Bydd Gwasanaeth Coffa yn cael ei gynnal yn hwyrach heddiw ar flaen y gad yn y Somme i anrhydeddu'r 4,000 o filwyr Cymreig a fu farw neu eu hanafu ym Mrwydr Coedwig Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn mynd i'r gwasanaeth a fydd yn cael ei arwain gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Dr Barry Morgan, ac yn annerch y 1000 o bobl a ddisgwylir. Yn ystod ei anerchiad, bydd y Prif Weinidog yn talu teyrnged i aelodau'r 38ain Adran (Gymreig), a oedd yn cynnwys milwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Cyffinwyr De Cymru a'r Gatrawd Gymreig.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn diolch i'r bobl o bentref bach Mametz a Chymdeithas y Ffrynt Orllewinol am ofalu am y gofeb siâp draig sy'n 9 troedfedd o uchder ers iddi gael ei chodi ym 1987 i anrhydeddu dynion Cymru a fu'n ymladd yn ddewr am bum diwrnod er mwyn ail-gipio y goedwig fwyaf ar faes brwydr y Somme.
Roedd Brwydr Coedwig Mametz yn ffyrnig a bu llawer iawn o anafiadau. Gyda'r ardal wedi'i dinistrio gan ffrwydron trwm a pharhaus, ac er gwaethaf y coed a'r isdyfiant trwchus, cyflawnodd y 38ain Adran (Gymreig) ei hamcan i gipio’r goedwig erbyn y pumed diwrnod.
Can mlynedd ar ôl dechrau'r frwydr, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
"Mae coffâd heddiw yn rhoi cyfle i ni gyd adlewyrchu ar aberth milwyr y 38ain Adran (Gymreig) a fu'n ymladd yma, a phawb arall fel nhw a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Rwy'n falch i ddod i'r gwasanaeth heddiw er mwyn talu teyrnged i'r Fyddin Gymreig ddewr hon a oedd yn cynnwys dynion o Gymru gyfan. Mae angen i ni ddiolch iddyn nhw i gyd am ymladd dros ein dyfodol."
Cefnogir digwyddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei drefnu gan Gymdeithas y Ffrynt Orllewinol. Dywedodd Phil Davies, Ysgrifennydd, Cangen De Cymru, Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin:
"Mae Cymdeithas y Ffrynt Orllewinol yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a'r cymorth gan Lywodraeth Cymru a'r bobl hynny sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y digwyddiad. Rydym yn falch bod Brigâd 160 sy'n cael ei gynrychioli gan y bataliwn 1af a'r 3ydd, y Cymry Brenhinol, Côr Meibion Treorci ac Archesgob Cymru yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Rydym yn gobeithio y bydd yn ddigwyddiad cofiadwy a pharchus i gofio am y rheini a roddodd eu bywydau yn y frwydr hon, y rheini a oroesodd ac a anafwyd, a phawb a fu'n ymladd yn y lle hwn."
Mae'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn arwain coffâd y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru drwy Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-1918, fel rhan o'r coffâd ehangach yn y DU, y Gymanwlad ac yn rhyngwladol.