Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd (14 Mehefin), fe wnaeth y Prif Weinidog roi gwaed i nodi’r newid yn y rheolau i ganiatáu i fwy o bobl fod yn gymwys i fod yn rhoddwyr gwaed hefyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cyfyngiadau cyffredinol sy’n atal llawer o bobl LGBT+ rhag rhoi gwaed yn dod i ben, fel rhan o gytundeb rhwng y pedair gwlad.

Heddiw, fe roddodd y Prif Weinidog waed am yr hanner canfed tro, a gwnaeth hynny ochr yn ochr â rhoddwyr gwaed a oedd yn gymwys am y tro cyntaf.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig gan ein bod yn cael gwared ar y gwahaniaethu sydd wedi digwydd yn erbyn pobl LGBT+ sy’n awyddus i roi gwaed.

“Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd, dw i wrth fy modd o gael y cyfle i roi gwaed ochr yn ochr â’r rheini sydd wedi ymgyrchu’n galed i sicrhau bod y newid hwn yn dod yn realiti.

“Gall y weithred o roi gwaed achub bywydau eraill neu newid eu bywydau er gwell, a hoffwn annog unrhyw un sy’n gallu rhoi gwaed i wneud hynny.”

Fel rhan o’r newidiadau mewn cymhwystra, bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru, ochr yn ochr â gwasanaethau gwaed eraill yn y DU, yn gofyn yr un set o gwestiynau safonol am ymddygiad rhywiol i bob un sydd am roi gwaed a phlatennau.

Bydd hyn yn caniatáu i asesiad risg unigol gael ei gynnal ar gyfer pob rhoddwr, yn hytrach na bod risg cyffredinol yn cael ei gysylltu â grŵp o bobl penodol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Dw i’n croesawu’r newidiadau i’r rheolau rhoi gwaed, a dw i’n ddiolchgar i’r arbenigwyr meddygol sydd wedi sicrhau bod ein cyflenwad gwaed yn ddiogel ac ar yr un pryd bod y broses o roi gwaed yn deg i bawb.

“Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dibynnu ar garedigrwydd rhoddwyr gwaed a phlatennau i gynnal ein cyflenwadau. Mae angen tri chant a hanner o ‘roddion’  bob dydd i’w defnyddio ar draws ysbytai Cymru.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser:

“Mae’n bleser nodi Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd drwy groesawu mwy o bobl i’n tîm achub bywydau, sef ein rhoddwyr gwaed a phlatennau.

“O heddiw ymlaen, bydd yn bosibl i fwy o bobl roi gwaed mewn modd diogel, diolch i feini prawf cymhwysedd newydd a thecach.

“Er nad yw gwasanaethau gwaed yn gyfrifol am benderfynu ar y rheolau ar gyfer derbyn rhoddwyr, rydyn ni wrth ein boddau bod ein gwaith ar y cyd â grŵp llywio FAIR wedi arwain at y rheoliadau newydd.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch y Prif Weinidog ar gyrraedd y garreg filltir o roi gwaed am yr hanner canfed tro. Dw i’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn dilyn ei esiampl a gwneud gwahaniaeth a allai achub bywyd claf mewn angen.

“Os nad ydych chi erioed wedi rhoi gwaed o’r blaen, beth am ein cefnogi drwy roi gwaed yn eich clinig rhoi gwaed lleol.”