Y protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon: Y goblygiadau i fasnach allanol Cymru
Mae’r nodyn hwn yn nodi materion a allai ymyrryd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag economi Cymru o ganlyniad i fabwysiadu’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn rhan o’r Cytundeb Ymadael a’r Bil dilynol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Materion rhagarweiniol
Rydym yn credu mai’r canlynol yw prif oblygiadau’r Protocol i Gymru:
- Mae cynhyrchwyr ym Mhrydain Fawr (gan gynnwys cynhyrchwyr Cymru) yn debygol o golli cyfran o’r farchnad yng Ngogledd Iwerddon gan y bydd nwyddau a anfonir o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn wynebu archwiliadau tollau newydd, tollau tramor o bosibl, ac archwiliadau rheoleiddio/gweinyddol eraill, tra bydd masnach Gogledd Iwerddon gyda’r UE (yn enwedig gyda Gweriniaeth Iwerddon) yn parhau’n ddidrafferth.
- Os bydd Prydain Fawr yn llacio ei rheoliadau o’u cymharu â rheoliadau’r UE, gallai cynhyrchwyr Gogledd Iwerddon weithredu o dan gostau uwch na chwmnïau Prydain Fawr, gan y byddai angen i gynhyrchwyr Gogledd Iwerddon gynhyrchu’n unol â safonau’r UE o hyd. Gallai cwmnïau Gogledd Iwerddon gael trafferth yn cystadlu ym marchnad Prydain Fawr felly.
- Y mwyaf helaeth yw’r rhwystrau masnach rhwng y DU a’r UE (yn enwedig Gweriniaeth Iwerddon), ac y lleiaf helaeth yw’r archwiliadau ffin rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, y mwyaf fydd y cymhelliad i arallgyfeirio masnach o lwybrau Gweriniaeth Iwerddon–Prydain Fawr i lwybrau Gogledd Iwerddon–Prydain Fawr. Mae’n debygol y bydd hyn yn effeithio ar lefel y nwyddau sy’n cael eu cludo trwy Gymru i Iwerddon. Gallai’r effaith gael ei theimlo yn arbennig o ran llwythi sydd ar eu ffordd i Ogledd Iwerddon ond a anfonir o Gymru trwy Weriniaeth Iwerddon ar hyn o bryd.
- Nid oes amheuaeth y bydd trin pa bynnag archwiliadau newydd sy’n ofynnol ar fasnach gyda’r UE yn gofyn am fwy o seilwaith ffin ym mhorthladdoedd Cymru fel Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun. Bydd oediadau oherwydd archwiliadau ffin yn peri problemau arbennig o ran cynhyrchion bwyd darfodus, sy’n gyfran gymharol fawr o nwyddau sy’n cael eu morgludo rhwng Caergybi a Dulyn.
Mae’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn diffinio’r trefniadau masnachu rhwng Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, gweddill yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gweddill y byd ar ôl y cyfnod pontio. Yr amcan, yn unol â Chytuniad Belfast (neu Gytundeb Dydd Gwener y Groglith), yw sicrhau nad oes ffin neu faterion ffurfiol ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Er bod hynny’n syml tra bod y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn aelodau o Farchnad Sengl ac Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd, ar ôl i’r DU adael y trefniadau hyn mae’n gyfystyr â dod o hyd i ffordd o gynnal masnach cwbl ddirwystr rhwng dwy diriogaeth â gwahanol gyfreithiau tollau a rheoliadau nwyddau. Mae gadael y Farchnad Sengl hefyd yn codi cwestiynau difrifol am y fasnach mewn gwasanaethau rhwng y DU a’r UE, ond nid yw’r rhain yn faterion ffin ac felly nid yw’r Protocol yn ymdrin â nhw.
Mae’n ymddangos mai sail y trefniadau yn y Protocol yw y bydd rheoliadau’r DU ar gyfer nwyddau yn llai dyrys na rhai’r UE, ac y bydd y DU yn cadw tollau tramor (cyfraddau tariff) yn ddim uwch na rhai’r UE ar gyfer pob un nwydd. Yn ymarferol, mae’r cyntaf yn golygu tybio y bydd unrhyw nwydd sy’n dderbyniol yn yr UE (ac felly Gweriniaeth Iwerddon) yn dderbyniol yn y DU, ond nid fel arall. Mae’r olaf yn awgrymu na fydd unrhyw fewnforyn o’r tu allan i’r UE a’r DU yn gyfunol yn cael ei drethu mwy gan y DU na’r UE, fel na fydd unrhyw gymhelliad i nwyddau ddod i’r DU drwy’r UE. Bydd pa un a fydd angen codi trethi (tariffau) ar fasnach UE–DU yn dibynnu ar y trefniadau masnach terfynol a gytunir, er mai’r bwriad a nodwyd yn y Datganiad Gwleidyddol y na ddylid cael rhai.
Mae’r anghymesureddau sydd newydd gael eu disgrifio yn golygu er nad yw llywodraeth y DU yn gweld unrhyw angen i rwystro’r llif o nwyddau o’r UE i’r DU, nid yw’r gwrthwyneb yn wir. Bydd cynnal uniondeb Marchnad Sengl ac Undeb Tollau Ewrop yn gofyn am strwythurau i reoli’r llif o’r DU i’r UE, a dyma brif gynnwys yr agweddau masnach ar y Protocol.
Fel y byddwn yn trafod isod, mae’r sail yn siŵr o gael ei thorri rhyw fymryn a gallai gael ei thorri’n sylweddol. Mae rheoliadau yn esblygu dros amser ac, wrth iddynt ymwahanu, mae’n debygol y bydd y DU a’r UE mewn gwahanol sefyllfaoedd, yn dibynnu, ymhlith pethau eraill, ar safbwyntiau’r llywodraeth a’r Undeb ar y pryd. Mae beth yn union y mae hyn yn ei awgrymu i’r strwythurau a gynigir yn y Protocol yn aneglur, ond mae’n ymddangos na ellir osgoi cyflwyno rhwystrau ychwanegol i fasnach sy’n llifo o’r UE i’r DU. Pe na bai’r llywodraeth yn barod i ystyried rhwystrau o’r fath, mae’r sail yn gorfodi cyfyngiad sylweddol ar ddisgresiwn polisi’r DU yn y pen draw, gan ei bod yn awgrymu y bydd y DU ddim ond yn gallu llacio yn hytrach na thynhau unrhyw reoliad UE, sefyllfa y gallai deimlo’n rhwydd byw â hi ar hyn o bryd ond llai felly yn y dyfodol efallai.
Mae ail sylw rhagarweiniol yn bwysig hefyd: fel y byddwn yn trafod mewn adran ddilynol, mae’r Protocol yn amwys neu’n aneglur o un safbwynt pwysig o leiaf, ac mae angen i’r Cydbwyllgor DU–UE a fydd yn sail i’w weithrediad gytuno ar lawer o’i fanylion o hyd. Felly ni all y nodyn hwn fod yn gwbl bendant.
