Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (7 Awst), yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn lansio cronfa newydd ar gyfer prosiectau creadigol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y grant Cymraeg 2050, gwerth £300,000, yn ariannu prosiectau arloesol, tymor byr gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi grwpiau neu sefydliadau sydd â syniadau newydd i greu a hyrwyddo technoleg sy’n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae ymgorffori arferion cadarnhaol i ddefnyddio’r iaith, a hynny drwy gyfleodd ffurfiol ac anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg – boed hynny wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol, yn y gweithle neu ar lwyfannau digidol – yn rhan allweddol o strategaeth newydd y Gymraeg – Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr. Yn arbennig, bydd yn cefnogi ein hymdrechion i gynyddu defnydd pob dydd pobl o’r iaith.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:

“Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd pob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Mae’r gronfa hon yn ceisio ehangu ein gorwelion i dreialu syniadau newydd a gweithio gydag ystod eang o sefydliadau i roi cyfle i bawb ddefnyddio’r Gymraeg.

“Rydyn ni’n hollol glir mai ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw gosod y trywydd a chynnig arweinyddiaeth wrth gynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae’r gronfa yn bwynt cychwynnol cryf ar gyfer ein strategaeth Cymraeg 2050.”

Yn ogystal â’r targed o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae strategaeth Cymraeg 2050 hefyd yn cynnwys targed i gynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad yr iaith bob dydd, ac yn gallu siarad mwy na dim ond gair neu ddau o Gymraeg, o 10% (yn 2013-115) i 20% erbyn 2050.

Mae’r gronfa yn agored i sefydliadau o bob sector, ac nid yw wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n derbyn y grant ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu yn arbennig geisiadau gan ymgeiswyr newydd sy’n dymuno hyrwyddo’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd.

Bydd y broses ymgeisio ar agor heddiw (7 Awst) tan 22 Medi 2017.