Mae mynd i'r afael ag unigrwydd yn un o flaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae mynd i'r afael ag unigrwydd yn un o flaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17, roedd oddeutu 17% o boblogaeth Cymru, sef oddeutu 440,000 o bobl, wedi dweud eu bod yn teimlo'n unig. 

Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn enwedig mewn perygl o ddioddef o unigrwydd neu ddiffyg cysylltiad ag eraill. Bydd cymunedau ffermio oherwydd eu natur yn aml wedi eu hynysu oddi wrth ei gilydd ac yn bell oddi wrth brif wasanaethau cyhoeddus. Mae bron i 20% o boblogaeth Cymru yn byw mewn cymunedau o lai na 1,500 o bobl.

Yn ystod ei ymweliad, bydd y Gweinidog yn cynnal trafodaethau gydag amrywiaeth o sefydliadau ffermio a sefydliadau gwledig i weld sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a diffyg cysylltiad mewn cymunedau ffermio a chymunedau gwledig ledled Cymru, fel rhan o'r strategaeth y bydd yn ei chyhoeddi at ddibenion ymgynghori yn nes ymlaen eleni. 

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

“Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn broblem sy'n mynd yn fwyfwy difrifol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'n broblem sy'n gallu effeithio ar bawb - yn bobl ifanc ac yn bobl hŷn, yn ffermwyr ac yn feddygon, yn bobl sengl ac yn bobl briod, ac mae'n gallu arwain at amryw o broblemau iechyd a gofal cymdeithasol difrifol. 

“Rydyn ni'n awyddus i sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl i bobl ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ein cymunedau ffermio a gwledig. Dyna pam mae mynd i'r afael â'r broblem hon yn un o flaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

“Dw i wedi dod i'r Sioe heddiw i wrando ar y rheini sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru wledig, i glywed am eu profiadau ac i weld sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae ffordd o fyw ein ffermwyr, o weithio oriau hir bob diwrnod o bob wythnos, yn aml iawn ar eu pennau eu hunain, yn gallu cyfyngu’n fawr ar eu cyfleoedd i gymdeithasu ag eraill. Mae pwysau ychwanegol fel rhedeg busnes, clefydau anifeiliaid, ac ansicrwydd Brexit, yn gallu gwneud i bobl fynd i deimlo'n unig a diobaith.  

“Mae methu ag ymdrin â phroblemau iechyd meddwl hefyd yn gallu arwain at broblemau eraill.  Mae amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael i ffermwyr a chymunedau gwledig, a dw i'n annog unrhyw un sy'n dioddef i beidio â dioddef ar ei ben ei hun, ond yn hytrach i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.”

Mae manylion cyswllt sefydliadau a all roi cymorth yn cael eu nodi yn rhifynnau haf, gaeaf a gwanwyn yr e-fwletin newyddion Gwlad a chyhoeddiadau Cyswllt Ffermio.