Mae’r nodyn yn parhau trwy ystyried materion tollau, yna rhai rheoleiddio ac, yn olaf, effeithiau posibl y Protocol ar lifoedd masnach ac, yn oblygedig, gweithgarwch economaidd.
Materion tollau a ffin ffurfiol
Prif amcan y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yw sicrhau nad oes angen unrhyw archwiliadau ffin o unrhyw fath ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. I osgoi archwiliadau tollau, mae’r DU a’r UE wedi cytuno y bydd unrhyw nwydd sy’n cael ei fewnforio i Ogledd Iwerddon (gan gynnwys o Brydain Fawr) sydd ‘mewn perygl’ o gael ei symud ymlaen wedyn i Weriniaeth Iwerddon (neu weddill yr UE) yn destun cyfraddau tariff yr UE, ond wedi eu codi gan awdurdodau’r DU.
Bydd y diffiniad o ‘mewn perygl’ yn cael ei sefydlu gan Gyd-bwyllgor cyn diwedd y cyfnod pontio, ond mae Erthygl 5(2) y Protocol yn cyflwyno’r meini prawf canlynol:
-
Ystyrir bod nwyddau sy’n destun prosesu masnachol yng Ngogledd Iwerddon mewn perygl oni bai fod y Cyd-bwyllgor yn dyfarnu’n wahanol ar sail sy’n gysylltiedig â ‘natur, graddfa a chanlyniad y prosesu’ (h.y. ddim ar natur y nwydd fel y cyfryw)
-
Mae nwyddau eraill yn ddarostyngedig i benderfyniad y Cyd-bwyllgor ar feini prawf yn ymwneud â ‘natur a gwerth y nwydd, natur y symudiad a’r cymhelliad ar gyfer symudiad ymlaen heb ei ddatgan’, gan gynnwys y gwahaniaeth tariff rhwng cyfraddau’r DU a’r UE a pha mor rhwydd yw cludiant.
Bydd cyfran mewnforion Gogledd Iwerddon sy’n wynebu tariffau a benderfynir gan yr UE yn dibynnu’n hollbwysig ar y penderfyniadau a wneir gan y Cyd-bwyllgor. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, mae dadansoddiad blaenorol gan Arsyllfa Polisi Masnach y DU yn amcangyfrif y gallai tua 75% o fewnforion Gogledd Iwerddon (gan gynnwys nwyddau a brynir o Brydain Fawr) wynebu tariffau a benderfynir gan yr UE (dadansoddiad llawn).
Er gwaethaf hyn, mae Erthygl 4 y Protocol yn datgan bod:
Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth tollau’r Deyrnas Unedig.
Ceir y cwestiwn, felly, a ddylid ystyried, mewn ffaith, fod Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth tollau’r DU neu’r UE, neu’r ddau efallai. Mae’r cwestiwn hwn yn destun anghydfod ar hyn o bryd, ac mae achos cyfreithiol yn yr arfaeth yn Llys y Sesiwn yn yr Alban (mwy o fanylion).
Mae’r anghydfod yn deillio o Erthygl 55(2) Deddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018, sy’n nodi:
“For the purposes of this section “customs territory” shall have the same meaning as in the General Agreement on Tariffs and Trade 1947 as amended.”
Diffinnir tiriogaeth tollau gan Erthygl XXIV(2) y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT) fel:
“For the purposes of this Agreement a customs territory shall be understood to mean any territory with respect to which separate tariffs or other regulations of commerce are maintained for a substantial part of the trade of such territory with other territories.”
Mae canlyniad yr achos cyfreithiol yn anhysbys ar adeg drafftio’r ddogfen hon, ac mae’n debygol y bydd yn dibynnu ar y dehongliad o ‘substantial part of trade’ yn Erthygl XXIV(2). Mae’r diffiniad o ‘substantial part’ yn fwriadol wahanol i Erthygl XXIV(8), sy’n ei gwneud yn ofynnol i ardaloedd masnach rydd gynnwys yr holl fasnach o ran sylwedd (‘substantially all’) (Troednodyn 1). Fodd bynnag, nid oes unrhyw eglurhad pellach na chyfraith achosion yn bodoli i daflu rhagor o oleuni ar y diffiniad o ‘substantial part’.
Os dyfernir nad yw’r trefniant tollau o dan y Protocol yn bodloni’r diffiniad o ‘substantial part of trade’, mae’n ymddangos bod tri chanlyniad posibl:
- Yn gyntaf, gellid ystyried bod Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth tollau’r UE.
- Yn ail, gellid ystyried ei bod yn gweithredu o dan ddwy diriogaeth tollau ar yr un pryd (tiriogaethau’r UE a’r DU), er nad ydym yn gwybod am unrhyw gynsail i hyn (Troednodyn 2).
- Yn drydydd, gallai Gogledd Iwerddon gael ei datgan yn diriogaeth tollau ar wahân ei hun, o fewn y Deyrnas Unedig.
Ceir sawl cynsail i wahanol diriogaethau tollau sy’n dod o dan sofraniaeth gyffredin (yn ymwneud â’r berthynas â threfedigaethau yn hanesyddol). Fodd bynnag, byddai’n achosi cymhlethdodau penodol yn yr achos hwn, fel gorfod negodi cytundebau masnach ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon, gan gynnwys yn y rheolau tarddiad y maent yn eu defnyddio, ac ysgrifennu cytundeb masnach rhwng tiriogaethau tollau Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr a oedd yn osgoi pob posibilrwydd y byddai’n rhaid ymestyn eu cydgytundebau masnachu i eraill drwy’r cymal gwlad a ffefrir fwyaf.
Beth bynnag fo statws cyfreithiol tiriogaeth tollau Gogledd Iwerddon, yn ymarferol, bydd dwy gwahanol drefn tariffau yn gweithredu yng Ngogledd Iwerddon: trefn dariffau’r DU ar gyfer nwyddau yr ystyrir nad ydynt ‘mewn perygl’, a threfn dariffau’r UE ar yr holl nwyddau yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’. Mae’n anochel fod cael dwy drefn tariffau yn dod â chymhlethdodau, yn gysylltiedig â’r anhawster o nodi’r drefn dariffau gywir ar gyfer nwydd, y prosesau sydd eu hangen i weinyddu’r cynllun ad-daliad arfaethedig, a’r angen am archwiliadau tollau ar y ffin rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Archwiliadau tollau sydd eu hangen ar nwyddau a anfonir o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
Bydd tariff yr UE yn berthnasol i unrhyw nwyddau a anfonir o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yr ystyrir eu bod mewn perygl o gael eu trosglwyddo wedi hynny i Weriniaeth Iwerddon neu weddill yr UE. Yn absenoldeb Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a’r UE, byddai tariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf yr UE yn cael eu codi ar nwyddau Prydeinig sydd ‘mewn perygl’ a anfonir i Ogledd Iwerddon. Byddai hyn yn gofyn am archwiliadau tollau ar ffin Prydain Fawr–Gogledd Iwerddon (neu leoliad amgen) i sicrhau bod allforwyr Prydain Fawr wedi talu’r tariffau hyn cyn i’r nwyddau fynd i mewn i Ogledd Iwerddon.
