Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog wedi dymuno'n dda i athletwyr Paralympaidd Cymru yn Rio de Janeiro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Meddai'r Prif Weinidog:

"Bydd cynrychiolaeth gref o Gymru yng ngemau Paralympaidd Rio dros y pythefnos nesaf, gyda 10% o dîm Paralympaidd Prydain yn dod o’n gwlad ni. Ar ôl llwyddiant ysgubol mewn amryw o chwaraeon yn y gemau Olympaidd, mae'n wych gweld bod ein hathletwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o gystadlaethau, o Saethyddiaeth ac Athletau i Gleddyfaeth a Rygbi Cadair Olwyn.

"Mae dawn ac ymroddiad ein athletwyr Paralympaidd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Drwy gael eu dewis i gynrychioli tîm Prydain yn y gemau Paralympaidd maent yn profi bod penderfyniad a gwaith caled yn gallu arwain at gyflawni pethau mawr. Rwy'n siŵr y bydd eu hymdrechion yn ysbrydoli llawer o bobl i fynd amdani drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a dechrau symud mwy.

"Pob lwc i sêr Cymru a thîm Paralympaidd Prydain – mae'r wlad gyfan yn eich cefnogi ac ry'n ni'n edrych ymlaen at weld perfformiadau gwych unwaith eto!"