Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford heddiw wedi cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwobrau Dewi Sant yw’r gwobrau cenedlaethol sy'n cydnabod llwyddiannau rhyfeddol a chyfraniadau gwych ym mhob maes gan bobl yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru.

Wrth gyhoeddi pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Dyma'r tro cyntaf i mi gymryd rhan yng Ngwobrau Dewi Sant, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr holl dalent anhygoel sydd gan Gymru mewn cymaint o wahanol feysydd wedi creu argraff fawr arna i. Mae'r gwobrau hyn yn ddathliad, yn cydnabod llond dwrn o bobl anhygoel o'r cannoedd a gafodd eu henwebu. Mae cyfraniadau'r bobl hyn yn arwrol; gan wneud gwahaniaeth sylweddol, goresgyn problemau a chyflawni rhywbeth gwirioneddol ysbrydoledig.

"Mae bob un sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant yn eithriadol - mae pob person a sefydliad yma yn destun balchder i'n gwlad. Rwy'n edrych ymlaen at gael dathlu eu llwyddiannau aruthrol yn y seremoni wobrwyo ar 21 Mawrth."

Y categorïau yw: Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon a Pherson Ifanc.

Dyma'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:

Dewrder

Andrew Niinemae

Peryglodd Andrew ei fywyd ei hun yn ceisio atal car rhag gyrru i mewn i griw o oddeutu 20 o bobl y tu allan i dafarn ar Stryd Fawr yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Cafodd niwed difrifol i'w goes, ond llwyddodd i atal niwed difrifol i bobl eraill yn y digwyddiad. Roedd ymateb Andrew yn reddfol ac yn ddewr gan roi bywydau pobl eraill cyn ei fywyd ei hun. Dywed llygad-dystion y gallai nifer o bobl fod wedi cael niwed ac o bosibl eu lladd pe na bai Andrew wedi ymyrryd.

Ceri ac Aaron Saunders

Roedd Ceri ac Aaron Saunders yn hollol anhunanol pan aethant i helpu rhywun oedd mewn trafferthion yn y môr ar Benrhyn Gŵyr. Roedd y ddau yn treulio'r penwythnos yn gwersylla yn yr ardal a phan aethant am dro, llwyddodd y fam a mab i achub bachgen deg oed oedd yn cael ei ysgubo i'r môr yn y Pwll Glas, ger Bae Broughton. Cafwyd cadarnhad gan yr RNLI bod y sefyllfa yn beryglus iawn a bod y bachgen yn lwcus i Ceri ac Aaron ymateb a'u bod wedi helpu i achub ei fywyd.

Darran Kilay

Rhoddodd Darran ei hun mewn sefyllfa hynod o beryglus, a oedd yn fygythiad posib i'w fywyd, er mwyn helpu swyddogion yr heddlu pan ddaeth dyn ato ef a'i gydweithiwr yn chwifio cyllell. Rhoddodd Darran wybod i'r heddlu ar unwaith, ac yna dilynodd y dyn wrth iddo redeg i ffwrdd. Wedi rhedeg ar ei ôl, llwyddodd i helpu'r Heddlu i'w ddal. Cafodd Darran ei ganmol gan farnwr yn yr achos a'i gymeradwyo am ei ddewrder, ond ym marn Darran, dim ond gwneud ei waith ydoedd.

Dinasyddiaeth

Bugeiliaid y Stryd Caerdydd

Mae Bugeiliaid y Stryd Caerdydd yn fenter gan 25 o eglwysi lleol. Mae gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi yn mynd o amgylch Canol Dinas Caerdydd ar nos Wener a Sadwrn i helpu'r rhai sydd mewn angen. Maent yn cydweithio â Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a busnesau lleol gyda'u tîm o dros 60 o fugeiliaid stryd sydd wedi rhoi miloedd o oriau o wasanaeth i economi gyda'r nos yng Nghaerdydd.

Emma Picton-Jones

Sefydlodd Emma Jones y DPJ Foundation yn 2016 wedi i'w gŵr Daniel, contractwr amaethyddol, gyflawni hunanladdiad oherwydd problemau iechyd meddwl. Mae'r elusen yn helpu pobl yn y gymuned wledig sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig dynion yn y sector amaethyddol. Mae Emma hefyd yn siarad mewn nifer o ddigwyddiadau amaethyddol i godi ymwybyddiaeth o'u gwaith gydag eraill allai adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl ymhlith eu cwsmeriaid. Mae Emma hefyd wedi codi oddeutu £75,000 i gefnogi gwaith yr elusen hon.