Os bydd y DU a’r UE yn dod i Gytundeb Masnach Rydd, a chan dybio ei fod yn cynnwys pob nwydd, byddai hyn yn cael gwared ar yr angen am dariffau ar allforion Prydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Fodd bynnag, ni fyddai’n cael gwared yn llwyr ar yr angen am archwiliadau tollau. Mewn Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a’r UE, dim ond nwyddau sy’n tarddu o’r DU fyddai’n gymwys ar gyfer mynediad di-doll i’r UE. Byddai’r Cytundeb Masnach Rydd yn nodi’n benodol ofynion tarddiad y byddai’n rhaid i nwyddau o Brydain Fawr eu bodloni er mwyn iddynt gael eu hystyried wedi eu cynhyrchu yn y DU a chael triniaeth ffafriol. Felly, hyd yn oed o dan Gytundeb Masnach Rydd, byddai angen bygythiad o leiaf o archwiliadau tollau ar ffin Prydain Fawr–Gogledd Iwerddon i sicrhau cydymffurfiad â’r rheolau tarddiad.
A fydd angen materion ffurfiol ar y ffin ar gyfer nwyddau a anfonir o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr?
Mae’n anodd rhagweld pa lefel o faterion ffurfiol ar y ffin (os o gwbl) a fydd o ran nwyddau sy’n cael eu morgludo o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr. Mae Erthygl 6(1) y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn nodi:
“Nothing in this Protocol shall prevent the United Kingdom from ensuring unfettered market access for goods moving from Northern Ireland to other parts of the United Kingdom's internal market.(…)”
Cadarnhawyd hyn sawl gwaith mewn datganiadau gan y llywodraeth wrth i Mr Johnson ddweud bod:
“Hwn yn fater i lywodraeth y DU ac y bydd yn gwneud yn siŵr na fydd busnesau yn wynebu unrhyw gostau ychwanegol nac unrhyw archwiliadau ar gyfer pethau sy’n cael eu hallforio o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr." (Newyddion y BBC News, 15 Tachwedd 2019)
Ar yr un pryd, mae Erthygl 5(4) yn cadarnhau y bydd Cod Tollau’r Undeb yn berthnasol i Ogledd Iwerddon. Mae Erthygl 271 Cod Tollau’r Undeb yn ei gwneud yn ofynnol fod datganiadau crynodeb ymadael yn cael eu rhoi pan fydd nwyddau yn cael eu cludo allan o diriogaeth tollau’r Undeb. Gan na fydd Prydain Fawr yn rhan o diriogaeth tollau’r UE mwyach, mae hyn yn berthnasol pan fydd nwydd yn cael ei anfon o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr. Yn wir, mewn tystiolaeth i Bwyllgor Dethol UE Tŷ’r Arglwyddi cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Brexit, Stephen Barclay, y byddai angen datganiadau crynodeb ymadael o’r fath ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr.
Mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf, felly, fod Erthyglau 6(1) a 5(4) yn gwrthdaro, er ei bod yn ymddangos efallai bod ‘nothing … shall prevent’ drechaf. Os felly, mae’r cwestiwn yn symud i’r dehongliad o ‘unfettered’. Byddai’n ymddangos bod hwn yn fater o gyfraith, y byddai angen, yn y pen draw, oni bai fod dealltwriaeth breifat eisoes, ei negodi rhwng y partïon. Mae Erthygl 169 y Cytundeb Ymadael yn nodi y dylai’r DU a’r UE geisio datrys unrhyw achos o anghydfod trwy ymgymryd ag ymgynghoriadau yn ddidwyll yn y Cydbwyllgor, gyda’r nod o ddod o hyd i ateb y mae’r ddwy ochr yn cytuno arno. Os na ellir dod i gytundeb, gellir sefydlu panel cymrodeddu i wneud dyfarniad ar y mater (Troednodyn 3). Mae’r maes hwn yn gymhleth ac efallai y bydd angen rhagor o gyngor.
Y rheswm sylfaenol pam y byddai angen archwiliadau tollau ar ffin Prydain Fawr→Gogledd Iwerddon yw i’r UE sicrhau na all unrhyw gynhyrchion osgoi tariff yr UE trwy gael eu morgludo o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, ac yna o Ogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon. Byddai hyn yn arbennig o berthnasol pe bai’r DU yn llofnodi Cytundeb Masnach Rydd gyda phartner nad oedd gan yr UE gytundeb o’r fath ag ef. Yn ddamcaniaethol, mae’r un risgiau’n berthnasol yn y cyfeiriad arall – heb unrhyw archwiliadau tollau ar nwyddau a anfonir o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, efallai y bydd perygl o allforwyr yn osgoi tariffau’r DU trwy forgludo nwyddau o Weriniaeth Iwerddon i Ogledd Iwerddon, ac yna ymlaen i Brydain Fawr. Beth bynnag fo’r sefyllfa, gyda ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, mae canfod tarddiad nwyddau at ddibenion naill ai Cytundeb Masnach Rydd yr UE neu’r DU yn debygol o fod yn eithaf anodd.
Byddai’r perygl o osgoi tariffau yn arbennig o berthnasol os nad oes cytundeb masnach ar waith rhwng y DU a’r UE, lle byddai cymhelliad i allforwyr yr UE osgoi tariff Gwlad a Ffefrir Fwyaf y DU trwy forgludo eu cynhyrchion trwy Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn ddi-dariff. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes Cytundeb Masnach Rydd ar waith rhwng yr UE a’r DU, efallai y bydd perygl o osgoi tariffau os nad yw gofynion y rheolau tarddiad yn cael eu gorfodi. Fel y nodir uchod, mae’r DU yn gweithio ar sail y dybiaeth y bydd tariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf y DU bob amser yn is na thariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf yr UE, ac felly bod y risg olaf yn ddibwys. Fodd bynnag, ni ellir sicrhau hyn – yn wir, mae’n debygol o gael ei dorri. Er enghraifft, os oes gan wlad gytundeb masnach ffafrio gyda’r UE ond nid gyda’r DU, gallai’r wlad hon anfon ei chynhyrchion i Weriniaeth Iwerddon yn ddi-doll, a gellid anfon y cynhyrchion hyn trwy Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr wedyn, gan osgoi tariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf y DU. Yn yr un modd, o gofio y bydd y DU a’r UE wedi eu rhwymo gan reolau Sefydliad Masnach y Byd i bennu eu hofferynnau amddiffyn masnach, fel tollau gwrthddympio, yn ôl amodau lleol, mae’n anochel ar ryw adeg y bydd y DU yn setlo ar doll gwrthddympio uwch na’r UE.
