Mae Zip-Clip, cwmni yn y Canolbarth sy’n cynhyrchu systemau crog o safon uchel, yn ehangu ei gyfleuster newydd yn y Trallwng yn dilyn cynnydd yn ei allforion.
Bu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymweld â’r safle heddiw i glywed rhagor am lwyddiant y cwmni wrth allforio ac ehangu.
Cafodd yr estyniad 6,000 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Clawdd Offa ei adeiladu gan Lywodraeth Cymru ar gost o £375,000 ac erbyn hyn mae’n cael ei osod ar les i Zip Clip.
Bydd yr ehangu yn galluogi’r cwmni i ymdopi â’r cynnydd yn ei drosiant ac i wireddu ei gynlluniau i dyfu. Mae trosiant y cwmni wedi cynyddu o £4.6m i £5.5m ers iddo symud y llynedd i’w safle newydd, a hwyluswyd hefyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n disgwyl gallu dyblu ei weithlu i dros 70 yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae Zip Clip yn allforio i tua 22 o wledydd yn barod ac mae wedi gweld cynnydd mawr yn ei allforion ac yn y galw oddi wrth wledydd tramor.
Erbyn hyn mae wedi sefydlu Zip-Clip Pty Ltd yn Melbourne, Awstalia, sydd â’i warws a’i swyddfeydd ei hun ym maestref Thomastown. Mae hyn yn ei alluogi i fodloni anghenion ei gwsmeriaid yn well, gan leihau’r amser a gymerir i ddanfon y nwyddau. Bydd y cyfleuster yn stocio ac yn dosbarthu cynnyrch a wneir yng Nghymru i’r farchnad yn Awstralia a Seland Newydd o fis Mehefin 2018 ymlaen.
Mae’r cwmni yn cyflenwi amrywiaeth enfawr o systemau crog a ddefnyddir yn y maes adeiladu, gan gynnwys Llysgenhadaeth newydd America yn Nine Elms, Llundain, Ferrari World yn Abu Dhabi a Chanolfan Ddŵr Gemau Olympaidd Llundain.
Yn ogystal â chymorth i ddarparu eiddo, mae Zip Clip wedi elwa hefyd ar raglen arloesi Llywodraeth Cymru ac wedi manteisio ar y rhaglen Cyfleoedd Masnach Rhyngwladol sy’n cynnig cymorth i gyrraedd marchnadoedd tramor newydd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae’n wych gweld cwmni fel Zip Clip yn llwyddo fel hyn. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu eu helpu â’r twf yn eu hallforion a’u cynlluniau i ehangu.
“Roedd yn dda clywed bod y cwmni yn llwyddo dramor ac yn allforio i tua 22 o wledydd ym mhob cwr o’r byd. Maen nhw’n rhan werthfawr o’r gymuned fusnes yma yn y Canolbarth ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ardderchog yn yr ardal.”
Roedd Steve Goldsworthy, prif weithredwr Zip Clip, hefyd yn un o’r prif siaradwyr yng Nghynhadledd Allforio Cymru eleni, er mwyn rhoi sylw i lwyddiant y cwmni.
Dywedodd Mr Goldsworthy:
“Bydd yr estyniad i’r uned newydd yn ein galluogi i ddiogelu anghenion ein cwsmeriaid allforio yn y dyfodol. Ein nod dros y blynyddoedd fydd datblygu ein marchnad dramor gan fodloni anghenion ein cwsmeriaid yn well drwy ddatblygu cynnyrch newydd a gwella cymorth i gwsmeriaid.
“Ni fyddai modd i Zip Clip lwyddo i dargedu’r marcnhadoedd tramor hyn heb gymorth Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth y cymorth cychwynnol a gawsom i feithrin cwsmeriaid dramor drwy deithiau masnach ein galluogi i dargedu’r gwledydd a’r busnesau cywir mewn ffordd effeithiol a fforddiadwy.
“Mae’r cymorth o ran yr adeilad newydd wedi ein galluogi i gadw ein prif swyddfa a’r gwaith cynhyrchu yng Nghymru, sy’n golygu bod y gymuned leol a’r gadwyn gyflenwi yn elwa hefyd.”