Neidio i'r prif gynnwy

"Efallai ein bod ni'n genedl fach, ond rydyn ni'n unigryw ac yn cael effaith sylweddol ar draws y byd”, dyna oedd geiriau'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Mawrth (26 Chwefror), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford ym Mrwsel i gynnal derbyniad Gŵyl Dewi a bydd ym Mharis ddydd Mercher (27 Chwefror) i agor swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn y ddinas yn swyddogol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn ei phresenoldeb yn raddol yn Ewrop ac ym mhob cwr o’r byd, a Swyddfa Paris yw'r cam diweddaraf yn yr ymgyrch hon. Mae cael cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yn yr ardaloedd hyn yn helpu i hyrwyddo Cymru er mwyn gwerthu nwyddau o Gymru i farchnadoedd tramor, a hyrwyddo ein twristiaeth a'r hyn sydd gennym i gynnig ym maes addysg uwch. Bydd y gynrychiolaeth hon hefyd yn parhau i helpu ein hymdrechion i ddenu mewnfuddsoddiad newydd i Gymru sy'n dod yn fwyfwy heriol yn yr hinsawdd o ansicrwydd yn sgil Brexit sy’n parhau.

Mae'r ymweliadau yn dangos ymrwymiad Cymru i feithrin perthynas ag Ewrop, a bydd y Prif Weinidog yn pwysleisio bod Cymru yn mynd i barhau i ddatblygu cyfeillgarwch hir, parhaus â gwledydd a rhanbarthau yn Ewrop, beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau ar Brexit sy'n parhau. 

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae ein perthynas â'n cymdogion agosaf yn yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn bwysig iawn inni. Mae Cymru yn wlad Ewropeaidd, ac fe fydd hynny'n wir am byth.

“Mae tua 60% o'n nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu sy'n cael eu hallforio yn mynd i'r UE. Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal y busnes hwnnw a chadw swyddi. Mae gennym ni nawr swyddfeydd mewn pum dinas yn Ewrop, ac mae hyn yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa gryfach i feithrin ein cysylltiadau ag Ewrop a ninnau ar drothwy cyfnod tyngedfennol yn ein hanes gwleidyddol a chymdeithasol." 

Bydd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yng Ngogledd America yr wythnos hon i hybu masnach a chodi proffil Cymru.

Mae'r ymweliad hwn yn cynnwys derbyniad Gŵyl Dewi yn Capitol Hill, yn ogystal â chyfarfodydd gyda buddsoddwyr presennol a phosib yng Nghymru ac annerch Banc y Byd yn Washington DC.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio Dydd Gŵyl Dewi i hyrwyddo Cymru ym mhob cwr o’r byd, ac mae digwyddiadau wedi'u cynllunio yn Dubai, Tsieina, Siapan a Chanada ymhlith eraill.

Yn ogystal â’r cyfleoedd tramor, bydd y rheini sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith yn Llundain hefyd yn cael eu cyfarch gan gôr o Gymru ac yn cael cyfle i flasu bwyd a diod o Gymru yng Ngorsaf Drenau Paddington yr wythnos hon. Bydd bwyd o Gymru hefyd yn nodwedd ym Marchnad Borough ac yng Ngorsaf Manceinion Piccadilly ar Ddydd Gŵyl Dewi. 

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Mae'n wych gweld y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y DU a thu hwnt i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a hyrwyddo Cymru ar draws y byd.  

“Mae'n bwysig inni wneud y mwyaf o'r cyfle sy'n dod gyda Dydd Gŵyl Dewi i ddweud stori Cymru wrth y byd. Rydyn ni'n wlad flaengar, agored a chroesawgar – cenedl sy'n fwrlwm o greadigrwydd ac sy'n torri tir newydd, ac rydyn ni'n gefnogol o'n busnesau a'n pobl. Mae gennym ni gymaint i'w gynnig fel gwlad a byddwn ni'n parhau i weithio'n galed i feithrin yr enw da hwn yn Ewrop a thu hwnt."