Glenys Evans

Glenys yw un o'r rhieni sefydlodd Ganolfan Therapi Plant Bobath Cymru, elusen sy'n rhoi therapi arbenigol i blant sy'n cael diagnosis o barlys yr ymennydd a chefnogaeth i'w teuluoedd. Mae gan ei mab, Thomas barlys yr ymennydd ac roedd Glenys yn ei gweld yn anodd gorfod teithio i Lundain i gael therapi arbenigol. Gydag ychydig o rieni eraill, helpodd sefydlu Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru yn 1992. I nodi 20fed pen-blwydd Bobath Cymru, aeth Glenys ar daith 100km yn y Sahara a chodi £20,000 i'r elusen.

Janet Rogers MBE

Mae Janet yn wirfoddolwr ac yn gynrychiolydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ponthafren. Sefydlwyd yr elusen yn 1992 i roi amrywiol wasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl yng Ngogledd Powys ac roedd Janet yn ymddiriedolwr am naw mlynedd. Mae Janet yn gyfrifol am edrych ar ôl gardd gymunedol Ponthafren yn y Drenewydd, ac wedi rhannu ei phrofiad ei hun o ddioddef problemau iechyd meddwl gyda nifer o sefydliadau yng Nghymru er mwyn iddynt allu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Diwylliant

Elfed Roberts

Tan iddo ymddeol ym mis Awst, Elfed Roberts oedd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, swydd fu ganddo am 25 mlynedd. O dan arweiniad Elfed, mae'r Eisteddfod wedi datblygu'n sylweddol, gan gynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ymwelwyr â'r ŵyl. Drwy gydol y cyfnod hwn, sicrhaodd Elfed bod y Gymraeg a threftadaeth Cymru yn ganolog i'r cyfan. Roedd Eisteddfod olaf Elfed yn amlygu yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni dros y 25 mlynedd diwethaf; sicrhau bod yr Eisteddfod yn berthnasol i fywyd cyfoes Cymru, gan ddenu miloedd o siaradwyr Cymraeg, y di-Gymraeg a dysgwyr bob blwyddyn.

Fiona Stewart

Fiona Stewart yw Prif Weithredwr a pherchennog gŵyl flynyddol y Dyn Gwyrdd ddechreuodd yn 2003. Dyma'r ŵyl gelf a gwyddoniaeth gyfoes fwyaf yng Nghymru, un o bum gŵyl gerddoriaeth annibynnol fawr yn y DU, ac mae'n cael ei chynnal ym Mannau Brycheiniog. Dyma'r unig fenyw sy'n berchen ar ac sy'n rheoli gŵyl fasnachol fawr yn y DU. Mewn marchnad gystadleuol, mae'r Dyn Gwyrdd yn parhau i werthu'r tocynnau i gyd bob blwyddyn, gan ddenu 25,000 o bobl y diwrnod o bob cwr o'r byd i Ganolbarth Cymru. Cafodd Elusen Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ei sefydlu yn 2013 ac mae wedi cefnogi 3,000 o artistiaid, wedi hyfforddi 2,000 o bobl, a chefnogi 200 o brosiectau gwyddoniaeth a 27 o brosiectau cymunedol yng Nghymru.

Cwmni Theatr Hijinx

Mae Hijinx yn gwmni theatr ledled Cymru sydd bob amser yn defnyddio actorion ag anawsterau niwrolegol ac actorion sydd ag anableddau dysgu yn eu cynyrchiadau theatr llwyddiannus. Mae Hijinx yn defnyddio'r theatr i fynd i'r afael â'r broblem gymdeithasol gymhleth o integreiddio anabledd dysgu yn y gweithle ac o fewn cymdeithas. Nod Hijinx yw lleihau anghydraddoldeb. Maent yn credu y dylai pawb gael yr hawl i addysg ddiwylliannol ac i ddilyn bywyd deinamig, creadigol.

