Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi dymuno'n dda i athletwyr Olympaidd Cymru yng Ngemau Rio.
Ar drothwy'r seremoni agoriadol, siaradodd y Prif Weinidog am ei falchder yn llwyddiant diweddar Cymru ym maes chwaraeon a sut mae hyn wedi cyfrannu at y ffordd y mae'r wlad yn cael ei gweld yn rhyngwladol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae hwn yn gyfnod arbennig i chwaraeon ein gwlad, ac yn gyfnod gwych i fod yn gefnogwr o Gymru. Daeth aelodau’n tîm pêl-droed adref yn arwyr ar ôl creu hanes yn Ewro 2016 - a gwireddu breuddwyd - wrth gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth gyffrous.
"Rwy'n ffyddiog y bydd y llwyddiant hwn mewn chwaraeon yn parhau yn enwedig o ystyried nad oes cymaint â hyn o athletwyr o Gymru erioed wedi cystadlu mewn gemau Olympaidd dramor.
"Mae llwyddiant ein chwaraewyr a'n hathletwyr yn anhygoel. Rwy'n gobeithio bydd gwylio ein hathletwyr Olympaidd yn cystadlu yng Ngemau Rio yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i ddilyn yr un trywydd a chymryd rhan mewn chwaraeon.
"Pob lwc i sêr Cymru – mae'r byd yn eich gwylio felly ewch amdani a rhowch ein gwlad ar y map!"