Mae gan Lywodraeth y DU ddisgresiwn dros ba un a yw’n ystyried bod y perygl o osgoi tariffau yn bris werth ei dalu er mwyn osgoi archwiliadau tollau ar nwyddau a anfonir o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr. Fodd bynnag, gallai methu â gweithredu archwiliadau tollau wneud y DU yn agored i her ar sail diffyg cydymffurfiad â’i rhwymedigaethau o dan Sefydliad Masnach y Byd.
Cysondeb GATT
Mae egwyddor Sefydliad Masnach y Byd o beidio â gwahaniaethu yn gonglfaen i’r system fasnachu amlochrog. Mae Erthygl I y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT) (Triniaeth Gwlad a Ffefrir Fwyaf Gyffredinol) yn ei gwneud yn ofynnol fod unrhyw fantais a ganiateir gan aelod o Sefydliad Masnach y Byd i nwyddau aelod arall gael ei hymestyn yn ddiamod i gynhyrchion tebyg yr holl aelodau eraill. Yn ogystal â thollau tramor, mae hyn yn cynnwys yr holl reolau a materion ffurfiol sy’n gysylltiedig â mewnforio ac allforio.9 (GATT Erthygl I).
Fel y trafodwyd yn yr adrannau blaenorol, heb unrhyw archwiliadau rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE (yn enwedig Gweriniaeth Iwerddon), ac os nad oes unrhyw archwiliadau ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, mae hyn yn golygu y gellid anfon cynhyrchion o’r UE i Ogledd Iwerddon, ac ymlaen i Brydain Fawr, heb wynebu unrhyw dariffau nac archwiliadau rheoleiddio/gweinyddol, hyd yn oes os nad oes Cytundeb Masnach Rydd ar waith rhwng y DU a’r UE. Mewn cyferbyniad, byddai cynhyrchion sy’n cael eu mewnforio o wledydd nad ydynt yn yr UE, er enghraifft UDA neu Awstralia, yn wynebu tariffau ac archwiliadau rheoleiddio. Felly, byddai cynhyrchion o’r UE yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chynhyrchion tebyg o wledydd y tu allan i’r UE, a fyddai’n mynd yn groes i’r egwyddor Gwlad a Ffefrir Fwyaf.
Hefyd, fel y soniwyd yn gynharach, gallai cynhyrchion o wledydd y mae gan yr UE Gytundeb Masnach Rydd â nhw, ond nid y DU (er enghraifft Japan neu Canada), gael eu mewnforio i Weriniaeth Iwerddon yn ddi-dariff, ac yna cael eu hanfon ymlaen i Brydain Fawr, trwy Ogledd Iwerddon, yn ddi-dariff. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, fod cynhyrchion o Japan yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chynhyrchion o UDA neu Awstralia, gan fynd yn groes, eto, i rwymedigaeth Gwlad a Ffefrir Fwyaf y DU yn ôl pob tebyg.
Mae Erthygl XXIV y GATT yn amlinellu rhai eithriadau i’r rheol Gwlad a Ffefrir Fwyaf. Yn gyntaf, mae XXIV(3) yn nodi nad yw’r cytundeb yn atal unrhyw fanteision a roddir gan unrhyw barti contractio i wledydd cyfagos er mwyn hwyluso traffig ar y ffin. Hefyd, yn ôl XXIV(5), os bydd dwy neu fwy o wledydd yn dod i gytundeb masnach rydd neu’n sefydlu undeb tollau, mae ganddynt hawl i ganiatáu gwell triniaeth i’w gilydd heb orfod gwneud yr un fath i wledydd eraill nad ydynt yn rhan o’r cytundeb.
Mae’n annhebygol y byddai’r eithriad ar gyfer traffig ar y ffin o unrhyw gymorth yn senario Iwerddon. Nid oes unrhyw gyfraith achosion yn bodoli ar gyfer y ddarpariaeth hon ac er bod y pwyllgor paratoadol wedi nodi y gallai’r diffiniad o draffig ar y ffin amrywio ar gyfer pob achos, ac na ddylid ei ddiffinio’n rhy gul felly, fe’i cyfyngwyd gan ddrafft cynnar o’r ddarpariaeth i 15 cilomedr o’r ffin (GATT Rhan III Erthygl XXIV). Fel y cyfryw, mae’n ymddangos yn annhebygol y gellid dehongli bod hwn yn berthnasol i Ogledd Iwerddon i gyd.
Hefyd, er y byddai Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a’r UE yn datrys y broblem o driniaeth tariffau wahaniaethol i raddau helaeth, byddai’r cwestiynau ynghylch archwiliadau rheoleiddio a rheolau tarddiad yn parhau, felly byddai rhai archwiliadau i fusnesau eu cwblhau ar fasnach Gogledd Iwerddon→Prydain Fawr yn parhau.
Yn y pen draw, gyda ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE, a heb gynnal unrhyw archwiliadau ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, pe bai dwy wlad, nad oes gan yr un ohonynt Gytundeb Masnach Rydd gyda’r DU ond y mae gan un ohonynt Gytundeb Masnach Rydd gyda’r UE, eisiau allforio’r un cynnyrch i’r DU, ni fyddai unrhyw ffordd i’r DU atal y wlad â Chytundeb Masnach Rydd gyda’r UE rhag cam-fanteisio ar y llwybr Gweriniaeth Iwerddon-Gogledd Iwerddon er mwyn cael mynediad di-dariff at farchnad y DU hefyd, tra byddai’r wlad arall yn wynebu tariffau ym mhob pwynt mynediad. Mewn senario o’r fath, byddai’r DU bron yn sicr yn mynd yn groes i egwyddor Gwlad a Ffefrir Fwyaf Sefydliad Masnach y Byd. Fodd bynnag, byddai hyn ddim ond yn cael ei sefydlu, ac yn arwain at ganlyniadau uniongyrchol i’r DU, pe bai aelod arall mewn anghydfod gyda’r DU amdano yn Sefydliad Masnach y Byd.
Mae sawl rhan arall o Sefydliad Masnach y Byd yn peri problemau posibl i unrhyw drefniant sy’n gweithredu rheolau mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol ffiniau - fel y byddai’r DU yn ei wneud o dan y Protocol. Mae Erthygl X y GATT, yn ôl Corff Apeliadol Sefydliad Masnach y Byd, yn sefydlu safonau gofynnol penodol ar gyfer tryloywder a thegwch gweithdrefnol wrth weinyddu rheoliadau masnach. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol fod unffurfiaeth yn y dull o weinyddu rheoliadau cysylltiedig â masnach. Mewn geiriau eraill, ni ddylai gwledydd drin rhai nwyddau – neu rai gwledydd – yn wahanol iawn i eraill wrth weinyddu gweithdrefnau tollau. Ceir tua dwsin o achosion o anghydfod sy’n canolbwyntio ar y gofyniad hwn. Yn sicr, gallai defnyddio dull ysgafn ar un ochr i’r ffin yn unig arwain at un arall - yn yr un modd, ceir posibilrwydd y gallai’r UE wynebu cwynion o fath tebyg (Troednodyn 4).
