Neidio i'r prif gynnwy

Yfory, bydd hi’n 50 mlynedd ers trychineb Aberfan, pan gafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn y diwrnod coffáu, mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn atgoffa pobl Cymru am y munud o dawelwch a fydd yn cael ei chynnal ar hyd a lled y wlad. Bydd hyn yn digwydd am 9.15am yfory [dydd Gwener 21 Hydref 2016].

Dywedodd y Prif Weinidog: 

“Fyddwn ni fyth yn anghofio’r dynion, y menywod a’r plant ysgol a gollodd eu bywydau mor drasig yn nhrychineb Aberfan 50 mlynedd yn ôl.

“Mae’n bwysig cofio fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall beth ddigwyddodd yn Aberfan. Mae’n adeg wirioneddol dorcalonnus yn ein hanes ac ni all unrhyw un sy’n dysgu am y drychineb beidio â chael eu gwir gyffwrdd gan y digwyddiad.

“Hanner canrif wedi’r drychineb, dw i’n gobeithio y bydd y genedl gyfan yn dod at ei gilydd, gan ddangos parch a thosturi, i oedi am funud am 9.15am yfory a meddwl am gymuned Aberfan.”