Dylai pob cenhedlaeth ddefnyddio yr angerdd y mae ymgyrchwyr ifanc yn ei deimlo tuag at y newid yn yr hinsawdd, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw cyn cyhoeddi cynllun Cymru i leihau allyriadau carbon.
Yn yr wythnosau diwethaf, mae pobl ifanc ledled y byd wedi galw am weithredu ar fyrder i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel - cynllun cadarn a manwl ar draws y llywodraeth i ostwng allyriadau a chyfrannu at yr ymgyrch fyd-eang yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Mae'n pennu sut y bydd Cymru yn bodloni ei chyllideb carbon gyntaf, ac yn gosod y sylfeini ar gyfer sut y bydd Cymru yn cyrraedd ei tharged uchelgeisiol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% erbyn 2050.
Mae'n nodi 100 o flaenoriaethau a pholisïau ar draws pob maes o lywodraeth, gan gynnwys:
- Plannu mwy o goed, 2,000 hectar y flwyddyn o leiaf ar y cychwyn, ac yna ddyblu hynny i 4,000 hectar cyn gynted â phosib
- Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb annibynnol ar ddal carbon i'w ddefnyddio a'i storio
- Lleihau allyriadau o gynhyrchu pŵer yng Nghymru, gan gynnwys defnyddio ein pwerau cydsynio, cynllunio a thrwyddedu a datblygu polisïau ar y tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu pŵer
- Annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan trwy ddatblygu rhwydwaith wefru gyflym
- Uchelgais ddewr i fysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat fod yn ddi-garbon erbyn 2028
- Adolygu rheoliadau adeiladu i edrych ar sut i bennu safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer adeiladau newydd;
- Gweithio gyda partneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd
- Darparu coed ffrwythau a thanwydd ar gyfer ardal gyfan Mynydd Elgon yn Uganda erbyn 2030.
Bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau £4 miliwn i gefnogi prosiectau carbon isel o dan arweiniad y gymuned. Mae hyn yn cynnwys £1.3 miliwn ar gyfer CARE - cymdeithas mantais gymunedol yn Sir Benfro, i helpu cymuned Cwm Arian i fod yn gymuned garbon isel.
Caiff Cymru Carbon Isel ei lansio yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd - oedd yn ganolog i fasnach lo fyd-eang - symbol o ymrwymiad Cymru i symud ymlaen ac i fod yn arweinydd mewn technolegau ynni glân.
Mae'r cynllun yn ganlyniad cydweithio, gyda mewnbwn gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys pobl ifanc.
Bydd Sion Sleep, aelod o Uprising Cymru, oedd yn rhan o'r protestiadau diweddar gan fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, yn siarad yn y lansiad.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae'n amhosibl peidio â chael eich ysbrydoli gan yr angerdd yr ydym wedi'i weld gan y genhedlaeth ifanc, er na fyddwn yn cynghori pobl ifanc i golli'r ysgol.
"Mae'r genhedlaeth ifanc yn sylweddoli y gallai y diffyg gweithredu ar hyn o bryd i wella ein hamgylchedd ddod â chanlyniadau difrifol iawn ar gyfer eu dyfodol.
"Yng Nghymru, datblygwyd a chyflwynwyd deddfwriaeth arloesol, yn galw arnom i ystyried yr effaith a gaiff y penderfyniadau a'r polisïau yr ydym wedi'u gwneud ar genedlaethau'r dyfodol.
"Dyna pam ein bod yn gwahodd pobl ifanc i fod yn rhan o'r sgwrs, i helpu ein hannog i wneud y newidiadau sydd eu hangen ar gyfer eu dyfodol."
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae cynllun heddiw yn gosod y sylfaen ar gyfer newidiadau pellach. Mae'n dasg fawr, ond mae difrifoldeb y sefyllfa yn fwy na hyn hyd yn oed.
"Fel llywodraeth, mae gennym ddyletswydd i arwain, ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithredu."
Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd wedi'u dewis i arwain canolfan newydd gwerth £5 miliwn i edrych sut y gallwn fyw yn wahanol i sicrhau y gostyngiadau pellgyrhaeddol mewn allyriadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Bydd yn canolbwyntio ar y meysydd heriol o fywyd pob dydd sy'n cyfrannu'n sylweddol at y newid yn yr hinsawdd, ond sydd wedi bod yn anodd iawn eu newid. Mae'r rhain yn cynnwys y bwyd a'r cynnyrch rydyn ni'n eu defnyddio, bwyd a deiet, teithio, a gwresogi/oeri adeiladau.
Gan gydnabod yr angen am y newid mawr hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n agos gydag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a sefydliadau partner eraill i lunio'r prosiect sy'n cael eu cynllunio gan y Ganolfan.
Meddai Cyfarwyddwr newydd y Ganolfan, Yr Athro Lorraine Whitmarsh o Brifysgol Caerdydd:
"Er bod bellach fomentwm rhyngwladol dros weithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, mae'n amlwg na fyddwn yn cyrraedd targedau hollbwysig, megis cadw'r cynnydd yn nhymheredd y byd o fewn 2 gradd Celsius o gymharu â'r lefelau cyn yr oes ddiwydiannol, heb newidiadau sylfaenol mawr ar draws pob rhan o gymdeithas.
"Yn y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol rydym yn cydnabod bod y newid yn yr hinsawdd yn argyfwng sy'n galw am weithredu ar raddfa llawer ehangach na sydd wedi'i weld hyd yma. Ffyniant i Bawb: Mae Cymru Carbon Isel yn cydnabod bod gan bawb ran i'w chwarae. Byddwn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol o sut y gallwn fyw yn wahanol ac yn well, mewn ffyrdd sy'n bodloni'r angen am y gostyngiadau systematig, mawr a chyflym hyn mewn allyriadau."
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru, Sophie Howe, wedi cyfrannu at y cynllun a bydd yn siarad yn y lansiad heddiw. Dywedodd:
“Rwy’n croesawu cynllun Cymru Carbon Isel Llywodraeth Cymru, sy’n gosod y sylfaen ar gyfer newid Cymru i fod yn genedl carbon isel, gan adlewyrchu uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y cynllun hwn, a chynlluniau yn y dyfodol, yn cefnogi’r trawsnewid sydd ei angen i fodloni’r saith nod llesiant ac, yn benodol, nod llesiant Cymru Lewyrchus, sy’n ailddiffinio ffyniant fel cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod cyfyngiadau’r amgylchedd ac yn defnyddio adnoddau’n effeithlon a chymesur.
“Rwy’n croesawu’n benodol y ffocws ar gyfiawnder hinsawdd a sicrhau trawsnewid teg. Yr hyn rydyn ni’n sôn amdano yw dyfodol iachach, cadarn a thecach i’n plant ni a phlant ein plant ac mae’n galonogol bod pobl ifanc wedi cael lleisio eu barn wrth lunio’r polisi hwn sy’n effeithio ar eu dyfodol.
“Nawr mae’n rhaid i ni weld arweinyddiaeth feiddgar ar draws y Llywodraeth gyfan, a chan ein cyrff cyhoeddus ni a’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn creu mudiad o newid sy’n galluogi pawb i wneud dewisiadau gwell sy’n lleihau ein hallyriadau ni ar y cyd. O’r adeiladwyr sy’n gallu helpu i wneud ein cartrefi a’n swyddfeydd ni’n fwy ynni effeithlon i’r cynllunwyr trefi sy’n creu’r gofod rydyn ni’n byw ynddo ac yn teithio iddo, a’r bobl ifanc fydd yn talu gyda’u hiechyd a’u lles os na fyddwn ni’n gweithredu ar fyrder er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd yn chwarae rhan hanfodol mewn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd er lles pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Sion Sleep, aelod o Uprising Cymru:
“Mae wir yn bwysig bod gan bobl ifanc lais ynghylch newid yn yr hinsawdd oherwydd ni yw’r bobl sy’n mynd i orfod delio â’r problemau yn y pen draw, a’n plant ni hefyd. Nid ni yw’r bobl sy’n rhoi ein hunain yn y sefyllfa yma, ond ni yw’r bobl sy’n mynd i orfod ceisio creu newid mawr.”