Mae Erthygl 10.7 y Cytundeb Hwyluso Masnach, a ddaeth i rym yn ddiweddar, hefyd yn rhwymo pob aelod o Sefydliad Masnach y Byd i ddilyn gweithdrefnau tollau cyffredin a gofynion dogfennau unffurf ar gyfer rhyddhau a chlirio nwyddau drwy ei diriogaeth.
Ymwahanu rheoliadol
Mae’r Protocol yn derbyn y bydd nifer sylweddol o Gyfarwyddebau a Rheoliadau’r UE yn cael eu cymhwyso yng Ngogledd Iwerddon, fel na fydd ffin agored rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn peryglu Marchnad Sengl yr UE sy’n gweithredu yng Ngweriniaeth Iwerddon. Os bydd Prydain Fawr yn ymwahanu (‘i lawr’) yn y dimensiynau hyn, bydd hyn yn golygu na fydd nwyddau sy’n dderbyniol ym Mhrydain Fawr yn cael eu caniatáu ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon heb sicrwydd ychwanegol. Ar gyfer nwyddau sy’n dod o Brydain Fawr - naill ai wedi’u cynhyrchu’n lleol neu eu mewnforio - bydd hyn yn cael ei orfodi wrth neu cyn i’r nwyddau adael porthladdoedd Prydain Fawr. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol fod y nwyddau yn cydymffurfio â rheoliadau’r UE a’u bod wedi’u hardystio - eu hunan-ardystio o bosibl - felly. Fel hyn, tra bod y broses hon yn diogelu Marchnad Sengl yr UE, bydd yn creu gwrthdaro ym marchnad fewnol y DU, a allai gael effaith ar fasnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mater yr ydym yn dychwelyd ato isod.
Bydd unrhyw broses ardystio yn fwy beichus na’r sefyllfa bresennol, lle mae cydymffurfiad y DU â’r drefn Marchnad Sengl a gytunwyd yn golygu yr ystyrir bod unrhyw nwydd sy’n addas i’w roi ar y farchnad yn y DU yn addas i gael ei allforio i unrhyw ran o’r UE. Pan fydd hunan-ardystio yn ddigonol, bydd yn rhaid i allforwyr gymryd camau o hyd i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau ac yn cadw cofnodion ac yn gwneud rhai ymchwiliadau i sicrhau eu hunain eu bod yn bodloni gofynion yr UE. Pan fo angen ardystiad trydydd parti, mae gweithdrefnau yn feichus yn fiwrocrataidd ac yn golygu mynd i gostau, ac mae hyn yn arbennig o wir os gall gael ei ddarparu gan asiantaethau yn yr UE yn unig. Mae’r dewis amgen o asiantaethau yn y DU yn darparu ardystiad yn ôl pob tebyg yn haws i allforwyr Prydain Fawr, ond bydd angen i’r asiantaethau eu hunain dderbyn cymeradwyaeth gan yr UE o hyd, oni bai fod y DU a’r UE yn cytuno ar gyd-gydnabyddiaeth o ardystiad, lle bydd asiantaethau ymreolaethol yn y DU yn gallu ardystio allforion y DU. Mae cydgydnabyddiaeth o’r fath yn anodd yn araf i’w gyflawni mewn Cytundebau Masnach Rydd, fodd bynnag.
Nid yw’r rhan fwyaf o lwythi yn cael eu harchwilio ar ôl i ardystiad gael ei ddarparu, ond mae’n rhaid cadw’r posibilrwydd o archwiliadau papur ac archwiliadau ffisegol achlysurol i wneud y system yn gredadwy. Mae llwythi o fwyd yn destun llawer mwy o oruchwyliaeth ac mae llawer o hyn yn digwydd yn y pwynt mynediad (neu ymadael), hyd yn oes os yw hyn mewn lleoliad gwahanol i’r ffin ffisegol. Gall archwiliadau bwyd olygu bod angen staff a/neu gyfleusterau arbenigol. Felly bydd ymwahaniad rheoliadol rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn golygu gwaith papur a materion ffurfiol ar y ffin yng nghyswllt masnach Prydain Fawr→Gogledd Iwerddon, gyda chynnydd anochel i gostau a defnydd amser yn ôl pob tebyg.
Bydd yn rhaid i nwyddau o bartner masnachu nad yw yn yr UE sy’n cyrraedd Gogledd Iwerddon yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy Brydain Fawr fodloni rheoliadau’r UE fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, felly nid yw’r Protocol yn awgrymu unrhyw newid.
Mae’n werth ail-bwysleisio os, ar unrhyw adeg, bydd rheoliadau yn y DU yn gofyn am rywbeth nad yw’n ofynnol o dan reoliadau’r UE, y bydd yn rhaid dilyn prosesau tebyg i’r rhai sydd newydd gael eu hamlinellu ar gyfer masnach Gogledd Iwerddon→Prydain Fawr, gyda’r holl gost ac anhwylustod cysylltiedig (cyfyngiad mewn ffaith pellach ar ddisgresiwn polisi’r DU). Hefyd, mae’n bosibl y bydd unrhyw wahaniaethau o’r fath yn gorfodi costau ar gynhyrchwyr sy’n cyflenwi marchnad y DU - bydd yn rhaid iddynt gadw rhywfaint o wahaniaeth rhwng eu cynigion i’r UE ac i’r DU. Gan y bydd yr olaf yn un chweched yn unig o faint y cyntaf, bydd y costau hyn yn tueddu i gael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr y DU. Gallai’r effaith gael ei mantoli os bydd rheoliadau’r DU yn caniatáu costau sylweddol is, ond nid yw hyn yn ymddangos yn debygol iawn yn gyffredinol. Ac eithrio’r problemau o ran chwarae teg i bob ochr, nid yw’r DU yn debygol o wyro ymhell iawn o’r UE am flynyddoedd lawer gan fod rheoliadau nwyddau yn cael eu diffinio gan safonau yn bennaf (y mae’r DU yn ymddangos yn benderfynol o’u cynnal mewn aliniad) ac yn ymwneud â materion technegol fel diogelwch a chydweddoldeb. Un cymhlethdod ychwanegol yw’r ffaith fod llawer o feysydd amaethyddiaeth a’r amgylchedd yn rhan o gymwyseddau datganoledig. Yn absenoldeb fframweithiau cyffredin a gytunwyd ar gyfer y DU gyfan yn y meysydd hyn, ceir perygl y bydd un neu fwy o’r gwledydd datganoledig yn mabwysiadu gwahanol ddull i weddill y DU, gan greu mwy o wrthdaro ym marchnad fewnol y DU.15 (Troednodyn 5).
