Dyma rhaglen strategol o fuddsoddi mewn tystiolaeth ar gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni tai yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Elfennau hanfodol o’r Rhaglen yw:
- Diweddaru amcangyfrifon tlodi tanwydd Cymru.
- Darparu darlun cenedlaethol o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
- Helpu i wella’r maes Tai yn niweddariad 2019 o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
- Darparu data ar gyfer llawer o anghenion eraill polisi tai, a pholisïau amgylcheddol a chymdeithasol.
Bydd data’r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn sail i ddau o ddangosyddion cenedlaethol Llesiant Cymru. Yn benodol, anheddau sydd heb beryglon ac anheddau gyda pherfformiad ynni digonol. Felly byddant yn cyfrannu tuag at y gwaith ehangach o fonitro ein cynnydd fel gwlad wrth gyflawni’r Nodau Llesiant.
Mae cysylltiad agos rhwng y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai a’r Rhaglen Datgarboneiddio Cartrefi, ac mae wedi’i chydnabod fel un o’r prif ffynonellau data ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru.
Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn edrych ar yr ymrwymiadau a wnaethpwyd yn Rhaglen Lywodraethu’r Weinyddiaeth hon, Symud Cymru Ymlaen. Mae’n eu rhoi mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut eu cyflawnir drwy ddod ag ymdrechion yn sector cyhoeddus Cymru draw at ei gilydd. Un o bum maes blaenoriaeth trawsbynciol Ffyniant i Bawb yw Tai, sy’n cydnabod yr effaith y gall tai ei gael ar bob agwedd ar fywyd.
Mae’r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn cynnwys dwy ffrwd waith:
- Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 (ACTC): Arolwg cenedlaethol yn darparu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd/perfformiad ynni pob math o dŷ a deiliadaeth yng Nghymru, ar wahân i eiddo gwag.
- Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai i Gymru (ADST): ‘Cronfa sylfaen anheddau’ sy’n cynnwys data amrywiol am nodweddion, adeiladwaith, cyflwr ac effeithlonrwydd ynni’r stoc dai yng Nghymru. Fe fydd ar lefel eiddo unigol lle bo modd.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/y-rhaglen-dystiolaeth-ar-gyflwr-tai-diweddariad-rhanddeiliad-medi-2019-thumb_jpg.jpg?itok=WvxKUWEE)
Diweddariad rhanddeiliad, Medi 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 681 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/y-rhaglen-dystiolaeth-ar-gyflwr-tai-diweddariad-rhanddeiliad-ionawr-2019-thumb_jpg.jpg?itok=o69VQamO)
Diweddariad rhanddeiliad, Ionawr 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 241 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.