Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymweld â Chastell Conwy fore heddiw wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd mewn ymweliadau twristiaeth dros gyfnod y Pasg yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r ymweliad wrth i Wythnos Twristiaeth Cymru 2019 ddirwyn i ben ac wrth i ffigurau Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru gael eu cyhoeddi heddiw, sy'n dangos bod y diwydiant twristiaeth wedi cael Pasg ardderchog.

Mae'r ffigurau'n dangos bod 85% o'r busnesau twristiaeth a holwyd wedi gweld eu lefelau ymwelwyr yn cynyddu neu'n aros yr un peth dros y Pasg.

Mae ffigurau Cadw ar gyfer penwythnos y Pasg yn dangos bod niferoedd ymwelwyr 11% yn uwch na'r llynedd, a refeniw 31% yn uwch.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae'n bleser gennyf ymweld â Chastell Conwy yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru a gweld bod y Pasg wedi bod yn ddechrau gwych i'r tymor ar gyfer y castell a'r diwydiant twristiaeth yn gyffredinol.

“Nid yw Pasg ardderchog yn golygu y gallwn orffwys ar ein rhwyfau am weddill y tymor – ond mae'n sicr yn hwb i hyder ar gyfer y tymor sydd i ddod.

"Mae’r ymgyrch Blwyddyn Darganfod gan Croeso Cymru yn parhau mewn marchnadoedd allweddol, gyda phwyslais arbennig ar y farchnad ddomestig - gwneud yn siŵr bod Cymru yn dod i'r meddwl yn syth pan fydd pobl yn ystyried gwyliau gartref eleni.

Cofnododd Castell Conwy, sy'n ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO gyda Chestyll Harlech, Biwmares a Chaernarfon, a muriau trefi Conwy a Chaernarfon, gynnydd o fwy na 40% mewn refeniw dros benwythnos y Pasg, gan gymryd £45,000 dros y pedwar diwrnod.

Cafwyd ymateb da i'r digwyddiad 'Helfa Cleddyfau'r Pasg' i deuluoedd, a lansiwyd ar ddechrau haf llawn bwrlwm yn y safleoedd, lle gwnaethpwyd gwaith cadwraeth gwerth mwy na £400,000 y llynedd.

Roedd y Pasg eleni hefyd yn boblogaidd yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. Croesawodd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan 31,561 ymweliadau dros benwythnos y Pasg (19 – 22 Ebrill 2019) sy'n gynnydd o 80% ar y Pasg diwethaf.

Canfu Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru hefyd bod ansicrwydd ynghylch Brexit yn effeithio ar archebion ymlaen llaw ar gyfer yr haf - mewn ffordd gadarnhaol a negyddol. Mae ymholiadau ac archebion gan bobl o Ewrop yn dawel, ond mae'r farchnad ddomestig yn edrych yn addawol.

Roedd y Pasg hwyr yn hwb i'r diwydiant gyda thraean o’r busnesau a welodd gynnydd cyffredinol mewn busnes yn nodi hyn fel ffactor cadarnhaol, o gymharu â’r Pasg cynharach yn 2018. O'r rhai a welodd niferoedd uwch o ymwelwyr, nododd 39% 'well tywydd' fel y rheswm mwyaf cyffredin ac roedd y mwyafrif helaeth (85%) o weithredwyr yn hyderus ynghylch yr haf.

Dywedodd Prif Weithredwr Celtic Manor, Ian Edwards, cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Fwrdd Visit Britain:

"Mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y Pasg yn newyddion gwych i ddiwydiant twristiaeth Cymru a gobeithio y bydd yn ymestyn dros dymor yr haf. Gwnaethom fwynhau penwythnos gwyl banc hir a phrysur iawn yn y Celtic Manor ac roedd y tywydd gwych yn golygu y gallai gwesteion ac ymwelwyr undydd fel ei gilydd wneud y mwyaf o'n gweithgareddau antur a mwynhau bwyta yn yr awyr agored. Rydym yn disgwyl i'r tueddiad o wyliau adref dyfu eto eleni gydag ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit a'r bunt wan sy'n atal teithio tramor."

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

"Mae ffocws Wythnos Twristiaeth Cymru eleni wedi bod ar Gryfder drwy Bartneriaeth, ac rydym wedi cyflawni llawer iawn drwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth gyda'r diwydiant twristiaeth - mae'r gefnogaeth ar gyfer ein themâu blynyddol yn enghraifft o hyn.

"Rydym yn awr yn edrych ar beth sydd nesaf i dwristiaeth yng Nghymru, wrth i'r strategaeth gyfredol Partneriaeth Twf ddirwyn i ben yn 2020. Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn twristiaeth i'n helpu i siapio dyfodol ein heconomi ymwelwyr."

I ddechrau'r broses o ddatblygu'r blaenoriaethau ar gyfer twristiaeth, gofynnir 10 cwestiwn mawr a fydd yn helpu i ddatblygu'r blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr. Hoffai Croeso Cymru glywed barn unrhyw un sydd â diddordeb mewn twristiaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 31 Mai a gellir dod o hyd i'r 10 cwestiwn yma.