Rheoleiddio a chytundebau masnach rydd
O ran rheoleiddio, bydd y farchnad yng Ngogledd Iwerddon yn edrych i ddarpar gyflenwyr yn union fel yr un yng Ngweriniaeth Iwerddon a gweddill yr UE. Felly, i bob pwrpas ymarferol, bydd rhedeg trefn reoleiddio ar wahân yn gyfystyr â dosrannu’r 2% o farchnad y DU sydd yng Ngogledd Iwerddon i’r UE (cynnyrch domestig gros ar brisiau’r farchnad yr ONS ar gyfer y DU). Bydd hyn yn cael ei atgyfnerthu i’r graddau y mae’r nwyddau yn wynebu cyfraddau tariff yr UE gan eu bod ‘mewn perygl’ o gael eu trosglwyddo ymlaen i’r Undeb. Bydd hyn yn gwneud y DU rhyw fymryn yn llai deniadol fel partner Cytundeb Masnach Rydd na phe bai’r DU yn hygyrch yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, o gofio mai dim ond 2% o alw ydyw ac na fydd y gwahaniaethau rheoleiddio yn effeithio ar bob nwydd, mae’r effaith gyffredinol yn debygol o fod yn fach ar y cyfan.
Mae’n bosibl iawn na fydd yr effaith yn ddibwys i Ogledd Iwerddon, fodd bynnag. Mae’n bosibl mai ychydig iawn o’i mewnforion o bartneriaid Cytundeb Masnach Rydd fydd yn elwa o’r cytundebau. Hefyd, ni fydd cynhyrchwyr Gogledd Iwerddon yn gallu manteisio ar unrhyw lacio’r rheoliadau y mae llywodraeth y DU yn ei wneud o ganlyniad i Gytundeb Masnach Rydd, gan y byddant yn dal i fod wedi eu rhwymo gan reoliadau’r UE. Bydd allforwyr Gogledd Iwerddon yn dal i allu elwa o unrhyw gonsesiynau y mae partner Cytundeb Masnach Rydd yn eu cynnig i’r DU, ond efallai y byddant yn gweithredu ar sail costau uwch na chwmnïau Prydain Fawr. (Wedi’r cyfan, un o’r prif wrthwynebiadau i aros yn yr UE yw bod y rheoliadau yn awgrymu aneffeithlonrwydd) (Troednodyn 6). Mae’n debygol mai’r effaith net fydd mai ychydig iawn o fudd y bydd Gogledd Iwerddon yn ei gael o Gytundebau Masnach Rydd DU gyfan tybiedig.
Mae’n debyg nad yw’r effeithiau masnach uniongyrchol sydd newydd gael eu trafod yn fawr iawn, ond ceir effaith anuniongyrchol bwysicach o bosibl hefyd, sef y bydd unrhyw Gytundeb Masnach Rydd y mae’r DU yn ei lofnodi sy’n cydnabod rheoliadau ac ardystiad fel meysydd o integreiddio posibl yn golygu cyflwyno llu o eithriadau i Ogledd Iwerddon. Yn yr un modd, gallai fod yn angenrheidiol cyflwyno eithriadau pendant i nodi ei bod yn debygol y bydd llawer o allforion y partner i Ogledd Iwerddon yn wynebu tariffau UE uwch. Gallai gofyn am eithriadau mewn unrhyw negodiad fod yn gostus, a gallai ysgogi’r partneriaid i geisio consesiynau neu i ofyn am eu heithriadau eu hunain. Er enghraifft, os bydd y DU yn ceisio eithrio Gogledd Iwerddon o ran o fargen, oni allai’r partner geisio sicrhau eithriadau cyfatebol iddo’i hun? Fe’n hysbyswyd gan rywun o’r tu mewn fod UDA wedi sicrhau consesiynau gan Canada yn gyfnewid am eithriadau i Quebec yn negodiadau Cytundeb Masnach Rydd Gogledd America.
Newidiadau posibl i batrymau masnach
Am y sawl flwyddyn nesaf, mae’n anochel y bydd Brexit yn lleihau faint o fasnach a geir rhwng y DU a’r UE. Ceir lle i ddadlau ynghylch faint yn union, ond nid oes dim yn digwydd i gynyddu masnach ac mae llawer yn digwydd a allai ei lleihau. Felly, a phethau eraill yn gyfartal, byddem yn disgwyl i’r llifoedd masnach sy’n croesi Môr Iwerddon leihau rhywfaint. Nid ydym yn trafod yr effaith gyffredinol ymhellach, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn newid y cymhellion ar gyfer masnach ar wahanol lwybrau rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon, gan gynnwys y llifoedd hynny sy’n digwydd o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae Ffigur 1 yn amlinellu’r prif lwybrau masnach môr rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon. At ddibenion y DU, mae’r gwahaniaeth allweddol rhwng llwybrau (1)–(3), sydd, gan gwmpasu masnach Prydain Fawr–Gogledd Iwerddon, yn fewnol i’r DU, a llwybrau (4)– (7), sydd rhwng Prydain Fawr a Gweriniaeth Iwerddon. I Lywodraeth Cymru, ceir gwahaniaeth pellach rhwng (4) a (5)–(7) gan fod y tri olaf trwy Gymru. Rydym yn bwrw ymlaen ar sail y dybiaeth nad oes unrhyw ddisgwyliad realistig o agor llwybr Cymru– Gogledd Iwerddon (e.e. Caergybi–Warrenpoint?).
I Ogledd Iwerddon, mae’r Protocol yn golygu y bydd mewnforion o Brydain Fawr yn wynebu archwiliadau tollau, archwiliadau rheoleiddio/gweinyddol eraill, a thariffau yn aml. Mewn cyferbyniad, bydd masnach Gogledd Iwerddon gyda’r UE (yn enwedig Gweriniaeth Iwerddon) yn parhau heb unrhyw wrthdaro. O ganlyniad, bydd masnach o fewn ynys Iwerddon yn dod yn haws o’i chymharu â masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Mae’n debygol felly y bydd Prydain Fawr yn colli cyfran o’r farchnad yng Ngogledd Iwerddon, i gyflenwad domestig (Gogledd Iwerddon) ac i fewnforion o’r UE.
