Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones wedi ymrwymo i ddarparu buddsoddiad ychwanegol i roi hwb i Forlyn Llanw Bae Abertawe, ac mae'n galw ar Lywodraeth y DU i roi golau gwyrdd i'r prosiect.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad â Phrif Swyddog Gweithredol y morlyn llanw, Mark Shorrock y bore yma, mynegodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth i'r prosiect unwaith eto gan ddweud ei fod yn barod i ddarparu buddsoddiad ychwanegol sylweddol i lansio'r prosiect.  


Mae hyn yn dilyn llythyr a anfonodd Carwyn Jones at Theresa May yn cynnig talu rhywfaint o gostau cyfalaf y morlyn llanw, gan annog Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r prosiect. 

Cyhoeddwyd adroddiad Hendry ar 12 Ionawr llynedd, ac roedd yn dod i'r casgliad bod tystiolaeth glir bod modd i forlynnoedd llanw chwarae rhan gosteffeithiol yng nghynlluniau ynni'r DU, a bod gwerth sylweddol i brosiect bach fel hwn. Fodd bynnag, flwyddyn yn ddiweddarach, nid yw Llywodraeth y DU wedi dod i benderfyniad ar y prosiect.  

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

"Hwn fyddai pwerdy morlyn llanw cyntaf y byd. Byddai'n creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel, cyflenwi cyfran sylweddol o anghenion ynni'r DU a gosod Prydain fel arweinydd ar lwyfan y byd mewn diwydiant newydd. 

"Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn llusgo'i thraed am dros flwyddyn. Mae hyn wedi arwain at rwystredigaeth cynyddol ymysg cymuned fusnes Cymru a pherygl cynyddol y bydd diffyg penderfyniad yn troi i fod yn benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen.

"Nawr mae'n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi'r gorau i'r oedi, a symud ymlaen i gytuno ar bris er mwyn i ni wireddu'r prosiect arloesol hwn."