Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ymuno â chymunedau ar draws De Cymru i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn (24 Mehefin).
Mae'r diwrnod yn gyfle blynyddol i'r genedl ddangos cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y lluoedd arfog.
Bydd y Prif Weinidog yn bresennol mewn digwyddiad yng Nghaeau Chwarae Owain Glyndwr yng Nghaerffili, a fydd yn rhoi sylw i gyfraniad Cymru at amddiffyn ein gwlad, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
"Mae gennym ni hanes milwrol balch yng Nghymru, ac mae heddiw yn gyfle i ni gofio rhai o frwydrau'r gorffennol sy'n rhan o hanes ein cenedl. Mae eleni yn nodi canrif ers Brwydr Passchendaele, pan cafodd y bardd Hedd Wyn ei ladd, ynghyd â miloedd o ddynion ifanc eraill.
Mae "Diwrnod y Lluoedd Arfog" yn gyfle i dalu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu ac yn gwasanaethu, ac i gofio'r rheini sydd wedi gwneud yr aberth eithaf wrth amddiffyn ein gwlad a'n ffordd o fyw."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, sydd â chyfrifoldeb am y Lluoedd Arfog yng Nghymru:
"Mae'n beth gwych bod gennym ddiwrnod arbennig i ddiolch yn swyddogol i'n holl filwyr. Dyma gyfle i feddwl am aberth ein Lluoedd Arfog yn ystod y brwydrau hyn, a phob brwydr arall sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.
"Mae'n gyfle hefyd i ddathlu, a'n hatgoffa o ba mor bwysig yw cefnogi ac anrhydeddu ein milwyr a'n milwyr wrth gefn."