Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i blant ddychwelyd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pob disgybl mewn ysgolion cynradd a gynhelir ledled Cymru bellach yn gallu cael pryd ysgol am ddim, o'r wythnos hon ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bellach, mae cyflwyno'r rhaglen fesul cam wedi’i gyflawni ledled Cymru, sy'n golygu bod pob plentyn hyd at Flwyddyn 6 a chan gynnwys Blwyddyn 6, yn gallu cael pryd ysgol am ddim bob diwrnod ysgol erbyn hyn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi pennu’r ymrwymiad hwn yn 2021, fel rhan o'i hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant. Ers ei lansio, mae bron i 30 miliwn o brydau bwyd wedi'u darparu, ac mae'r rhaglen newydd hon yn rhoi hawl i 176,000 yn fwy o ddysgwyr i bryd ysgol am ddim.

Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd, hyrwyddo bwyta'n iach, ac mae ganddynt y potensial i wella sgiliau cymdeithasol yn ystod amser bwyd, gan gynnwys helpu i wella ymddygiad a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae’r awdurdodau lleol hefyd wedi'u cefnogi a'u hannog i ddod o hyd i fwyd yn lleol, lle bo hynny'n bosibl.

Mae gwaith ar y gweill i adolygu Rheoliadau sy'n nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys diffinio cynnwys maethol prydau ysgol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: 

Mae pryd ysgol iach yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo'n llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol. Ac mae hynny’n eu helpu i ganolbwyntio, o fudd i’w lles, ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial llawn. Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn cynnig cymorth sy’n cael ei groesawu’n fawr gan deuluoedd ac yn helpu i drechu tlodi plant.

Mae hwn yn achlysur hollbwysig i blant yma yng Nghymru. Rwy'n hynod falch mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: 

Rydyn ni’n sicrhau na fydd unrhyw blentyn ysgol gynradd yn teimlo’n llwglyd yn yr ysgol, ac rwy'n ddiolchgar i'n hawdurdodau lleol a'n hysgolion am helpu i wireddu hyn.

Rwy wedi gweld y gwahaniaeth y mae'r cynnig hwn eisoes wedi'i wneud i blant a theuluoedd yn uniongyrchol. Mae hwn yn sicr yn gam pwysig yr ydyn ni wedi'i gymryd i fynd i'r afael â thlodi plant, a byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod gennym ni’r cynnig bwyd ysgol gorau yn y DU.