Theatr Clwyd

Tamara a Liam sy'n arwain theatr gynhyrchu fwyaf Cymru. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae Theatr Clwyd wedi creu 23 o gynyrchiadau sydd wedi eu cymeradwyo gan y beirniaid, ac mae dros 700,000 o bobl wedi gweld sioeau sydd wedi'u cynhyrchu a'u cyflwyno gan y sefydliad llwyddiannus hwn. Mae llwyddiannau niferus Theatr Clwyd dros y 24 mis diwethaf yn cynnwys creu cwmnïau cymunedol newydd, gan ymwneud ag amrywiol grwpiau oedran.

Menter

Hilltop Honey

Sefydlwyd Hilltop Honey yn 2011, ac ers hynny, mae'r cwmni wedi gweld twf anhygoel gyda'r trosiant yn cynyddu o £234,000 i dros £4 miliwn. Hilltop Honey oedd y cwmni cyntaf i werthu mêl organig Masnach Deg, ac mae eu holl gynnyrch ar gael mewn potiau gwydr y mae modd eu hail-ddefnyddio a photeli y gellir eu hailgylchu 100%. Mae'r cwmni hefyd yn cyfrannu 25% o'i elw i elusen blant.

Jem Skelding

Jem yw Prif Swyddog Gweithredol Naissance, cwmni sy'n gwerthu cynnyrch iechyd a harddwch organig naturiol. Mae'r cwmni o Gastell-nedd wedi datblygu'n sylweddol a bellach yn cyflogi 134 aelod staff yn y DU a'r Almaen ac yn cynhyrchu mwy na 1,000 o nwyddau. Mae Jem wedi creu partneriaethau gyda thyfwyr cynaliadwy a moesegol ledled y byd, gan ddod o hyd i'r deunydd crai gorau a sicrhau bod tyfwyr yn derbyn y pris gorau ar gyfer eu cynnyrch. Un enghraifft o hyn yw'r cwmni cydweithredol o fenywod yn Ghana, lle mae 600 o fenywod yn cefnogi cymuned o dros 2,400 o unigolion.

Steve Downey

Steve Downey yw perchennog busnes Hannaman Material Handling, o Lannau Dyfrdwy. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn darparu gwasanaeth trin deunyddiau llawn i'w cwsmeriaid trwy gyflenwi a gwasanaethu tryciau fforch godi, platfformau mynediad, systemau rheoli fflyd, hyfforddiant i ddefnyddwyr ac offer gofalu am loriau diwydiannol. Yn dilyn gyrfa gyda'r lluoedd arfog, prynodd Steve y cwmni yn 2013 ac mae wedi troi'r cwmni yn fusnes modern, effeithiol sy'n creu elw ac sydd ag enw da am gyflenwi cynnyrch o safon a gwasanaeth rhagorol.

Rhyngwladol

Dr Laith Al-Rubaiy

Gastroenterolegydd o Gaerdydd yw Dr Al-Rubaiy. Wedi graddio o Goleg Meddyginiaeth Basra yn Iraq, daeth i'r DU yn 2005. Er mai dim ond ychydig o weithiau y bu iddo ymweld â'i wlad enedigol yn ystod ei gyfnod yng Nghymru, penderfynodd wirfoddoli gyda'r AMAR Foundation i ddarparu triniaethau meddygol i rai o ddinasyddion tlotaf Iraq. Yn ogystal â helpu i sefydlu clinig symudol, mae Dr Al-Rubaiy yn ddarlithydd clinigol yn Ysgol Feddyginiaeth Prifysgol Abertawe.

Liam Rahman

Yn dod o Sir Gaerfyrddin, astudiodd Liam yng Ngholeg Yale-NUS (Singapôr) a Phrifysgol Yale (USA), gan raddio mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Dychwelodd i Gymru yn 2017, gan ddod yn Gyfarwyddwr E-Qual Education, cwmni a sefydlodd ar y cyd yn 2011 ac sydd bellach yn cyflogi dros 100 o bobl yng Nghymru. Mae Liam yn gefnogwr brŵd i'r Rhwydwaith Seren, menter arloesol Llywodraeth Cymru i helpu disgyblion gael lle yn y prifysgolion gorau, ac mae'n fentor i fyfyrwyr ac yn arwain ysgolion i ddysgu mwy am gyfleoedd rhyngwladol.

