Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y rhaglen yn helpu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir a'r cyd-destun

Yn 2019, gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Roeddem am sbarduno mwy o ffocws a mwy o weithredu i gwrdd â'r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd.

Mae 2 ymateb i'r argyfwng hinsawdd:

  • camau lliniaru: cynyddu dalfeydd a lleihau ffynonellau nwyon tŷ gwydr
  • camau addasu: y broses o addasu i’r hinsawdd wirioneddol neu’r hinsawdd ddisgwyliedig a’i heffeithiau

Mae gan Gymru darged sy'n rhwymol yn gyfreithlon i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050. Mae cynlluniau ar waith i ysgogi'r camau sydd eu hangen i leihau allyriadau carbon yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol:

Yn ogystal â lleihau allyriadau, mae angen i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol gymryd camau addasu i ymateb i iechyd y boblogaeth ac effeithiau newid hinsawdd ar ddarparu gwasanaethau iechyd.

Mae'r strategaeth addasu i’r hinsawdd yn ymdrin â'r dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r risg o ran yr hinsawdd. Mae hefyd yn rhoi sylw i ganfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar hynt y gwaith o addasu i’r hinsawdd yng Nghymru ac yn nodi sut  mae'r rhain yn llywio ein gwaith.

Y rhaglen genedlaethol

Fe wnaethom sefydlu'r rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo'r argyfwng hinsawdd yn ystod hydref 2021. Nod y rhaglen yw darparu goruchwyliaeth strategol ar gyfer ymateb y sector iechyd a gofal cymdeithasol i'r argyfwng hinsawdd. 

O fewn y rhaglen mae 5 bwrdd prosiect cenedlaethol:

  • trafnidiaeth a chaffael 
  • adeiladau, ystadau a chynllunio tir 
  • ymagwedd at ofal iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • cynlluniau addasu

Mae gan y rhaglen £2.4 miliwn o gyllid refeniw dros 3 blynedd i: 

  • gefnogi prosiectau ar draws y sector sy'n cyfrannu at leihau allyriadau
  • helpu'r sector i addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd

Adrodd ar allyriadau a chynlluniau datgarboneiddio

Amcangyfrifwyd bod ôl troed carbon GIG Cymru yn 2018/2019 yn 1,001,378 tCO2e. Mae hyn oddeutu 2.6% o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru.

Mae sefydliadau GIG Cymru yn adrodd am allyriadau bob blwyddyn i'r canllaw adrodd sero net.

Mae data ac argymhellion sero-net y sector cyhoeddus yn darparu'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer allyriadau carbon.

Mae gan bob un o gyrff y GIG gynlluniau gweithredu ar gyfer datgarboneiddio, sy'n nodi:

Cynlluniau addasu a chamau gweithredu

Mae ein cynlluniau addasu neu gadernid a'n camau gweithredu yn canolbwyntio ar ddeall, rhag-weld ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y boblogaeth ac ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae asesiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o effeithiau newid hinsawdd ar iechyd yng Nghymru yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd ar iechyd poblogaeth Cymru. Ei nod yw llywio a gwella cynlluniau addasu ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector cyhoeddus ehangach.

Er mwyn helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni cynlluniau addasu yn ymarferol, mae pecyn cymorth addasu i'r hinsawdd wedi'i lunio.

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio ar lefel timau, lefel gwasanaethau neu lefel sefydliadau unigol. O ddefnyddio'r pecyn cymorth, byddwch yn deall termau a chysyniadau allweddol a sut i gael gafael ar yr wybodaeth er mwyn ystyried sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar eich sefydliad a'ch gwasanaethau.

Mae'r pecyn cymorth yn cael ei ategu gan adnodd risg a chyfleoedd iechyd a gofal cymdeithasol. I gael copi ohono, anfonwch e-bost i IGC.ArgyfwngHinsawdd@llyw.cymru.

Gwybodaeth ychwanegol

I ddarganfod mwy am y rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo'r argyfwng hinsawdd:

Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd

Mae llawer o waith ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i frwydro yn erbyn effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Ewch i Gweithredu ar Hinsawdd Cymru i weld sut y gallwch chi gymryd rhan.