Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn trafod y rhyfel yn Wcráin a chydweithredu ar draws Ewrop, pan fydd y Prif Weinidog yn annerch Pwyllgor Rhanbarthau’r UE.
Cynhelir y trafodaethau ddydd Gwener yn y Senedd ym Mae Caerdydd, lle bydd arweinwyr cynulliad yr UE o gynrychiolwyr lleol a rhanbarthol yn cwrdd â’u cymheiriaid yn y DU.
Bydd y pwyllgor yn cynnwys arweinwyr o bob cwr o’r UE, gan gynnwys Llydaw, Fflandrys, Galisia a Bremen.
Yn ystod ei araith i’r pwyllgor, bydd y Prif Weinidog yn siarad am Gymru fel Cenedl Noddfa a’r croeso cynnes y bydd ffoaduriaid o Wcráin yn ei gael yng Nghymru.
Bydd Mark Drakeford hefyd yn amlinellu’r heriau a’r cyfleoedd i Gymru wrth iddi weithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, sy’n llywodraethu’r berthynas newydd rhwng yr UE a’r DU yn dilyn Brexit.
Bydd baneri Cymru ac Wcráin yn hedfan y tu allan i adeilad y Senedd i groesawu’r cynrychiolwyr.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Mae undod ar draws Ewrop yn rhywbeth mae’n rhaid inni ei ailddatgan nawr yn fwy nag erioed.
“Yn anffodus, mae’r heriau fydd yn wynebu pob un ohonom yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod yn cael eu hachosi gan ymosodiad diangen, diachos a chreulon Putin ar Wcráin.
“Rydym am barhau i adeiladu ar yr undod a’r cysylltiadau cryf rydym wedi’u sefydlu â rhanbarthau Ewropeaidd dros sawl blwyddyn o gydweithio.
“Yr ysbryd hwnnw o werthoedd cyffredin fydd yn ein cymell i adeiladu Ewrop well, y tu mewn a’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, er budd ein holl ddinasyddion.”