sir Gâr

Mae'r prosiect mewn dwy ran

  1. Mae eiddo wedi dechrau ar eu taith datgarboneiddio drwy uwchraddio systemau gwres i system rhannu dolen pwmp gwres o'r ddaear. Bydd EWI, ffenestri a phaneli solar ffotofoltäig/storio batri yn parhau â'r daith hon ac yn lleihau'r defnydd o ynni a chostau rhedeg yn sylweddol.
  2. Mae'r cynllun yn cynnwys 30 o fflatiau sydd mewn lleoliad agored ac arfordirol. Bwriedir uwchraddio'r ffabrig drwy newid y ffenestri a gosod Inswleiddiad Waliau Allanol. Mae'r mesurau hyn yn lleihau'r defnydd o ynni a chostau ac yn gwella cysur y preswylwyr.

25

472,706