Rhinal Patel

Magwyd Rhinal Patel ym Mhontypridd. Rhoddodd y gorau i yrfa broffil uchel yn gweithio gydag enwogion i deithio'r byd a helpu pobl llai ffodus na hi ei hun. Ar ôl rhoi ei harian teithio i gyd i blant y slymiau yn India, teithiodd adref heb arian. Mae bellach wedi sefydlu elusen o'r enw "Pursuit of Happiness" ac mae’n cynnal gweithdai ar hawliau dynol mewn partneriaeth â sefydliadau rhyngwladol megis Amnest Rhynwgladol, ar ofalu am yr amgylchedd a mwynhau'r funud.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Canolfan Arloesi Cerebra

Mae Cerebra yn elusen sy'n gweithio i helpu teuluoedd â phlant sydd â chyflyrau ar yr ymennydd i ganfod bywyd gwell gyda'i gilydd. Maent wedi sefydlu partneriaeth gyda Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu Canolfan Arloesi Cerebra (CIC). Gyda'u canolfan yng Ngholeg Celf Abertawe, mae tîm o beirianwyr yn cynllunio ac yn creu cynnyrch arloesol, pwrpasol i helpu plant anabl i ddarganfod y byd o'u hamgylch. Mae eu cynlluniau yn ddeniadol a chyffrous yn ogystal â defnyddiol, gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac yn golygu bod yn plant yn maent yn eu helpu yn cael eu derbyn gan blant eraill. Mae'r cynnyrch a'r cymorth yn cael ei roi yn rhad ac am ddim.

Go Safe Cymru

Mae GoSafe Cymru yn bartneriaeth rhwng y pedwar llu heddlu, y 22 awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru a'u nod yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb drwy ddylanwadu ar ymddygiad pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd. Gyda chamerâu ar y sgrîn wynt yn dod yn fwy poblogaidd a mwy o feicwyr a'r rhai sy'n marchogaeth yn gwisgo camerâu ar eu helmedau, bu cynnydd mawr yn y dystiolaeth fideo sy'n cael ei anfon at heddluoedd Cymru. Mae gwefan GoSafe yn galluogi'r cyhoedd i lanlwytho eu tystiolaeth fideo a gwneud datganiad ynghylch y drosedd y maent wedi ei gweld. Mae 200 o gyflwyniadau y mis bellach yn cael eu hanfon drwy'r system.

Ian Bond

Mae Ian Bond, dyn busnes wedi ymddeol o Aberdâr, wedi defnyddio ei gyflwr cronig, sy'n cyfyngu ar ei fywyd i greu busnes llwyddiannus sy'n cynnig systemau iechyd digidol. Gyda'i bartner busnes, Dave Taylor, sefydlodd Bond Digital Health Ltd yng Nghaerdydd yn 2016, gan gydweithio gyda prifysgolion lleol i greu dyddiadur clyfar ac ap allai helpu cleifion â chyflyrau cronig i fonitro eu hiechyd. Mae Mr Bond hefyd yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i helpu i ddatblygu ap dyddiadur electronig fydd yn helpu cleifion COPD i reoli eu cyflwr.

Chwaraeon

Geraint Thomas OBE

Roedd 2018 yn flwyddyn wych i'r beiciwr Geraint Thomas a enillodd y ras eiconig Tour de France yr haf diwethaf. Ef oedd y Cymro cyntaf i ennill y digwyddiad a dim ond y trydydd beiciwr o Brydain, ynghyd â Syr Bradley Wiggins a Chris Froome. Cafodd groeso mawr adref mewn digwyddiad yng Nghaerdydd gyda dros 10,000 o bobl yn bresennol i longyfarch Geraint ar ei lwyddiant. Cafodd Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd ei ail-enwi yn Felodrom Geraint Thomas.

Jess Fishlock MBE

Mae Jess Fishlock o Gaerdydd wedi bod yn aelod o dîm Cenedlaethol Menywod Cymru ers 2006. Yn 2017, Jess oedd y chwaraewr cyntaf (menyw neu ddyn) i ennill 100 cap i'r tîm cenedlaethol. Mae hefyd wedi ennill y teitl Peldroedwraig y Flwyddyn Cymru bedair gwaith. Mae Jess bellach wedi ymddangos 113 o weithiau dros dîm Cymru ac wedi sgorio 29 gôl. Roedd yn rhan bwysig o'r garfan yn eu hymdrech i gymhwyso ar gyfer Cwpan Menywod y Byd FIFA 2019, gan chwarae ym mhob gêm er gwaethaf yr ymrwymiadau teithio dwys. Mae ar fenthyg ar hyn o bryd i'r Olympique Lyonnais yn Ffrainc o Seattle Reign FC yn yr UDA.

