Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i Gymru sefyll gyda'n gilydd a dathlu amrywiaeth wrth i'r byd nodi 75 mlynedd ers yr Holocost.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ymunodd ag un o oroeswyr yr Holocost, y Dr Martin Stern, ac arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas mewn gwasanaeth coffa cenedlaethol i gofio am yr holl bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill o amgylch y byd.

Roedd y gwasanaeth yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau carcharorion Auschwitz a 25 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Srebrenica, Bosnia. Mae'r gwasanaeth hefyd yn dilyn gorchymyn gan y Cenhedloedd Unedig wythnos diwethaf i atal hil-laddiad Mwslimiaid Rohingya ym Myanmar. 

Safodd arweinwyr cymunedol eraill, yn cynrychioli pobl a laddwyd yn yr Holocost – gan gynnwys grwpiau LGBTQI, sipsiwn a theithwyr, anabledd, hil a ffydd – ysgwydd wrth ysgwydd yn y digwyddiad.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae heddiw'n ddiwrnod poenus a diolchaf i'r Dr Stern am ddefnyddio ei stori deimladwy i'n hatgoffa ni i gyd o rym goddefgarwch.

"Mae'r Holocost yn ddigwyddiad cywilyddus yn ein hanes, un y mae rhaid inni ei gofio am byth. Fe ddigwyddodd, fel pob hil-laddiad blaenorol a dilynol, gan fod y gwahaniaethau rhwng pobl wedi cael eu defnyddio i ennyn drwgdybiaeth a rhwygo cymdeithas.

"Rhaid inni sefyll gyda'n gilydd. Rhaid inni ddathlu ein gwahaniaethau. A rhaid inni gredu bod mwy yn ein huno nag sy'n ein rhannu. Dyna'r unig ffordd o sicrhau bod y digwyddiadau torcalonnus hyn yn aros yn union ble maent i fod – yn y llyfrau hanes."

Llofnododd y Prif Weinidog y Llyfr Ymrwymo, gan roi teyrnged i ddioddefwyr a goroeswyr yr Holocost. Wrth ei lofnodi, addawodd y byddai’n anrhydeddu Diwrnod Cofio'r Holocost.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:

"Mae gan Gaerdydd hanes balch o fod yn ddinas amrywiol a chroesawgar. Nawr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig ein bod yn sefyll gyda'n gilydd i gynnal y traddodiadau hyn drwy ddiogelu undod a brwydro yn erbyn rhaniadau.

"Mae’r ffaith ei bod yn 75 mlynedd ers rhyddhau carcharorion Auschwitz-Birkenau yn gwneud Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yn arbennig o deimladwy. Heddiw, rydym yn anrhydeddu pawb sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiadau ac yn cofio bod pobl yn dal i gael eu herlid heddiw. Wrth gofio, rhaid inni fanteisio ar y cyfle i sicrhau nad yw’r fath erchyllterau ciaidd byth yn digwydd eto."

Dyma'r digwyddiad cyntaf mewn amserlen brysur i'r Dr Stern, a fydd yn cael ei groesawu gan ysgolion, y Sefydliad Diwylliannol Mwslimaidd Cymreig, carchardai a grwpiau eraill ledled De Cymru dros yr wythnos i ddod.

Ar ôl dianc o'r Almaen cyn y rhyfel, bu farw mam y Dr Stern yn fuan ar ôl rhoi geni i'w chwaer fach, Erica. Bu farw ei dad, a oedd yn Iddew, yng ngwersyll crynhoi Buchenwald, ar ôl treulio amser yn Auschwitz.

Yn Amsterdam, gofalodd teuluoedd lleol am ei chwaer ac yntau, yn agos at ble y bu Anne Frank yn cuddio. Roedd athro'r Dr Stern wedi gwadu ei fod yn yr ysgol pan ddaeth milwyr i chwilio amdano, ond ac yntau'n fachgen bach diniwed pum mlwydd oed, cododd ei law a dweud, 'Ond dw i yma'.

Geto caeedig Theresienstadt fyddai'r cyrchfan terfynol i lawer a anfonwyd yno. Ond llwyddodd y Dr Stern a'i chwaer i oroesi a gweld cwymp y Natsïaid.

Unwyd y plant â'u modryb, a gafodd loches yn y DU, lle mae'r Dr Stern wedi byw byth oddi ar hynny. Daeth yn imiwnolegydd ac yn arbenigwr mewn asthma. Ac yntau bellach yn 80, mae'n rhoi o'i amser i hyrwyddo addysg a goddefgarwch.

Dywedodd Olivia Marks-Woldman, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost:

"Rydym yn falch o fod yn gweithio unwaith eto gyda Llywodraeth Cymru i helpu pobl ledled Cymru i ddysgu am yr Holocost a hil-laddiadau mwy diweddar.

"Rydym wrth ein boddau bod cynifer o fyfyrwyr a grwpiau cymunedol yn cael y cyfle i glywed gan y Dr Stern. Mae ei brofiadau dirdynnol yn ein hatgoffa o'r hyn a all ddigwydd os nad yw rhagfarn a chasineb yn cael eu herio, gan ein hannog ni i gyd i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn gelyniaeth o unrhyw fath."

Rhannodd Lydia Lisk ac Ella Rowlands, myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, eu profiad o ymweliad eu hysgol ag Auschwitz a oedd yn rhan o brosiect Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, Gwersi o Auschwitz, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae grwpiau cymunedol wedi creu'r arddangosfa, 75 Fflam Coffa, i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Datblygwyd naw o'r fflamau coffa gan grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys rhai gan Grŵp Celf Carchar EM Caerdydd, Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.

Bydd arddangosfa'r 75 Fflam yn mynd ar daith o amgylch y DU a bydd cyfle i’w gweld yng Nghaerdydd ym mis Chwefror. Bydd detholiad o'r fflamau coffa yn cael ei arddangos yn y Senedd yr wythnos hon tan 29 Ionawr.