Ffigur 1: Llwybrau Môr rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon
Er ei bod yn ymddangos yn anochel y bydd masnach Prydain Fawr→Gogledd Iwerddon yn lleihau, mae’n ymddangos yn annhebygol o wneud hynny i’r un graddau â masnach Prydain Fawr→Gweriniaeth Iwerddon. Yn gyntaf, bydd masnach y gellir profi ei bod yn aros o fewn Gogledd Iwerddon wedi ei heithrio o dariffau (ond nid y gwrthdrawiadau eraill) a bydd cymhelliad eglur i sicrhau cyn lleied â phosibl o archwiliadau ffin a gwrthdrawiadau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, fel y gallant fod yn llai beichus na’r rhai ar lwybrau Prydain Fawr→Gweriniaeth Iwerddon. Mae hyd yn oed yn bosibl y bydd y gwahaniaethau o ran biwrocratiaeth yn ddigonol fel bod rhai cynhyrchwyr Prydain Fawr yn arallgyfeirio eu hallforion i Weriniaeth Iwerddon trwy Ogledd Iwerddon. Bydd llawer o allforwyr – yn enwedig o gynhyrchion sensitif o ran amser – y mae’n well ganddynt amseroedd cludo cyflymach y llwybrau Cymru→Gweriniaeth Iwerddon, ond nid pob un gellid tybio. Gan dybio y bydd y trefniadau ar gyfer nodi cynhyrchion sydd ‘mewn perygl’ o gael eu trosglwyddo i Weriniaeth Iwerddon yn effeithiol, bydd arallgyfeirio o’r math hwn yn arbed arian o ran materion ffurfiol ar y ffin yn unig, ond gallai fod yn berthnasol. Hefyd, mae ffynhonnell ddata arbrofol yn awgrymu bod cyfran nad yw’n ddibwys o’r llwythi sy’n teithio rhwng Caergybi a Dulyn ar eu ffordd i Ogledd Iwerddon neu’n tarddu yno. Os bydd gwrthdrawiadau ar y ffin yn fwy ar y llwybr Prydain Fawr→Gweriniaeth Iwerddon na’r un Prydain Fawr→Gogledd Iwerddon, efallai y bydd cymhelliad i arallgyfeirio llwythi o’r fath i lwybr Prydain Fawr→Gogledd Iwerddon uniongyrchol.
Os bydd yr UE a’r DU yn llofnodi Cytundeb Masnach Rydd sy’n sicrhau dim tariffau, mae dadleuon y paragraff blaenorol yn dal i fod yn berthnasol, ond gyda llai o rym oherwydd o ran nwyddau sy’n bodloni’r rheolau tarddiad, bydd y tariff ar fynd i mewn i Ogledd Iwerddon ac ar fynd i mewn i Weriniaeth Iwerddon yr un fath.
Gan droi nawr at fasnach Gogledd Iwerddon→Prydain Fawr, os nad oes unrhyw archwiliadau, neu archwiliadau ysgafn iawn yn unig, rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, bydd cymhelliad i allforwyr Gweriniaeth Iwerddon â chynhyrchion sy’n mynd i Brydain Fawr anfon y rhain i Ogledd Iwerddon, ac ymlaen o’r fan honno i Brydain Fawr. Mae’n bosibl y bydd y manteision hyn yn cael eu gorbwyso gan ystyriaethau amser ar gyfer nwyddau sy’n sensitif o ran amser, fel bwydydd, y deallir eu bod yn gyfran sylweddol o’r fasnach Dulyn↔Caergybi. Fodd bynnag, bydd unrhyw effeithiau a deimlir yn niweidiol i lwybrau uniongyrchol rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain Fawr.
Ar y cyfan, y mwyaf helaeth yw’r rhwystrau masnach rhwng y DU a’r UE, a’r lleiaf helaeth yw’r archwiliadau ffin rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, y mwyaf o gymhelliad a fydd i arallgyfeirio masnach o lwybrau Gweriniaeth Iwerddon–Prydain Fawr i lwybrau Gogledd Iwerddon–Prydain Fawr. Nid yw’n bosibl mesur y cymhellion hyn na’u heffeithiau ar hyn o bryd, ond ni ellir sicrhau y byddant yn ddibwys.
Ail oblygiad unrhyw wahaniad rheoliadol yw y bydd rhywfaint o gymhelliad i nwyddau o drydydd gwledydd fynd i mewn i Ogledd Iwerddon, neu Weriniaeth Iwerddon, yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy Brydain Fawr, oherwydd bydd yr olaf o bosibl yn golygu dwy set ychydig yn wahanol o reolaethau – wrth iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr ac wrth iddynt adael am Iwerddon. Bydd hyn naill ai’n lleihau llif nwyddau trwy borthladdoedd Cymru (yn ogystal ag eraill ym Mhrydain Fawr), neu’n ei gwneud yn ofynnol i lwythi deithio trwy Brydain Fawr mewn cynwysyddion wedi’u selio o dan sicrwydd tramwy a chyda dogfennau tramwy, gan leihau hyblygrwydd masnachol a chynyddu costau o bosibl. Ac oni bai fod lôn dramwy arbennig ar ffiniau, bydd masnach dramwy yn destun yr un oediadau â phopeth arall. Mae problem debyg yn codi o ran llwythi sy’n teithio rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r UE cyfandirol, er y gallai fod o fantais i borthladdoedd Cymru yn yr achos hwn.
Ar hyn o bryd, yn y ddau achos hyn, nid oes unrhyw broblem ynghylch a yw llwyth sy’n teithio trwy Brydain Fawr wedi’i selio neu’n destun tyniadau neu ychwanegiadau wrth iddo deithio trwy Brydain Fawr. Ar ôl Brexit, fodd bynnag, bydd llwyth UE→Gweriniaeth Iwerddon nad yw wedi’i selio yn wynebu materion mewnforio ffurfiol wrth fynd i mewn i’r DU, a rhai materion ffurfiol pellach wrth gael ei drosglwyddo ymlaen i Weriniaeth Iwerddon. Mae’n ymddangos yn debygol, felly, y bydd cyfran fwy o fasnach sy’n teithio trwy Brydain Fawr yn dymuno teithio mewn cynwysyddion wedi’u selio o’r UE i Weriniaeth Iwerddon, neu o ffynonellau nad ydynt yn yr UE i Ogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon heb ymgysylltu ag awdurdodau’r DU. O’r herwydd, gan mai Cymru sy’n cynnig y bont dir fyrraf a chyflymaf rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r cyfandir, byddai’n werth sicrhau bod masnach dramwy yn cael ei thrin yn effeithlon.
Yr angen am seilwaith newydd i ymdrin ag archwiliadau ffin newydd
O dan y Cytundeb Ymadael, byddai angen archwiliadau ar y ffin rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon. Bydd graddau’r archwiliadau hyn yn dibynnu ar y math o berthynas a gytunir rhwng yr UE a’r DU ar ôl y cyfnod pontio, ond ni fydd unrhyw drefniant yn eu lleihau o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol. Nid oes amheuaeth y bydd ymdrin â pha bynnag archwiliadau sy’n ofynnol, hyd yn oed os gellid symleiddio rhai pethau gan ddefnyddio atebion technegol, yn gofyn am fwy o seilwaith ffin ym mhorthladdoedd Cymru fel Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun.
Mewn tystiolaeth a roddwyd i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cymru, dywedodd Ian Davies o Stena Line Ports:
“As a port operator, physically we do not have the land mass to stop and check vehicles. We just physically do not. We have some of the largest ferries in Europe coming in—Holyhead is a prime example—and we do not have the space even to empty those directly into the port. The whole port would come to a grinding halt, and our industry is based on just-in-time logistics.”