Menna Fitzpatrick MBE

Yn ddim ond 19 mlwydd oed, daeth Menna Fitzpatrick i fod yn athletwr Paralympaidd chwaraeon y gaeaf mwyaf llwyddiannus Prydain erioed yng ngemau 2018. Mae nam ar olwg Menna gan mai dim ond 5% y mae'n gallu ei weld a gyda'i harweinydd Jennifer Kehoe, enillodd wobr efydd, dwy wobr arian ac un aur yn y Gemau Paralympaidd yn Pyeongchang. Cariodd y faner dros Dîm Prydain yn y seremoni i gloi’r gemau, ac ar ddiwedd mis Ionawr eleni, enillodd Menna a Jennifer ddwy fedal aur yn y Pencampwriaethau Sgïo Para Alpaidd yn yr Eidal. Menna oedd y person ieuengaf ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar, gan dderbyn MBE am ei gwasanaeth i'r chwaraeon.

Person ifanc

Bethan Owen

Mae Bethan yn ddisgybl chweched dosbarth ond ers yn ifanc, mae wedi bod yn helpu ei thad i ofalu am ei Mam sy'n dioddef o epilepsi. Pan oedd yn chwe mlwydd oed, cafodd Bethan ei chyflwyno i karate gan ei rhieni i roi ffocws iddi i ffwrdd o gyfrifoldebau y cartref. Erbyn iddi fod yn 12 oed, roedd gan Bethan wregys du ac roedd yn hyfforddwr karate cymwys. Unwaith yr oedd wedi cymhwyso, agorodd Bethan ei chlwb karate di-elw cyntaf i ofalwyr ifanc eraill rhwng chwech a naw oed. Mae'r clwb yn helpu i ddatblygu hyder, hunan-barch ac yn cynnig seibiant o gyfrifoldebau gofalu.

Hannah Adams

Mae Hannah yn ymgyrchydd gwrth-fwlio 17 oed o Gaerdydd. Mae'n defnyddio ei phrofiad ei hun o gael ei bwlio i helpu eraill. Yn saith mlwydd oed, symudodd Hannah o Lundain i Gaerdydd. Wedi symud, cafodd Hannah ei bwlio am flynyddoedd yn yr ysgol ac ar-lein. Yn 13 mlwydd oed, cymerodd y cam cyntaf drwy ddweud wrth ei mam am y bwlio. Cafodd ei chwnsela ac wedi i'w chwynion a'r cais am help gael eu hanwybyddu gan athrawon, penderfynodd newid ysgol. Mae Hannah bellach yn ferch ifanc gymdeithasol, ac yn hapus yn ei hysgol newydd, lle y mae ganddi ffrindiau ac athrawon sy'n ei chefnogi. Mae Hannah yn llysgennad gwrth-fwlio ar gyfer Gwobrau Diana. Mae'n siarad gydag eraill o'r un oedran i'w hannog i ddweud wrth rhywun ac i beidio dioddef yn dawel.

Lowri Hawkins

Mae Lowri wedi goroesi ar ôl dioddef camfanteisio rhywiol pan oedd yn blentyn. Mae hi wedi bod yn anhygoel o ddewr yn siarad yn gyhoeddus am yr hyn ddigwyddodd iddi. Tystiodd yn erbyn yr un wnaeth ei cham-drin, a chafodd y troseddwr ei ddedfrydu a’i garcharu o ganlyniad. Er bod y troseddau yn ei herbyn a’r broses cyfiawnder troseddol wedi cael effaith sylweddol ar iechyd a lles Lowri, mae hi wedi gwirfoddoli i helpu asiantaethau i wella eu hymateb i achosion o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Mae Lowri wedi rhoi cryn dipyn o’i hamser i ymwneud ag ymarferwyr, uwch arweinwyr a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i roi adborth ar y ffordd y gallai’r heddlu a chyrff eraill wella’r gwasanaeth a roddir i blant. Ar hyn o bryd, mae Lowri’n astudio cwrs gofal cymdeithasol. Mae hi wedi ymrwymo i helpu i ddiogelu plant sy’n agored i niwed.