Heddiw bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyflwyno cynllun ar gyfer diwygio sylfaenol yn y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor yr Undeb.
Bydd y Prif Weinidog yn rhoi darlith flynyddol Keir Hardie ym Merthyr Tudful heno, lle bydd yn cynnig ffordd arall gadarnhaol yn hytrach na chenedlaetholdeb a phoblyddiaeth.
Wrth siarad yng Ngholeg Merthyr Tudful heno, bydd y Prif Weinidog yn dweud:
“Os nad ydyn ni am ildio i iaith cenedlaetholdeb; os nad ydyn ni am gerdded mewn trwmgwsg i annibyniaeth ein hunain, rhaid i ni gymryd y cyfrifoldeb lle nad yw Llywodraeth y DU ei hun am wneud hynny.
“Rhaid inni feddwl o ddifrif am y ffyrdd sydd ar gael i'r Deyrnas Unedig ailwampio ei hun er mwyn iddi oroesi.
"Rhaid inni gynnal trafodaeth ar fyrder er mwyn sicrhau bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn cael ei ddiwygio’n sylfaenol a gweithio tuag at setliad tecach, sy'n fwy cyfiawn a chynaliadwy."
Mae darlith Keir Hardie yn dilyn cyhoeddi Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU, dogfen bolisi Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynllun 20 pwynt ar gyfer diwygio'r Undeb ac ymateb i'r heriau cyfansoddiadol sydd wedi'u creu yn sgil Brexit.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
- Dylai Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr barhau i gael eu cynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ Uchaf y Senedd ar ei newydd wedd, gydag aelodaeth a fydd yn bennaf neu'n llwyr etholedig, sy'n ystyried natur aml-genedl yr Undeb
- Dylai'r berthynas rhwng y pedair llywodraeth fod yn seiliedig ar bartneriaeth â phob un aelod ohoni yn gyfartal, ac yn parchu ei gilydd
- Dylid diwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol yn llwyr, gan gynnwys memoranda cyd-ddealltwriaeth, er mwyn bodloni'r heriau newydd a ddaw ar ôl Brexit
- Dylai'r gweinyddiaethau datganoledig gymryd rhan yn y gwaith o lunio polisi Llywodraeth y DU ar gysylltiadau rhyngwladol a masnach
- Dylai cyllid gael ei rannu'n deg ar draws pedair cenedl y DU
- Dylai aelodaeth y Goruchaf Lys adlewyrchu natur yr Undeb
- Dylid sefydlu confensiwn cyfansoddiadol i ystyried datblygiadau cyfansoddiadol yn y dyfodol
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn Cymru gref fel rhan o Deyrnas Unedig a gryfhawyd sy'n parhau’n aelod o Undeb Ewropeaidd a gryfhawyd.
“Ond, o ganlyniad i Brexit, mae amheuaeth erbyn hyn ynglŷn ag union ddyfodol y Deyrnas Unedig fel cynghrair wirfoddol o genhedloedd sy'n gweithio gyda'i gilydd er ein budd ni oll.
“Mae diwygio cyfansoddiad y DU yn fater hanfodol, sy'n rhaid inni roi sylw iddo ar fyrder. Mae'r cynllun hwn yn pennu lleiafswm yr hyn a ddylai fod yn ei le er mwyn cryfhau'r Undeb ar gyfer y dyfodol.”
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gwneud datganiad ynglŷn â'r ddogfen bolisi newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 15 Hydref.
Diwygio ein hundeb: cydlywodraethu yn y DU