Bydd oediadau oherwydd archwiliadau ffin yn peri problemau arbennig i gynhyrchion bwyd darfodus, y credir sy’n gyfran sylweddol o nwyddau sy’n cael eu morgludo o Gaergybi i Ddulyn. Yn wir, mae cynhyrchion bwyd ymhlith y rhai sy’n debygol o wynebu mwy o archwiliadau, yn enwedig os bydd y DU yn ymwahanu o safonau diogelwch bwyd yr UE.
Mae un pwynt olaf yn werth ei grybwyll. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o lwythi o anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid o wledydd nad ydynt yn yr UE ddod trwy fan archwilio ar y ffin. Ar ôl i’r DU adael yr UE, byddai’n ofynnol felly i gynhyrchion anifeiliaid sy’n cael eu hallforio o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon fynd i mewn i’r wlad trwy fan archwilio awdurdodedig ar y ffin. Yn Iwerddon, mae porthladd Dulyn yn fan archwilio ar y ffin ar gyfer ‘cynhyrchion wedi’u pacio sy’n dod o anifeiliaid’ tra gall ceffylau ddod i mewn trwy faes awyr Dulyn ac anifeiliaid byw eraill (ceffylau, gwartheg, defaid, moch a geifr) trwy faes awyr Shannon (Treth a Thollau Iwerddon). Yn yr un modd, mae Harbwr Belffast a Maes Awyr Rhyngwladol Belffast yn fannau archwilio ar y ffin dynodedig ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon, ond nid ar gyfer anifeiliaid byw (Troednodyn 7). Mae hyn yn golygu y byddai angen i gynhyrchion anifeiliaid sy’n cael eu hallforio trwy borthladd nad yw’n fan archwilio ar y ffin dynodedig ar hyn o bryd adleoli i fan archwilio ar y ffin awdurdodedig. Os yw’r capasiti ar gyfer ymdrin â mewnforion anifeiliaid yn fwy yn Nulyn nag ym Mhelffast, yna gallai fod cymhelliad i allforion cynhyrchion anifeiliaid adleoli tuag at lwybr Caergybi–Dulyn. Hefyd, ni ragwelir ar hyn o bryd y bydd y DU yn dymuno cynnal archwiliadau helaeth i sicrhau iechyd anifeiliaid a phlanhigion ar gynhyrchion sy’n dod o’r UE. Fodd bynnag, pe bai’n gwneud hynny ar unrhyw adeg, byddai o fudd i sicrhau bod Cymru a’i phorthladdoedd cyfatebol yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi eu paratoi’n dda i’w rheoli.
Julia Magntorn Garrett ac L Alan Winters
Arsyllfa Polisi Masnach y DU
Prifysgol Sussex*
* Rydym yn ddiolchgar i Anna Jerzewska am sylwadau ar ddrafft cynharach o’r papur hwn.
Troednodiadau
[1] Dehonglir ‘substantially all’ gan yr UE fel cynnwys o leiaf 90% o fasnach. Am ragor, gweler Lydgate, E., ac Winters, L.A., “Deep and Not Comprehensive? What the WTO Rules Permit for a UK–EU FTA”, World Trade Review, Cyfrol 18, Rhifyn 3 (Gorffennaf 2019) , tud. 451–479.
[2] Un achos diddorol yw achos Bolifia, sy’n aelod o’r Gymuned Andeaidd ar hyn o bryd, ond sydd hefyd yn ceisio ymuno â MERCOSUR. Os bydd Bolifia yn ymuno â MERCOSUR, ac yn cadw ei aelodaeth yn y Gymuned Andeaidd, byddai’n aelod o ddau wahanol undeb tollau yn dechnegol, a fyddai’n creu anghysondebau o fod yn fanwl gywir. Fodd bynnag, nid oes gan y Gymuned Andeaidd dariff allanol cyffredinol gweithredol ac felly mae’n debycach yn weithredol i ardal masnach rydd nag undeb tollau. Mae tariff allanol cyffredin MERCOSUR hefyd yn destun amrywiaeth o randdirymiadau cenedlaethol a cheir o leiaf un achos lle mae aelod o MERCOSUR (Wrwgwái) wedi llofnodi Cytundeb Masnach Rydd dwyochrog gyda gwlad allanol (Mecsico). Mae’r tariff allanol cyffredin amherffaith yn golygu bod dal i fod angen archwiliadau ffin o fewn yr undeb, a hefyd bod yr aelodau yn dal i gael eu hystyried yn endidau tollau ar wahân. Enghraifft arall sydd wedi cael ei chyflwyno, yn y gorffennol, fel ateb posibl i ffin Iwerddon yw tref fach Büsingen yn yr Almaen, sy’n gweithredu o dan system yr Almaen ac yn rhannol o dan system y Swistir. Fodd bynnag, at ddibenion tollau, mae’n rhan o diriogaeth tollau’r Swistir yn unig. (Irish Times)
[3] Yn ôl Erthygl 174 y Cytundeb Ymadael, mewn materion yn ymwneud â chyfraith yr UE, dim ond Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd sydd ag awdurdod i wneud dyfarniadau. Fodd bynnag, nid y dehongliad o gyfraith yr Undeb yw’r broblem yma – mae’n ddigamsyniol fod Cod Tollau’r Undeb yn gwneud datganiadau crynodeb ymadael yn ofynnol. Yn hytrach, y broblem yw pa un a yw ‘nothing [prevents] unfettered access’ drechaf a’r hyn y mae’n ei olygu. Mae Erthygl 12.4 y Protocol yn rhoi pwerau UE penodol i awdurdodau penodol y DU ac yn darparu bod gan yr UE awdurdodaeth dros elfennau penodol o’r Protocol. Fodd bynnag, nid yw’r elfennau olaf hyn yn cynnwys Erthygl 6, sy’n cynnwys y term ‘unfettered’, nac Erthygl 4, sy’n diffinio Gogledd Iwerddon fel rhan o diriogaeth tollau’r DU.
[4] Hard Brexit, soft Border. Some trade implications of the intra-Irish border options.
[5] Am drafodaeth fwy trylwyr am ddeddfwriaeth diogelwch bwyd Brexit a’r goblygiadau i wledydd datganoledig a masnach y DU, gweler Brexit food safety legislation and potential implications for UK trade: The devil in the details.
[6] Codwyd y pryder hwn mewn tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi, lle dadleuodd llywydd Undeb Amaethwyr Ulster pe bai’r DU yn gostwng ei safonau yng nghyswllt yr UE, byddai hyn yn rhoi ffermwyr Gogledd Iwerddon dan anfantais gan y byddai dal i fod angen iddynt gydymffurfio â safonau uwch (mwy costus) yr UE tra gallai cynhyrchwyr eraill godi prisiau is na chyflenwyr Gogledd Iwerddon trwy gynhyrchu yn unol â safonau is (rhatach).
[7] Porthladd Larne yw’r unig borthladd mynediad cymeradwy ar gyfer mewnforion da byw i mewn i Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd, ond nid yw’n fan archwilio ar y ffin cymeradwy ar gyfer anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid. Gweler - Arolygfa ffin (BIPS).