Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dau gategori newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gwobrau Dewi Sant wedi cael eu cynnal ers saith mlynedd, ac mae'r digwyddiad bellach yn rhan annatod o galendr Cymru. 

Mae'r Gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau rhyfeddol pobl o bob cefndir yng Nghymru.

Ceir naw categori – Dewrder, Diwylliant, Menter, Arloesi a Thechnoleg, Chwaraeon, Person Ifanc a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog, a'r ddau gategori newydd – Gwobr Ddyngarol Dewi Sant a'r Wobr Ysbryd Cymunedol.

Bydd Gwobr Ddyngarol Dewi Sant yn rhoi cydnabyddiaeth i unigolyn neu grŵp o Gymru sydd wedi gwella bywydau pobl eraill, naill ai yng Nghymru neu yn rhyngwladol.

Bydd y Wobr Ysbryd Cymunedol newydd yn anrhydeddu pobl sydd wedi gweithio i wella eu cymuned leol – y bwriad yw gwobrwyo gweithredoedd anhunanol, sydd wedi gwasanaethu'r cyhoedd neu wella bywydau pobl eraill.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Rydyn ni nawr yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant, ac mae modd i unrhyw un enwebu rhywun sy'n haeddu gwobr yn eu barn nhw, boed yn gydweithiwr, ffrind, cymydog neu aelod o'r teulu.

"Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, ac rydyn ni am glywed am ddewrder pobl a'u llwyddiannau anhygoel. Rydyn ni'n croesawu enwebiadau gan bobl sy'n byw yng Nghymru, sy'n dod o Gymru, neu sydd â chysylltiad ystyrlon â'n gwlad.

"Mae'r Gwobrau'n gyfle i gydnabod a dathlu ein harwyr, arloeswyr ac entrepreneuriaid, pobl sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cymunedau. 

"Eleni rydyn ni wedi cyflwyno dau gategori newydd i roi cyfle i fwy o bobl gael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i Gymru. 

"Mae'r broses enwebu yn syml iawn, felly ewch ati heddiw i awgrymu enillydd teilwng."

Ymysg enillwyr llynedd roedd Andrew Niinemae, a lwyddodd i rwystro car rhag taro grŵp o bobl; Bethan Owen, gofalwr ifanc sy'n cynnal clwb karate dielw ar gyfer gofalwyr ifanc eraill ac enillydd Tour de France 2018, Geraint Thomas.

Daw'r cyfnod enwebu i ben ar 17 Hydref 2019, a fe fydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ar 13 Chwefror 2020. Cynhelir cinio dathlu ar 19 Mawrth 2020 yn y Senedd, Bae Caerdydd. 

Gellir enwebu drwy wefan Gwobrau Dewi Sant.