Neidio i'r prif gynnwy

I nodi blwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi bwrw golwg dros y 12 mis diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r 12 mis diwethaf wedi gweld y lefelau cyflogaeth uchaf ar gofnod yng Nghymru, wrth i Lywodraeth Cymru gefnogi bron i 40,000 o swyddi, a'r lefelau uchaf erioed o fewnfuddsoddiad; gyda bron i 100 o brosiectau newydd yn dod i Gymru, gwerth o leiaf £660 miliwn i'r economi.

Wrth inni fuddsoddi mwy nag erioed yn y GIG, dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld y Gronfa Triniaethau Newydd gwerth £80m yn cael ei sefydlu, £55 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac ymgyrchoedd newydd i annog meddygon a nyrsys i hyfforddi ac i weithio yng Nghymru.

Wrth drafod addysg, soniodd y Prif Weinidog am y pecyn cymorth ariannol hael i fyfyrwyr sydd gennym yng Nghymru, a buddsoddiadau mawr sydd wedi’i gwneud i leihau maint dosbarthiadau babanod, codi safonau ysgolion a chefnogi disgyblion mwyaf difreintiedig Cymru.

Wrth siarad o'i swyddfa ym Mae Caerdydd, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod eithriadol yng ngwleidyddiaeth Prydain, a Chymru. Ond, drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar wireddu'r addewidion a wnaed gennym i bobl Cymru.

"Byddwn yn parhau i weithio'n galed i wireddu ein haddewidion, ac i frwydo ar eich rhan chi a'ch cymunedau. Gyda'n gilydd, byddwn yn adeiladu ar ein llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf, ac yn parhau i Symud Cymru Ymlaen.”