Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn teithio i Norwy heddiw i gael gwell dealltwriaeth o berthynas y wlad gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Er nad yw’n aelod o’r UE nac Undeb Tollau’r UE, mae gan Norwy fynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl drwy aelodaeth o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).
Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog:
“Cyn dechrau ar y trafodaethau Brexit, mae’n bwysig i ni adeiladu perthynas gyda gwledydd ar draws Ewrop a’r byd ehangach a deall yn well sut maen nhw’n masnachu’n llwyddiannus ac yn gweithredu’n rhyngwladol.
“Dros y tridiau nesaf byddaf yn cyfarfod â busnesau Norwy a Gweinidogion sy’n gyfrifol am fasnach a pherthynas â’r Undeb Ewropeaidd.
“Y Deyrnas Unedig yw marchnad allforion fwyaf Norwy, sef 20% o allforion y wlad, ac mae 80% o gyfanswm eu hallforion yn parhau i fod o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn sgil eu mynediad at y Farchnad Sengl.
“Rydw i wedi dweud yn glir beth sydd ei angen arnom ni o ran Brexit. Yn y lle cyntaf, mae angen i ni barhau i gael mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl. Mae Cymru wedi denu buddsoddiad gan gannoedd o gwmnïau rhyngwladol ar sail mynediad at y farchnad sengl. Byddai methu â chynnal mynediad llawn, heb unrhyw dariffau na rhwystrau eraill rhag masnach, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ei bod yn anoddach denu buddsoddiad yn y dyfodol.
“Does neb wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erioed o’r blaen, felly wrth i ni dorri’r tir newydd hwn mae’n bwysig i ni gael cymaint â phosib o wybodaeth am y gwahanol lwybrau sydd ar gael i ni.
“Yn ystod fy ymweliad â Norwy byddaf hefyd yn manteisio y cyfle i ddysgu mwy am system addysg ardderchog y wlad a’r ffordd y mae’n cefnogi ardaloedd gwledig drwy bolisïau rhanbarthol.”