Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru o dan Lywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'r busnesau mwyaf uchelgeisiol, i ddatblygu'n sylweddol ac mae eisoes wedi creu mwy na 1000 o swyddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hyd yn hyn mae'r rhaglen, sy'n cynnig pecyn cymorth pwrpasol i helpu busnesau i ddatblygu'n gyflymach, yn gryfach a hynny am gyfnod hirach, wedi creu 1,200 o swyddi. Mae hefyd wedi helpu cwmnïau sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen i ddenu £21.4 miliwn o fuddsoddiad o'r sector preifat a chynhyrchu gwerth £8.3 miliwn o allforion.

Am bob £1 sy’n cael ei gwario, mae’n golygu y bydd y rhaglen yn sbarduno £5 arall o fuddsoddiad o'r sector preifat – a £2 ychwanegol o allforion i economi Cymru.

Diolch i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, lansiwyd y rhaglen ddwy flynedd yn ôl ac yn barod mae'n helpu 370 o gwmnïau, gan gynnwys rhai sy'n cychwyn arni ac sy'n gweithio mewn amrywiaeth eang o sectorau ledled Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Busnesau Bach a Chanolig a busnesau sy'n cychwyn arni sy'n cadw economi Cymru yn fyw. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio'n arbennig i helpu'r busnesau hyn i oresgyn unrhyw gyfyngiadau strategol a allai atal twf.

"Mae'r dull hwn yn gweithio – mae'r busnesau hyn yn gwireddu canlyniadau, yn creu swyddi, yn cynyddu trosiant ac allforion sydd yn eu tro yn sicrhau budd i gymunedau lleol ar draws y wlad. Rwy'n falch o ddweud bod sawl un ohonynt eisoes wedi creu mwy na 50 o swyddi yr un ac mae rhai wedi denu dros £1 miliwn o fuddsoddiad preifat.

Mae Laser Wire Solutions, sydd wedi'i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, yn enghraifft o fusnes o'r fath. Ers iddo ymuno â'r rhaglen yn 2015, mae wedi sicrhau mwy na £1 miliwn o gynnydd yn ei allforion ac mae'n gobeithio dyblu'r cynnydd hwn yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae'r cwmni yn gweithgynhyrchu offer laser sy'n plicio gwifrau tenau iawn a ddefnyddir mewn diwydiannau megis gweithgynhyrchu dyfeisiau meddygol, data cyflym iawn ac awyrofod. Mae trosiant y busnes wedi treblu yn y tair blynedd ddiwethaf ac mae'n cyflogi dros 20 o beirianwyr medrus iawn.

Dywedodd Paul Taylor, y Prif Weithredwr: 

"Ymunom ni â'r rhaglen i'n helpu i oresgyn yr heriau a oedd yn deillio o ddatblygu'r busnes yn gyflym a chyflawni ein gwir botensial. Ystyriwn ein hunain yn fusnes byd-eang ac mae'r cymorth a gawsom wedi ein helpu i ganolbwyntio ar ddatblygu cwmni rhyngwladol. Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn adnodd gwych oherwydd ei hyblygrwydd a'r ffordd y mae’n ymateb i'n hanghenion wrth inni ddatblygu."

Mae'r cwmni wedi elwa ar: ymgynghoriaeth un i un arbenigol i nodi cleientiaid gwerthfawr drwy ymchwilio i'r farchnad; cyngor Adnoddau Dynol ar sut i reoli pobl mewn busnes sy'n datblygu, a chyngor TGCh i sicrhau bod ganddo systemau cadarn yn eu lle sy'n hanfodol ar gyfer rheoli gwasanaethau cefn swyddfa a chadw gwybodaeth.