Neidio i'r prif gynnwy

Mae TRJ Ltd, cwmni adeiladu yn Rhydaman, wedi ennill contract mawr gan Aston Martin a fydd yn dod â gwaith adeiladu gwerth miliynau o bunnau i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r llwyddiant hwn wedi digwydd ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu hysbysebu contractau Aston Martin ar ei gwefan gaffael GwerthwchiGymru, yn gynharach eleni.

Hwn oedd y tro cyntaf i gontractau ar gyfer y sector preifat gael eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru, a hynny er mwyn sicrhau y gallai cwmnïau yng Nghymru elwa ar benderfyniad Aston Martin i ddod i Gymru.

Fe wnaeth cwmnïau ledled y Deyrnas Unedig dendro am y gwaith yn Sain Tathan, ond heddiw cyhoeddodd Aston Martin fod TRJ Ltd yn Rhydaman wedi llwyddo i ennill contract uchel ei werth ar gyfer Cam 2 y gwaith o adeiladu ei ffatri weithgynhyrchu newydd.

Roedd y cwmni eisoes wedi ennill contract ar gyfer Cam 1 y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2016.

Wrth siarad am lwyddiant TRJ Ltd, dywedodd y Prif Weinidog:  

“Nod ein penderfyniad i ddefnyddio ein gwefan gaffael GwerthwchiGymru ar gyfer contractau Aston Martin oedd sicrhau bod cwmnïau ledled Cymru yn cael elwa ar benderfyniad y cwmni i symud yma.  

“Dw i wrth fy modd bod TRJ yn Rhydaman wedi ennill y contract am gam nesaf y gwaith adeiladu yn safle Aston Martin yn Sain Tathan.  

“Dyma’r union fath o ganlyniad roedden ni’n gobeithio amdano, a dw i’n edrych ymlaen at gael gweld mwy o gwmnïau’n elwa ar Aston Martin yn y misoedd sydd i ddod.”

Dywedodd Andy Palmer, Prif Swyddog Gweithredol a Llywydd Aston Martin:

“Dyma gam arall ein menter yng Nghymru, wrth i’r gwaith adeiladu’r ffatri fynd rhagddo. Roedd TRJ wedi cwblhau cam 1 yn llwyddiannus ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod cam nesa'r prosiect.”

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Aston Martin ei fod wedi dewis Sain Tathan o  blith 20 lleoliad posibl eraill yn y byd ar gyfer ei ail safle gweithgynhyrchu. Dechreuodd ymgyrch recriwtio'r llynedd i chwilio am hyd at 750 o weithwyr ar gyfer y safle.

Mae dros 40 o’r gweithwyr newydd hyn eisoes yn gweithio a hyfforddi yn safle gweithgynhyrchu’r cwmni yn Gaydon, yn Swydd Warwick.

Gallwch ddarganfod rhagor am lwyddiant TRJ wrth ennill contract Aston Martin, a’r cyfleoedd a ddaw i weithwyr a phrentisiaid o’i herwydd, yn y ffilm fer hon https://youtu.be/W3Q459RJw10