Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfraith newydd i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion y cyhoedd sy’n teithio. Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi heddiw mai dyna fydd un o flaenoriaethau’r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o’r ymrwymiad i greu Cymru fwy cyfartal, mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus a fydd yn diwygio’r ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a’u darparu.

Nod y Bil fydd ceisio gwrthdroi rhai o effeithiau negyddol dadreoleiddio, drwy alluogi awdurdodau lleol i greu masnachfraint neu i drefnu gwasanaethau bysiau yn uniongyrchol.

Bydd hyn yn rhan allweddol o broses ehangach o ddiwygio gwasanaethau bysiau, a bydd yn helpu’r Gweinidogion i wireddu eu huchelgais o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy’n wirioneddol integredig.

Bydd y Gweinidogion yn deddfu hefyd i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol fel rhan o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Bydd y Bil hefyd yn cryfhau democratiaeth, atebolrwydd a pherfformiad awdurdodau lleol ac yn sefydlu dull cyson ar gyfer cydweithredu a chydweithio, gan gynnwys ym maes trefnu trafnidiaeth.

Bydd hyn yn grymuso awdurdodau lleol i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch o safon uchel – a’r gwasanaethau hynny’n cael eu trefnu ar y cyd â’r cymunedau yn ogystal ag ar eu cyfer.

Bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu hefyd ar gyfer:

  • Bil Indemniad Meddygon Teulu, a fydd yn ategu’r cynllun presennol a gyflwynwyd fis Ebrill. Bydd y Bil yn sicrhau bod pob hawliad am esgelustod clinigol, pryd bynnag y bydd yn digwydd neu yr adroddir amdano, yn cael ei gynnwys
  • Bil Cwricwlwm ac Asesu, a fydd yn rhoi sail statudol i’r egwyddorion, y rhyddid a’r strwythurau ar gyfer cwricwlwm newydd arloesol Cymru a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022
  • Bil Addysg a Hyfforddiant Trydyddol, a fydd yn sefydlu Comisiwn Addysg a Drydyddol ac Ymchwil i ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod y system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol mewn gwell sefyllfa i ddwyn y sector ynghyd i ddarparu cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer dysgu gydol oes a datblygu sgiliau.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil a fydd yn rhoi sail statudol i bartneriaeth gymdeithasol. Bydd hynny’n golygu bod y model presennol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol wedi’i ymgorffori yn y gyfraith ac yn sicrhau eglurder o ran gorfodi’r cytundebau a gaiff eu llunio. Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno cyn diwedd tymor presennol y Cynulliad.

Yr wythnos diwethaf, lansiodd y Gweinidog Tai ymgynghoriad sy’n nodi nifer o gynigion i estyn y cyfnod hysbysu y mae’n rhaid i landlordiaid ei roi cyn y gallant adennill meddiant o eiddo. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghori, mae’n bosibl y cyflwynir Bil sy’n ymdrin â throi tenantiaid allan heb fai.

Bydd y Gweinidogion yn parhau i weithio ar gynlluniau i foderneiddio’r system drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat – ond ni fydd Llywodraeth Cymru yn deddfu yn y maes yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rwy’n arwain Llywodraeth Cymru sydd ag ymrwymiad cadarn i greu cymdeithas fwy cyfartal, teg a chyfiawn yng Nghymru.

“Bydd y bennod olaf hon o’n rhaglen ddeddfwriaethol yn ein helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, yn hybu cydweithredu wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn sicrhau gwelliannau sylweddol i’n system addysg.

“Mae hon yn rhaglen ddeddfwriaethol a fydd yn sicrhau newidiadau blaengar a chadarnhaol ar gyfer pobl Cymru.”

Os bydd y DU yn ymadael â’r UE, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o ddeddfwriaeth i helpu’r broses bontio.

Ond ni fydd Biliau penodol yn ymwneud ag amaeth ac ag egwyddorion a llywodraethiant amgylcheddol yn cael eu cyflwyno yn ystod blwyddyn olaf y rhaglen ddeddfwriaethol hon.

  • Bydd Bil Amaeth i Gymru yn fwy effeithiol os caiff ei baratoi yn ystod tymor y Cynulliad hwn ond ei gyflwyno yn ystod y tymor nesaf. Mae cyfle yma i greu rhywbeth uchelgeisiol a chynhwysfawr, yn hytrach na dim ond deddfu ar gyfer cynlluniau cymorth i ffermwyr.

    Lansiodd y Gweinidog Materion Gwledig y ddogfen Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yr wythnos diwethaf. Ynddi fe nodir cynigion uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys talu ffermwyr am y camau y byddant yn eu cymryd i ymateb i argyfwng yr hinsawdd, lleihau allyriadau a dal a storio carbon.

    Gan ddefnyddio canlyniadau’r ymgynghoriad, bydd y Gweinidogion yn cyflwyno papur gwyn cyn diwedd y Cynulliad hwn.

  • Mae’r gweinidogion wedi ymgynghori ar Egwyddorion a Llywodraethiant Amgylcheddol pe bai’r DU yn ymadael â’r UE. Mae hwn yn faes pwysig ond cymhleth ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r bylchau mewn llywodraethiant a fydd yn codi ar ôl Brexit. Mae’r Llywodraeth yn trafod gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau eraill beth yw’r ffordd orau o gyflawni hyn – boed hynny ar lefel y DU neu ar lefel Cymru.

    Pa bynnag drywydd y bydd Cymru yn ei ddilyn, mae’n bwysig bod hynny’n gydnaws â’r mecanweithiau atebolrwydd sy’n bodoli’n barod, ei fod yn cynnal ac yn gwella amgylchedd Cymru a’i fod yn parchu setliad datganoli Cymru.